19 C
Llanelli
Sunday, September 20, 2026
Home Environmental News Dŵr Cymru’n arwain ei ddiwydiant o ran lefelau boddhad cwsmeriaid

Dŵr Cymru’n arwain ei ddiwydiant o ran lefelau boddhad cwsmeriaid

0
512
0f5c64b353c9462ca69fb32dc89e1cdd
0f5c64b353c9462ca69fb32dc89e1cdd
 

  • Dwr Cymru Welsh Water (DCWW) yn datgelu cynnydd yn y sgôr am ymddiriedaeth yn Dŵr Cymru i 8.3/10, o gymharu â chyfartaledd o 7.86 yn Lloegr 
  • Y cwmni sy’n arwain y sector trwy gynorthwyo dros 130,000 o gwsmeriaid i dalu eu biliau trwy’r pandemig 
  • Ychwanegwyd 340,000 o gwsmeriaid bregus at Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth y cwmni dros dro er mwyn cynnig cymorth ychwanegol iddynt
Mae adroddiad annibynnol wedi datgelu bod aelwydydd yng Nghymru sy’n gwsmeriaid i Ddŵr Cymru’n fwy bodlon ar eu gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth ar y cyfan na chwsmeriaid yn Lloegr, ac mae’r cwmni’n dal i fod gyda’r gorau yn y sector dŵr am ennyn ymddiriedaeth cwsmeriaid.

Yn ôl adroddiad y Cyngor Defnyddwyr Dŵr (CCW), roedd lefelau ymddiriedaeth a boddhad cwsmeriaid yn uwch yng Nghymru – lle’r cwmni nid-er-elw Dŵr Cymru yw’r darparydd mwyaf – o ran gwasanaethau dŵr, carthffosiaeth ac adwerthu, ac am werth am arian hefyd.

Dŵr Cymru yw’r unig gwmni dŵr nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr. Mae hynny’n golygu nad oes unrhyw gyfranddeiliaid ganddo – ac mae’n buddsoddi unrhyw arian y mae’n ei wneud yn ei wasanaethau ac er budd ei gwsmeriaid.

Llwyddodd y cwmni, sydd â gweledigaeth i ennill ffydd ei gwsmeriaid bob un dydd, i gynnal sgoriau uchel ar draws yr holl gategorïau, a rhagorodd ar ei ganlyniadau blaenorol ym maes gofal ac ymddiriedaeth, yn ogystal â boddhad cyffredinol â’r gwasanaethau cyflenwi dŵr a charthffosiaeth. Y Cyngor Defnyddwyr Dŵr yw cynrychiolydd annibynnol defnyddwyr dŵr domestig a busnes yng Nghymru a Lloegr a chadarnhaodd ei adroddiad bod:

  • ymddiriedaeth gyffredinol yn y cwmni wedi cynyddu o 7.95/10 yn 2019 i 8.3/10 yn 2020 (o gymharu â 7.86 yn Lloegr);
  • 96% o gwsmeriaid wedi nodi eu bod yn fodlon ar y cyfan ar eu gwasanaethau dŵr (o gymharu â 92% yn Lloegr);
  • 88% o gwsmeriaid wedi nodi eu bod yn fodlon ar y cyfan ar eu gwasanaethau carthffosiaeth (o gymharu ag 85% yn Lloegr); a bod
  • 81% o gwsmeriaid yn cytuno bod y cwmni’n ystyriol o’r gwasanaeth y mae’n ei ddarparu (o gymharu â 71% yn Lloegr).

Mae Dŵr Cymru wedi cyflwyno cyfres o fesurau newydd dros y 12 mis diwethaf er mwyn cynorthwyo cwsmeriaid yn ystod pandemig Covid 19. Mae hyn wedi cynnwys cynorthwyo 5,000 o aelwydydd mewn angen ariannol, gohirio taliadau tua 45,000 o fusnesau a orfodwyd i gau am gyfnod yn sgil cyfyngiadau cymdeithasol y Llywodraeth, ac ychwanegu dros 340,000 o gwsmeriaid bregus at y Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth i gael cymorth ychwanegol petai problem gyda’u cyflenwadau yn ystod y pandemig. Mae’r cwmni’n dal i arwain y sector hefyd trwy gynorthwyo dros 130,000 o gwsmeriaid i dalu eu biliau dŵr. 

Dywedodd Peter Perry, Prif Weithredwr Dŵr Cymru: “Fel yr unig gwmni nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr, mae darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid wrth galon popeth a wnawn, a dyna yw ein blaenoriaeth bennaf. 

“Mae hi wedi bod yn flwyddyn ddigynsail ac ymestynnol wrth i ni ymateb i COVID-19 a chynnal ein gwasanaethau o dan amodau anodd iawn. Rydyn ni’n benderfynol o adeiladu rhagor ar hyn, a sicrhau ein bod ni’n diwallu disgwyliadau cynyddol ein cwsmeriaid. Mae hyn yn cynnwys harneisio newid technolegol er mwyn darparu gwasanaeth wedi ei bersonoleiddio ar gyfer cwsmeriaid, a hynny wrth gynnal  gwasanaethau o safon uchel a gwerth da am arian.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.