6.9 C
Llanelli
Sunday, February 1, 2026
Home Environmental News Prosiect gwyddoniaeth newydd i ddinasyddion y Parc Cenedlaethol yn galw ar bawb...

Prosiect gwyddoniaeth newydd i ddinasyddion y Parc Cenedlaethol yn galw ar bawb i fod yn wyllt!

0
370
iNaturalist1small
iNaturalist1small

Mae prosiect newydd cyffrous, sy’n annog pobl i gael hwyl ac ymgysylltu mwy â byd natur, wedi cael ei lansio gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Mae Look Wild yn brosiect sy’n cynnwys pob un o’r 15 Parc Cenedlaethol yn y DU, a dyma’r prosiect gwyddoniaeth dinasyddion mwyaf hyd yma sy’n cynnwys pob un o’r 15 Parc. Gan ddefnyddio’r ap iNaturalist i adnabod natur, gofynnir i aelodau’r cyhoedd gyfrannu at well dealltwriaeth o fywyd gwyllt a bioamrywiaeth drwy gofnodi’r planhigion, yr anifeiliaid a’r pryfed maen nhw’n eu gweld pan fyddan nhw allan.

Mae Wardeiniaid Awdurdod y Parc wedi gweithio’n galed am nifer o flynyddoedd i wella bioamrywiaeth yn y dolydd yn Skrinkle.

Lansiwyd y prosiect yn Sir Benfro ddydd Sadwrn 3 Gorffennaf gyda digwyddiad Dathlu Dolydd am ddim yn Skrinkle Haven. Roedd Parcmyn Ifanc Arfordir Penfro wrth law i helpu gyda’r gweithgareddau, a oedd yn cynnwys cyflwyniad i’r prosiect Look Wild, sesiynau sgubo rhwydi a thaith gerdded dywys drwy’r dolydd lle mae Wardeiniaid Awdurdod y Parc wedi gweithio’n galed am nifer o flynyddoedd i wella bioamrywiaeth.

Dywedodd Parcmon Darganfod Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Tom Moses: “Rydyn ni’n falch iawn o gymryd rhan yn y prosiect hwn gan Barciau Cenedlaethol y DU, sy’n ceisio helpu pobl i fwynhau a chysylltu â natur, gan gefnogi cadwraeth ar yr un pryd.

“Dydy llawer o bobl ddim yn sylweddoli pa mor bwysig yw cofnodi ymweliadau â bywyd gwyllt yn ein brwydr yn erbyn colli bioamrywiaeth – os yw’r gwyddonwyr yn gwybod beth sydd ar gael, maen nhw mewn sefyllfa well i’n helpu ni i gyd i ofalu amdano. Mae’r apiau’n hwyl i’w defnyddio, yn eich galluogi chi i greu eich casgliad eich hun o olygfeydd, i gwblhau heriau ac i ddod o hyd i unrhyw blanhigion ac anifeiliaid nad ydych chi’n gyfarwydd â nhw.

“I deuluoedd a phlant, neu’n wir i unrhyw un sy’n cymryd rhan, mae’n ffordd wych o droi taith gerdded yn antur, i helpu gyda llesiant ac i helpu i drawsnewid y diffyg cyswllt â natur a welwyd yn y blynyddoedd diwethaf. Gellir recordio golygfeydd yn unrhyw le, hyd yn oed yn eich gardd neu yn eich mannau gwyrdd lleol – mae’r cyfan yn helpu.”

Look Wild yw’r prosiect gwyddoniaeth dinasyddion mwyaf hyd yma sy’n cynnwys pob un o’r 15 Parc Cenedlaethol.

Ychwanegodd Tom: “Mae modd i bawb fynd at y dolydd yn Skrinkle o’r maes parcio, ac i’r rheini sy’n fodlon camu ymhellach, gellir cyfuno ymweliad ag archwilio Cilfachau Drws yr Eglwys a Traethau Skrinkle Haven.”

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect Look Wild ac i lawrlwytho ap iNaturalist, ewch i www.nationalparks.uk/look-wild. Mae fersiwn symlach a mwy addas i blant o ap iNaturalist, o’r enw Seek, hefyd ar gael i’w lwytho i lawr ar ddyfeisiau Android ac Apple.

I gael gwybod am ddigwyddiadau eraill sy’n cael eu cynnal yn y Parc Cenedlaethol, ewch i https://www.arfordirpenfro.cymru/events.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.