6.1 C
Llanelli
Wednesday, February 4, 2026
Home Newyddion Lle Llacio cyfyngiadau ymweliadau â chartrefi gofal wrth i gynllun adferiad gofal cymdeithasol...

Llacio cyfyngiadau ymweliadau â chartrefi gofal wrth i gynllun adferiad gofal cymdeithasol gael ei lansio

0
508
Ty Enfy 1 2 scaled
Ty Enfy 1 2 scaled

Cyhoeddodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, bod ymweliadau gan deulu a ffrindiau â phreswylwyr cartrefi gofal yn bwysicach nawr nag erioed, wrth iddi siarad â phreswylwyr cartref gofal Tŷ Enfys yng Nghaerdydd.

Wrth i Gymru symud i lefel rhybudd un, mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru’r canllawiau ar ymweliadau â chartrefi gofal, gyda’r cyfyngiadau’n cael eu llacio o ddydd Llun [19 Gorffennaf] ymlaen. Er bod rhai mesurau megis profi ymwelwyr ar gyfer ymweliadau dan do, a chynnal asesiadau risg ar gyfer ymweliadau yn parhau yn eu lle, mae cyfyngiadau eraill wedi cael eu llacio ymhellach. Nid oes bellach angen i breswylwyr ynysu pan fydd yn dychwelyd ar ôl aros dros nos yn rhywle arall, a chaniateir diddanwyr mewn ardaloedd dan do mewn cartref er mwyn galluogi preswylwyr i ailgydio yn y gweithgareddau maent yn eu mwynhau. Er bod y canllawiau yn cynghori y dylid bod yn ofalus wrth gael cyswllt corfforol agos megis cofleidio, maent bellach yn rhoi cyngor pellach ar sut y gellid rheoli’r risgiau hyn.

Ty Enfys Staff

Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Rwy’n llawn sylweddoli pa mor anodd mae’r pandemig wedi bod i bobl sy’n byw mewn cartrefi gofal, eu hanwyliaid ac yn wir, i’r staff. Mae’r effaith y mae’r coronafeirws wedi’i chael ar y sector yn fwy nag unrhyw beth o’r blaen, ac mae pobl sydd angen gofal a chymorth, gofalwyr di-dâl a’r gweithlu gofal cymdeithasol i gyd wedi cael eu effeithio.

“Wrth inni symud tuag at adfer, mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod preswylwyr cartrefi gofal yn cael yr un cyfleoedd â gweddill y boblogaeth i weld eu hanwyliaid eto mewn ffordd ystyrlon yn eu cartrefi, a thu allan. Bydd y canllawiau diweddaraf yn llacio cyfyngiadau ymhellach ac yn cefnogi darparwyr cartrefi gofal i symud at lefel mwy normal o ymweld.”

Ty Enfys Visit

Ar ein hymweliad â Tŷ Enfys, lansiodd Julie Morgan Fframwaith ar gyfer Adferiad Gofal Cymdeithasol. Mae’r Fframwaith yn nodi’r blaenoriaethau ar gyfer adferiad gofal cymdeithasol yng Nghymru, gyda ffocws clir ar flaenoriaethau adfer brys y mae angen mynd i’r afael â nhw ar unwaith.

Mae’r blaenoriaethau’n cynnwys:

  • Canolbwyntio ar ailadeiladu llesiant, lleihau anghydraddoldeb, ehangu cyfranogiad a chreu cymdeithas gynhwysol
  • Cefnogi pobl â COVID Hir, gan gynnwys y galw cynyddol am ddarpariaeth gofal cymdeithasol
  • Parhau i sicrhau bod y risg y bydd COVID-19 yn mynd i gartrefi gofal yn cael ei leihau a bod ymweliadau’n cael eu cynnal yn ddiogel
  • Mynd i’r afael â’r effaith andwyol y mae COVID-19 yn ei chael ar ofalwyr di-dâl
  • Gwella telerau ac amodau’r gweithlu gofal cymdeithasol a sicrhau y rhoddir pwyslais parhaus ar gefnogi llesiant ac iechyd meddwl
Ty Enfys Visit

Dywedodd Ms Morgan:

“Mae’n hanfodol ein bod yn cefnogi’r sector gofal cymdeithasol i symud ymlaen. Mae’r Fframwaith ar gyfer Adferiad Gofal Cymdeithasol yn nodi ein blaenoriaethau brys a thymor byr ar gyfer ader. Mae adferiad gofal cymdeithasol yn gyfle i wneud gwelliannau sylweddol a chynaliadwy ar draws y sector. Mae’n hollbwysig ein bod yn defnyddio’r cyfnod adfer hwn i osod y sylfeini cywir ar gyfer dyfodol cryf a chadarnhaol i ofal cymdeithasol yng Nghymru, fel y mae’r Rhaglen Lywodraethu yn amlinellu, gan sicrhau bod y risg bod COVID-19 yn cyrraedd cartrefi gofal yn cael ei leihau a bod ymweliadau’n cael eu cynnal yn ddiogel.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.