16.2 C
Llanelli
Tuesday, September 29, 2026
Home Mid and West Wales Fire and Rescue Service £500 yn cael ei godi ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân trwy...

£500 yn cael ei godi ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân trwy werthu Hetiau Beanie

0
562
5a8c93da41b9455a9fcb6cf5e3335980
5a8c93da41b9455a9fcb6cf5e3335980

Mid & W Wales Fire News

Ganol haf, prynu het beanie fyddai’r peth olaf ym meddyliau’r mwyafrif o bobl, ond mae’r gwerthiannau o’r hetiau beanie cyfyngedig ac arnynt frand dathlu pen-blwydd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn 25 oed, eisoes wedi codi £500 ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân.

Y Rheolwr Gwylfa Adrian Davies yw dyfeisydd y cynllun, ac mae’n barod i gymryd rhagor o archebion ar gyfer y gaeaf sydd i ddod.

“Gan fod Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn dathlu ei ben-blwydd yn 25ain, cefais y syniad o greu rhywbeth gweledol i aelodau staff ei wisgo i nodi’r achlysur, a hefyd i godi arian i’n helusen, Elusen y Diffoddwyr Tân, ar yr un pryd.

Fy mab, Gareth, sy’n gweithio i gwmni criced (TNF Cricket) ac yn delio â dillad chwaraeon, a awgrymodd ein bod yn dylunio het beanie. Dangosodd i mi ddetholiad o’r eitemau y mae’r cwmni’n eu cynhyrchu, a phenderfynais fynd ar drywydd hyn trwy siarad â’r Gwasanaeth Tân a chael caniatâd i anfon ein bathodyn a’n logo at dîm dylunio’r cwmni.

Yn wreiddiol, roeddwn yn mynd i archebu 50 o hetiau, ond tyfodd y diddordeb yn gyflym, a bu’n rhaid i mi gynyddu’r archeb i 150 ar gyfer y swp cyntaf.

Mae’r adborth ar yr hetiau wedi bod yn gadarnhaol iawn a, hyd yn hyn, rydym wedi codi £500 ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân.

Gobeithio y bydd y galw yn cynyddu hyd yn oed yn fwy wedi i’r tywydd oerach ddychwelyd fel y gallwn godi mwy o arian i Elusen y Diffoddwyr Tân!”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.