5.4 C
Llanelli
Tuesday, February 3, 2026
Home Newyddion Lle Canolfan profi rheilffyrdd newydd o’r safon uchaf yn cael y golau gwyrdd

Canolfan profi rheilffyrdd newydd o’r safon uchaf yn cael y golau gwyrdd

0
353
GCRE scaled
GCRE scaled

Mae cynghorwyr lleol wedi rhoi sêl bendith i gyfleuster profi rheilffyrdd newydd o’r safon uchaf ar hen safle cloddio glo brig ym mhen cymoedd Dulais ac Abertawe.

Bydd y Ganolfan Rhagoriaeth Rheilffyrdd Fyd-eang – cyfleuster profi trenau, rheilffyrdd a thechnoleg – yn cael ei lleoli ar safle glo brig Nant Helen yn Onllwyn, sy’n cael ei weithredu ar hyn o bryd gan Celtic Energy.

Bydd y ganolfan yn darparu gallu unigryw yn y DU ac Ewrop. Bydd yn cefnogi arloesedd yn niwydiant rheilffyrdd y DU ac yn rhyngwladol drwy wasanaethau fel profi technolegau gwyrdd arloesol, a fydd yn sbardun ar gyfer arloesi carlam yn y diwydiant rheilffyrdd.

Bydd yn rhoi Cymru ar y map wrth fod y brif wlad ar gyfer gweithgynhyrchwyr trenau yn y DU ac yn rhyngwladol, gweithredwyr rhwydwaith, y diwydiant ehangach, y gadwyn gyflenwi a’r byd academaidd, i ymchwilio, profi a datblygu technolegau newydd arloesol sy’n sail i ddatgarboneiddio a datblygu ar gyfer y diwydiant rheilffyrdd byd-eang. Bydd hefyd yn brosiect magned am gyfleoedd newydd pellach, gan ddod â mwy o swyddi o safon a buddsoddiad i’n cymunedau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu’r syniad ar gyfer y ganolfan o’r newydd ac wedi cysylltu gydag arbenigwyr o bob rhan o’r diwydiant rheilffyrdd byd-eang i ddod â i’r pwynt hwn.  Mewn arwydd pellach o hyder Llywodraeth Cymru yn y prosiect, mae’n buddsoddi £50m i gefnogi’r gwaith o ddarparu’r cyfleuster newydd. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi addo buddsoddi £30m yn y prosiect.

Yr wythnos hon, mae aelodau’r pwyllgorau cynllunio yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Powys wedi rhoi sêl bendith terfynol i’r prosiect.

Meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Rwyf wrth fy modd bod y Ganolfan Ragoriaeth Rheilffyrdd Fyd-eang newydd yn Onllwyn wedi cael caniatâd cynllunio gan Gynghorwyr yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Powys.

“Bydd y ganolfan newydd yn helpu i greu’r genhedlaeth nesaf o swyddi o safon uchel, gan ddenu buddsoddiad a chyfleoedd newydd i bobl leol, gyrru technolegau newydd ac arloesedd, a’n helpu i wireddu ein huchelgais o greu economi gryfach a mwy llewyrchus, mewn Cymru wyrddach, lanach a chryfach.

“Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r cyfleuster hwn o’r safon uchaf yn glir. Rydym wedi sicrhau bod £50m ar gael i ddod â’r cyfleuster pwysig hwn i gymoedd Dulais ac Abertawe, fel rhan o gynlluniau ehangach i drawsnewid cymunedau’r cymoedd.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld y prosiect yn mynd rhagddo’n gyflym dros y misoedd nesaf.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Powys i ddatblygu cynigion ar gyfer y GCRE. Sefydlwyd menter ar y cyd yn 2019 rhwng Llywodraeth Cymru a chynghorau Powys a Chastell-nedd Port Talbot i gefnogi’r gwaith o ddatblygu a chyflawni prosiectau. Mae’r cynigion yn deillio o gydweithio â phartneriaid ac ymgysylltu ac ymgynghori helaeth â rhanddeiliaid a chymunedau lleol.

Mae cytundeb opsiwn tir wedi’i gwblhau ar gyfer y safle glo brig Nant Helen a golchfa lo Onllwyn, a fydd yn gweld Celtic Energy yn rhoi’r holl dir angenrheidiol ar gyfer y prosiect.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.