8.6 C
Llanelli
Sunday, March 8, 2026
Home Newyddion Lle Cynllun mawr i wella cydnerthedd a diogelwch ar yr A55 yn gwneud...

Cynllun mawr i wella cydnerthedd a diogelwch ar yr A55 yn gwneud cynnydd da

0
357
Lesley Griffiths Visit 11 scaled
Lesley Griffiths Visit 11 scaled

Welsh Government

Mae cynllun ar yr A55 gwerth £30 miliwn i wella diogelwch, amddiffyn rhag llifogydd yn well a darparu llwybr teithio llesol newydd yn gwneud cynnydd da, dywedodd Gweinidog Gogledd Cymru ar ôl ymweld â’r safle.

Bydd y cynllun ar ffordd Aber i Dai’r Meibion yn gwella diogelwch a chydnerthedd ar hyd darn 2.2km o’r ffordd drwy gael gwared ar fynediad uniongyrchol oddi ar y ffordd, yn ogystal a chael gwared ar wyth bwlch yn y llain ganol sydd ar hyn o bryd yn caniatáu i gerbydau amaethyddol araf groesi’r A55.   Bydd hefyd yn amddiffyn y ffordd yn well rhag llifogydd, gan adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi cael ei wneud i fynd i’r afael ag effaith newid hinsawdd.

Mae pedair cilometr o lwybrau teithio llesol hefyd yn rhan o’r cynllun, a fydd yn annog rhagor o gerdded a beicio yn yr ardal.

Mae’r gwaith yn cael ei wneud gan y contractwyr Alun Griffiths, sy’n cyflogi gweithlu lleol yn bennaf. Mae Griffiths yn hyfforddi dau brentis peirianneg ac yn cyflogi myfyriwr rheoli prosiectau graddedig am bythefnos ym mis Awst i’w helpu i ennill profiad gwaith.

Yn ystod yr ymweliad cyfarfu’r Gweinidog â Syrfëwr Meintiau dan Hyfforddiant, Aled Griffith, sy’n dod o Wynedd.

Dywedodd Gweinidog Gogledd Cymru, Lesley Griffiths: “Mae’r cynllun mawr hwn ar yr A55 yn bwysig er mwyn gwella cydnerthedd a diogelwch ar y darn hwn o’r ffordd. Mae nifer o broblemau sydd angen sylw, fel y mannau croesi ar draws y ffordd a rhagor o lawiad o ganlyniad i newid hinsawdd. Mae’r cynllun hefyd yn darparu yn well ar gyfer beicwyr a cherddwyr gyda phedair cilometr ychwanegol o lwybrau teithio llesol.

“Rwy’n falch fy mod wedi cael y cyfle i gwrdd â rhai o’r bobl leol sy’n gweithio ar y prosiect. Mae’n dda gen i weld, yn ogystal a gwella diogelwch ar y darn prysur hwn o ffordd, mae’r cynllun hefyd yn darparu manteision economaidd i’r ardal.”

Dywedodd Stephen Tomkins, Rheolwr Gyfarwyddwr, fel cwmni a leolir yng Nghymru, mae’n fraint gan Griffiths gael y cyfle i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar y prosiect proffil uchel hwn. Mae’r prosiect yn cyd-fynd yn dda â’r prif feysydd mae Griffiths yn canolbwyntio arnynt, gan gynnwys Teithio Llesol, Carbon Sero-net a Gwerth Cymdeithasol. Mae’r ffaith ein bod wedi cyflogi gweithlu lleol yn destun balchder inni. Mae 75% o’r rhain yn siaradwyr Cymraeg sydd wedi ymrwymo i adael gwaddol parhaus, sydd hyd yma wedi cyflogi tri phrentis lleol fel rhan o’n buddsoddi helaeth mewn Gwerth Cymdeithasol.”

Dywedodd Aled Griffith, Syrfëwr Meintiau dan Hyfforddiant: “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael swydd yn lleol gyda Griffiths. Ymunais i ar adeg anodd iawn, bythefnos cyn y cyfnod clo cyntaf, a bu Griffiths yn gefnogol iawn, gan sicrhau y gallwn barhau yn y swydd. Rwyf hefyd wedi bod yn ffodus wrth gael lle ar gwrs gradd ym Mhrifysgol John Moores, ac mae Griffiths yn fy nghefnogi yn hyn o beth. Mae gweithio gyda chydweithwyr profiadol, a gweithio ar brosiectau heriol iawn wedi fy helpu i roi’r hyn rwy’n ei ddysgu yn y brifysgol a waith”.

Disgwylir i’r cynllun £30 miliwn, sy’n cynnwys cyllid gwerth £14.7 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, gael ei gwblhau erbyn haf 2022.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.