19.5 C
Llanelli
Tuesday, September 29, 2026
Home Events Hwyl Gŵyl y Banc yng Nghastell Caeriw gyda Sandy Bear

Hwyl Gŵyl y Banc yng Nghastell Caeriw gyda Sandy Bear

0
645
78 Carew Castle small
78 Carew Castle small

Bydd Castell Caeriw yn gefndir i Ddiwrnod Hwyl i’r Teulu ddydd Sul 29 Awst 2021, sy’n cael ei drefnu gan yr elusen profedigaeth leol i blant, Sandy Bear.

Nod y diwrnod, sydd i’w gynnal rhwng 10am a 4pm ar Ŵyl y Banc, yw codi proffil yr elusen ynghyd â rhywfaint o arian mawr ei angen i gefnogi eu gwaith hanfodol.

Mae rhaglen gyffrous o weithgareddau yn cynnwys perfformiadau cerddorol gan Artistic Licence a Tickle Tunes, sesiynau adrodd straeon, gweithgareddau crefft a pherfformiad a gweithdy gan Samba DOC. Am hanner dydd, bydd picnic tedi bêrs yn cael ei gynnal, gyda thaith gerdded o amgylch gweirglodd Castell Caeriw.

Gobeithiwn hefyd y bydd gwasanaethau brys y sir yn mynychu – gyda gwybodaeth am y gwaith pwysig y maent yn ei wneud ac ambell i weithgaredd gall y teuluoedd eu mwynhau.

Bydd rhagor o wybodaeth ar gael drwy gyfrwng ffrydiau cyfryngau cymdeithasol Sandy Bear ar Facebook @sandybeadbereavement, Twitter @SandyBearPembs ac ar LinkedIn.

Mae’r digwyddiad wedi derbyn nawdd hael gan nifer o gwmnïau a sefydliadau lleol, gan gynnwys pabell fawr a roddwyd gan Valero Energy. Bydd cefnogaeth ychwanegol yn cael ei darparu gan Dragon LNG a Phorthladd Aberdaugleddau, sydd wedi enwi Sandy Bear yn Elusen y Flwyddyn, a byddant yn cynnig cymorth gwirfoddol a nawdd.

Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Gwasanaethau Ymwelwyr yng Nghastell Caeriw: “Mae’n bleser bod yn rhan o’r digwyddiad hwn, sy’n addo hwyl i’r teulu cyfan, ynghyd â chyfle i ddysgu am y gefnogaeth anhygoel y mae Sandy Bear yn ei rhoi i blant a phobl ifanc sydd wedi cael profedigaeth.

“Mae croeso i bawb ddod draw i’r Diwrnod Hwyl, ond rhaid archebu lle ymlaen llaw. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb ymweld â www.carewcastle.com i gadw lle.”

I gael rhagor o wybodaeth am Sandy Bear, ewch i www.sandybear.co.uk.

I gael rhestr lawn o’r digwyddiadau haf sy’n cael eu cynnal yng Nghastell Caeriw a lleoliadau eraill ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ewch i www.pembrokeshirecoast.wales/events.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.