19 C
Llanelli
Sunday, July 26, 2026
Home Business Gwerth £7.2m o gyfarpar diogelu personol i gael eu hanfon i Namibia...

Gwerth £7.2m o gyfarpar diogelu personol i gael eu hanfon i Namibia o Gymru drwy un o brosiectau Prifysgol Caerdydd

0
516
mhorwood Welsh Government 240821 48
mhorwood Welsh Government 240821 48

Cyfarpar diogelu personol a roddwyd gan Lywodraeth Cymru drwy Brosiect Phoenix y Brifysgol yn mynd i ‘achub miloedd o fywydau’

Drwy un o brosiectau Prifysgol Caerdydd, bydd cyfarpar diogelu personol hanfodol yn cael eu hanfon i Namibia i helpu i fynd i’r afael â thrydedd don ddifrifol o achosion o COVID-19 yn y wlad.

Mae gwerth mwy na £7m o gyfarpar clinigol nad oes eu hangen ar y GIG yng Nghymru, sy’n cynnwys masgiau, gynau a hylif diheintio dwylo, yn cael eu rhoi drwy Brosiect Phoenix. Mae grant o £500,000 hefyd yn cael ei roi ar gyfer offer ocsigen a hyfforddiant i nyrsys.

 

NEWPORT, WALES – AUGUST 24: Professor Judith Hall (L) and Cardiff University Vice-Chancellor, Professor Colin Riordan pose for a photograph during a visit to the NHS Wales Shared Services Partnership Supply Chain, Logistics & Transport National Distribution Centre to view the packing of PPE being sent to Namibia on August 24, 2021 in Newport, Wales.

Partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Namibia yw Prosiect Phoenix. Mae’n ceisio lleihau tlodi a hyrwyddo iechyd ac amgylchedd cynaliadwy.

Gwnaeth yr Athro Judith Hall, arweinydd Prosiect Phoenix o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, bledio’n bersonol i Brif Weinidog Cymru i helpu’r wlad, sydd â’r gyfradd marwolaeth waethaf o ganlyniad i COVID-19 yn Affrica ac sydd mewn “angen eithafol”.

“Ffoniais Mark Drakeford, a gofynnais ‘Beth y gall pobl yng Nghymru ei wneud i helpu?’”, meddai’r Athro Hall.

NEWPORT, WALES – AUGUST 24: First Minister of Wales Mark Drakeford with Professor Judith Hall (L), Linda Scott The Namibian High Commissioner to the UK and Cardiff University Vice-Chancellor, Professor Colin Riordan pose for a photograph during a visit to the NHS Wales Shared Services Partnership Supply Chain, Logistics & Transport National Distribution Centre to view the packing of PPE being sent to Namibia on August 24, 2021 in Newport, Wales.

“Gofynnais am rodd o gyfarpar diogelu personol gan Lywodraeth Cymru, ac anfonais restr ato o’r cannoedd ar filoedd o eitemau sydd eu hangen yn fawr iawn ar y Namibiaid i frwydro yn erbyn COVID-19. Trefnodd Llywodraeth Cymru rodd anhygoel o filiynau o eitemau, gwerth $150m o ddoleri Namibiaidd.

“Bydd y rhodd hon yn gwneud gwahaniaeth enfawr a chynaliadwy i bobl Namibia ac, yn y tymor byr, bydd miloedd o fywydau’n cael eu hachub. Dim ond am fod gennym gadwyni gwydn yma yng Nghymru ar gyfer cyflenwi cyfarpar diogelu personol y mae hyn yn bosibl, sy’n golygu y gallwn gynnig cymorth sydd ei fawr angen i’n partneriaid yn ne Affrica.

NEWPORT, WALES – AUGUST 24: First Minister of Wales Mark Drakeford visits the NHS Wales Shared Services Partnership Supply Chain, Logistics & Transport National Distribution Centre to view the packing of PPE being sent to Namibia on August 24, 2021 in Newport, Wales.

“Rydym yn falch iawn o fod yn anfon y rhodd o gyfarpar diogelu personol a rheoli’r grant ar gyfer offer ocsigen ar ran Llywodraeth Cymru.”

Mae’r rhodd yn cynnwys mwy na 1.1m o fasgiau wyneb, 500,000 o ynau, 100,000 o ffedogau amddiffynnol a gwerth mwy na £1m o hylif diheintio dwylo. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnig grant o £500,000 ar gyfer hyfforddiant i nyrsys ac offer ocsigen hanfodol drwy ei rhaglen Cymru ac Affrica.

Roedd Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan, ac Uchel Gomisiynydd Namibia i’r DU yn bresennol mewn cyfarfod i drosglwyddo’r cyfarpar clinigol i’w cludo ddydd Mawrth. Bydd y cynwysyddion yn cael eu cludo’r wythnos nesaf ac yn cyrraedd Namibia 20 diwrnod yn ddiweddarach.

NEWPORT, WALES – AUGUST 24: First Minister of Wales Mark Drakeford visits the NHS Wales Shared Services Partnership Supply Chain, Logistics & Transport National Distribution Centre to view the packing of PPE being sent to Namibia on August 24, 2021 in Newport, Wales.

Meddai’r Athro Riordan: “Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i’w pherthynas â Phrifysgol Namibia am y tymor hir. Mae’r cyllid y trefnwyd ei fod ar gael dros y saith mlynedd diwethaf wedi dwyn ffrwyth mewn amrywiaeth eang o ffyrdd sylweddol. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, mae’r prosiect wedi sicrhau dros £8m o gyllid yn allanol, sy’n helpu i wella bywydau yn Affrica a Chymru mewn ffordd gynaliadwy. Dyma gyflawniad enfawr yn ystod pandemig.

“Rwy’n falch iawn bod y prosiect hwn wrth wraidd ein Cenhadaeth Ddinesig, ac rwyf am weld Prosiect Phoenix yn parhau i fynd o nerth i nerth, drwy weithio’n unol â Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol ac yn agos gyda Llywodraeth Cymru i gyflawni ei huchelgeisiau i fod yn genedl fyd-eang.”

NEWPORT, WALES – AUGUST 24: First Minister of Wales Mark Drakeford visits the NHS Wales Shared Services Partnership Supply Chain, Logistics & Transport National Distribution Centre to view the packing of PPE being sent to Namibia on August 24, 2021 in Newport, Wales.

Cyfarfu’r Athro Kenneth Matengu o Brifysgol Namibia â Mr Drakeford hefyd ym mis Mehefin. Yn y cyfarfod, rhoddodd yr Athro Matengu gyfrif teimladwy o’r sefyllfa ofnadwy yn Namibia, drwy esbonio bod staff y Brifysgol yn marw bob dydd a bod yr ysbytai wedi’u gorlethu.

Meddai Mr Drakeford: “Rwyf wedi clywed Namibia’n sôn yn uniongyrchol am y sefyllfa eithriadol o anodd yno yn y frwydr yn erbyn COVID-19. Mae dyletswydd arnom i helpu’r rhai mewn angen, ac rwy’n falch o’r ffaith bod Cymru’n cynnig cymorth i frwydro yn erbyn COVID-19 yn fyd-eang. Bydd Cymru’n sefyll ochr yn ochr â Namibia, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w helpu drwy’r amser anodd hwn.”

Meddai’r Athro Matengu: “Ar hyn o bryd, mae angen i’n ffrindiau rhyngwladol ein helpu i wrthwynebu llif y pandemig hwn, ac mae Cymru wedi bod yn bartner cyson i ni ers saith mlynedd.  Drwy Brif Weinidog Cymru a’r cymorth hwn gan bobl Cymru, byddwn yn fwy gwydn wrth ymateb i glefydau’n uniongyrchol ac yn y tymor hwy. Mae’r Is-Lywydd wedi ffonio Prif Weinidog Cymru i ddiolch o galon iddo.”

NEWPORT, WALES – AUGUST 24: First Minister of Wales Mark Drakeford visits the NHS Wales Shared Services Partnership Supply Chain, Logistics & Transport National Distribution Centre to view the packing of PPE being sent to Namibia on August 24, 2021 in Newport, Wales.

Meddai Uchel Gomisiynydd Namibia, Linda Scott: “Ar ôl i’n heconomi a’n system iechyd weld ychydig flynyddoedd difrifol oherwydd effaith newid yn yr hinsawdd a nawr COVID-19, rydym yn ddiolchgar iawn i bobl Cymru am y rhodd hon. Bydd ein gweithwyr iechyd yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi wrth iddynt geisio achub bywydau. Bydd hefyd yn sicrhau bod y rhai mewn ardaloedd gwledig yn gwybod eu bod yn cael eu hystyried yn bwysig. Diolch, Gymru.”

NEWPORT, WALES – AUGUST 24: First Minister of Wales Mark Drakeford visits the NHS Wales Shared Services Partnership Supply Chain, Logistics & Transport National Distribution Centre to view the packing of PPE being sent to Namibia on August 24, 2021 in Newport, Wales.

Mae’r datblygiadau hyn yn dilyn grant gan Lywodraeth Cymru o £125,000 a roddwyd yn gynharach eleni i Brosiect Phoenix er mwyn hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r angen i frechu pobl Namibia yn erbyn COVID-19. Roedd y grant cynharach hwn ar gyfer brechu’r bobl fwyaf difreintiedig yn Namibia, gan gynnwys pobl ag anableddau, yr henoed a phobl eiddil a’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd anghysbell.

Mae Prosiect Phoenix wedi gweithio gyda Namibia ers saith mlynedd ac wedi arwain a rheoli mwy na 52 o wahanol brosiectau yn y wlad.

Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect ar gael yma: https://www.cardiff.ac.uk/cy/phoenix-project


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.