9 C
Llanelli
Monday, May 18, 2026
Home Plaid Cymru Galwad Plaid Cymru am ysgol feddygol ar gyfer gogledd Cymru ‘gam yn...

Galwad Plaid Cymru am ysgol feddygol ar gyfer gogledd Cymru ‘gam yn nes’

0
456
Sian 13
Sian 13

AS Plaid Cymru dros Arfon Sian Gwenllian yn dathlu cyhoeddiad ar raglen hyfforddi myfyrwyr meddygol 

Wrth ymateb i’r newyddion y bydd mwy o fyfyrwyr meddygol yn treulio eu holl hyfforddiant yng ngogledd Cymru fel rhan o symudiadau tuag at sefydlu ysgol feddygol yno, dywedodd Plaid Cymru AS ar gyfer Arfon Sian Gwenllian,

“Mae Plaid Cymru a minnau wedi dadlau ers amser fod hyfforddi meddygon ym Mangor yn rhan hanfodol o’r ymdrech i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal o’r radd flaenaf i’r bobl rwy’n eu cynrychioli ac i holl drigolion gogledd Cymru. 

“Bydd Llywodraeth Cymru nawr – o’r diwedd – yn cyflwyno ysgol feddygol lawn ac annibynnol ar gyfer gogledd Cymru, wedi’i lleoli ym Mangor. Mae hynny, ynghyd â mwy o fyfyrwyr meddygol yn hyfforddi yng ngogledd Cymru, i’w ddathlu a’i groesawu a bydd yn garreg filltir bwysig yn y broses o gyflawni ein huchelgais hirsefydlog o ysgol feddygol lawn yng ngogledd Cymru.

“Mae’n hanfodol bod bwrdd y rhaglen newydd yn gweithio’n gyflym ac yn effeithiol fel y gallwn weld cynnydd gwirioneddol dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf. Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r Bwrdd, y Gweinidog Iechyd, gyda Phrifysgol Caerdydd a Bangor a phartneriaid eraill wrth inni symud ymlaen i sefydlu’r ysgol feddygol ar sylfeini cryf, gan dynnu ar brofiadau o leoedd eraill ac archwilio ffyrdd arloesol o weithio, yn enwedig o safbwynt hyfforddi meddygon mewn amgylchedd gwledig.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here