7.1 C
Llanelli
Tuesday, March 3, 2026
Home Charity Elywel Iechyd Hywel Dda ar fonitor newydd a brynwyd ar gyfer yr...

Elywel Iechyd Hywel Dda ar fonitor newydd a brynwyd ar gyfer yr Uned Babanod Gofal Arbennig yn Glangwili

0
412
cerebral function monitor Glangwili SCBU picture Cerys Wathan and Ffion Jackson
cerebral function monitor Glangwili SCBU picture Cerys Wathan and Ffion Jackson

Diolch i roddion gan ein cymunedau lleol, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi gallu prynu monitor newydd i fynd wrth ymyl y gwely ar gyfer yr Uned Gofal Arbennig Babanod yn Ysbyty Glangwili.

Mae’r peiriant monitro gweithrediad yr ymennydd, sy’n costio dros £14,000, yn cofnodi gweithgarwch yr ymennydd, a chaiff ei ddefnyddio i helpu babanod newydd eu geni sy’n sâl.

Dywedodd Karen Jones, Uwch Nyrs Newyddenedigol: “Mae’r monitor yn helpu i ddangos i ni a yw baban yn profi gweithgarwch trydanol annormal, megis ffit.

Mae’n helpu’r broses o wneud penderfyniadau, i asesu a all baban aros yn Ysbyty Glangwili neu a fyddai angen ei drosglwyddo i uned gofal dwys newyddenedigol i gael triniaeth fwy dwys.

Mae’r tîm newyddenedigol wir yn gwerthfawrogi’r rhoddion caredig a hael sydd wedi galluogi i’r monitor hwn gael ei brynu ar gyfer yr uned.”

Yn ôl Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Mae rhoddion gan ein cymunedau yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau cleifion, defnyddwyr y gwasanaeth a’r staff yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Os hoffai unrhyw un godi arian neu gyfrannu, gallant fynd i wefan www.justgiving.com/hywelddahealthcharities neu glicio ar y botwm glas ‘Donate’ ar frig ein tudalen Facebook.”

Yn y llun gyda’r peiriant monitro gweithrediad yr ymennydd newydd, y mae’r Nyrs Staff Cerys Wathan a’r Myfyrwraig Nyrsio Ffion Jackson.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.