3.6 C
Llanelli
Monday, February 2, 2026
Home Newyddion Lle Bragdy cyrfau crefft yn barod i ddefnyddio microalgâu i leihau allyriadau CO2

Bragdy cyrfau crefft yn barod i ddefnyddio microalgâu i leihau allyriadau CO2

0
346
brew8
brew8

Mae biowyddonwyr o Brifysgol Abertawe’n helpu microfragdy yng ngorllewin Cymru i leihau ei allyriadau CO2.

Byddant yn gweithio gyda Bluestone Brewing Co o Sir Benfro, gan ddefnyddio’r allyriadau CO2 sy’n deillio o’r broses fragu i feithrin microalgâu y gellir eu defnyddio wedyn fel bio-màs mewn amrywiaeth o gynhyrchion.

Os byddant yn llwyddo, y gobaith yw y bydd yr ateb yn addas ar gyfer cwmnïau bach eraill sy’n cynhyrchu CO2.

Mae’r bragdy cyrfau crefft wedi ennill sawl gwobr dros y blynyddoedd am ddefnyddio dulliau cynhyrchu cynaliadwy fel rhan o’i ymdrech i fod yn gwmni carbon niwtral.

Gwnaeth Simon Turner o Bluestone ddisgrifio’r fenter gydweithredol hon i ddal y CO2 a gynhyrchir yn naturiol gan furum yn y broses fragu a’i ddefnyddio i greu bio-màs gwerthfawr fel prosiect mwyaf uchelgeisiol y cwmni hyd yn hyn.

Mae’r bragdy yn Nhrefdraeth yn Sir Benfro yn cydweithio â thîm o fiowyddonwyr dan arweiniad yr Athro Carole Llewellyn o’r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg.

Meddai: “Mae microalgâu, fel planhigion, yn defnyddio CO2 i dyfu ac fel ffynhonnell ynni. Yn ystod y prosiect cyffrous hwn, byddwn yn defnyddio allyriadau CO2 y bragdy er mwyn tyfu algâu.

“Caiff y bio-màs algaidd canlyniadol ei brosesu, a’i gyflwyno wedyn i Phytoquest Ltd, y trydydd aelod o’r tîm cydweithredu, sy’n arbenigo yn y broses o ddarganfod cynhyrchion naturiol a datblygu cynhwysion cynaliadwy at ddibenion y diwydiannau bwyd, a nwyddau fferyllol a chosmetig.”

Meddai Mr Turner: “Mae’n debygol bod gennym yr wybodaeth a’r gallu o ran peirianneg i greu ac addasu ein hoffer i ddal CO2, ond gwnaethom gysylltu â Phrifysgol Abertawe gan ei bod hi’n ymddangos bod storio, symud a phrosesu’r CO2 yn ddiogel yn achosi problemau anorchfygol.

“Roedd yn destun diddordeb i ni fod gan yr Athro Llewellyn a’i thîm y profiad a’r arbenigedd i’n llywio drwy’r broses, ynghyd â‘r cyfleusterau ymchwil i ddarganfod y dulliau mwyaf effeithlon o ddefnyddio’r CO2.”

Ariennir y prosiect yn rhannol drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a rhaglen SMART Expertise Llywodraeth Cymru, sy’n ceisio helpu mentrau cydweithredol rhwng diwydiant a sefydliadau academaidd.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.