10.3 C
Llanelli
Monday, March 2, 2026
Home Newyddion Lle Technoleg yn helpu TrC a Network Rail i baratoi ar gyfer heriau’r...

Technoleg yn helpu TrC a Network Rail i baratoi ar gyfer heriau’r hydref

0
368
e45602b338494011abeac149a5ec4415
e45602b338494011abeac149a5ec4415

Transport For Wales News

Mae Trafnidiaeth Cymru a Network Rail yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf yr hydref hwn i baratoi ar gyfer y nifer cynyddol o stormydd a thywydd gwael a achosir gan y newid yn yr hinsawdd.
Yn draddodiadol, mae’r hydref yn gyfnod heriol iawn i’r diwydiant rheilffyrdd ac yn 2020 fe achosodd stormydd Ellen, Francis ac Alex broblemau mawr gan gynnwys y diwrnod gwlypaf a gofnodwyd er 1891.

Gall stormydd gael effaith ddifrifol ar wasanaethau teithwyr rheilffyrdd a thrafnidiaeth ffordd amgen, felly mae TrC a NR wedi bod yn gweithio ar y cyd i baratoi ar gyfer yr heriau a lleihau’r risg i wasanaethau.

  • Dywedodd Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd: “Mae Newid Hinsawdd yn cael effaith wirioneddol iawn ar y tywydd fel rydyn ni wedi’i weld gyda stormydd heb eu tebyg o’r blaen yr ychydig flynyddoedd diwethaf, felly rwy’n falch bod TrC, ar y cyd a Network Rail, yn cymryd y mesurau hyn, gan ddefnyddio’r dechnoleg fwyaf diweddar, i ymdrin ag effaith tywydd garw ar ein rhwydwaith reilffyrdd wrth inni baratoi ar gyfer misoedd yr hydref.”
    Play

    Dyma rai o’r camau sy’n cael eu cymryd:

    Nodi safleoedd risg uchel gan ddefnyddio lluniau Adolygiad Gwybodaeth Fideo Awtomatig (AIVR) ar du blaen trenau a chreu cynlluniau dad-lystyfiant cadarn ar gyfer pob ardal.

  • Sefydlu desg reoli bwrpasol ar gyfer yr hydref gan ddyblu’r adnodd oedd ar gael yn hydref 2020 a mwy o dimau ymateb rheng flaen yn gweithio bob dydd i nodi ac ymateb yn gyflym i broblemau.
  • Defnyddio trenau triniaeth i gael gwared ar lystyfiant oddi ar draciau a gosod gel mewn safleoedd lle gall llystyfiant achosi lefelau isel o ffrithiant olwynion. Eleni, byddwn yn defnyddio 57 o Beiriannau gosod gel.
  • Cynlluniau wrth gefn i liniaru unrhyw darfu ar y gwasanaethau pe bai gostyngiad mewn argaeledd cerbydau trên.
  • Tynnu ‘Pacers’ dosbarth 142 a 143 o wasanaeth, sef y cerbydau mwyaf agored yn fflyd TrC i faterion yn ymwneud ag adlyniad.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru, Colin Lea: “Mae tymor yr hydref yn cyflwyno heriau sylweddol i’r diwydiant rheilffyrdd, ac rydym yn gweithio’n galed trwy gydol y flwyddyn yn paratoi.

“Gan weithio o fewn canllawiau COVID ac yn agos gyda chydweithwyr cynnal a chadw Network Rail a chledrau’r cymoedd, rydym wedi clirio llystyfiant ar ochr y llinell, wedi trefnu rhedeg trenau triniaeth ar hyd y rheilffordd ac wedi cael gwared ar yr hen drenau ‘Pacer’, sef y trenau oedd y mwyaf agored i niwed o ran materion yn ymwneud ag adlyniad yr adeg hon o’r flwyddyn.

“Bydd ein staff yn parhau i weithio bob awr dros gyfnod yr hydref, a thu hwnt, mewn rhai amgylcheddau profi gwirioneddol i gadw ein cwsmeriaid i symud, a rhoi diogelwch wrth wraidd popeth a wnawn.”

Dywedodd Bill Kelly, cyfarwyddwr llwybrau Network Rail Cymru a’r Gororau: “Mae paratoi ar gyfer yr Hydref wrth wraidd ein partneriaeth gyda Thrafnidiaeth Cymru.

“Rydym yn awyddus i gydweithio trwy gydol y flwyddyn, yn rheoli llystyfiant mewn ardaloedd sy’n risg uchel a defnyddio technoleg arloesol i drin y traciau.  Eleni, rydym wedi dyblu maint y Tîm fydd gennym yn rheoli’r Hydref er mwyn gwella ein gallu i ymateb i ddigwyddiadau.

“A newid yn yr hinsawdd yn gynyddol effeithio ar ein rhwydwaith drafnidiaeth, o Ddyffryn Conwy i Fôr Hafren, rydym yn buddsoddi mewn cynlluniau ledled Cymru a’r Gororau i adeiladu rheilffordd fwy cydnerth.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.