6.9 C
Llanelli
Friday, March 13, 2026
Home Dwr Cymru Dŵr Cymru’n Arddangos Cynlluniau Hydrogen yn rhan o Sioe Deithiol DU-eang

Dŵr Cymru’n Arddangos Cynlluniau Hydrogen yn rhan o Sioe Deithiol DU-eang

0
366
Hydrogen Roadshow scaled
Hydrogen Roadshow scaled

Dwr Cymru Welsh Water News

  • Dŵr Cymru’n arddangos cynlluniau hydrogen yn rhan o sioe deithiol DU-eang y Gynghrair Datgarboneiddio Nwy
  • Mae cynlluniau arloesol ar droed i gynhyrchu biomethan a hydrogen fel tanwydd
  • Mae gan y cwmni bedair canolfan trin slwtsh mawr – ac un o’r rhain yw’r unig system nwy i’r grid yng Nghymru

Mae Dŵr Cymru, y cwmni dŵr nid-er-elw cyntaf yng Nghymru a Lloegr, a’r unig un hyd yn hyn, wedi croesawu sioe deithiol DU-eang â char hydrogen sy’n cael ei yrru gan y Gynghrair Datgarboneiddio Nwy (DGA). Mae’r sioe’n ymweld â nifer o brosiectau arloesol ar ei thaith.

Galwodd y sioe – sy’n ymweld â nifer o brosiectau arloesol ar draws y DU – yng Ngweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff Dŵr Cymru yng Nghaerdydd, ar ei hunig ymweliad â safle yng Nghymru.  Rhoddodd hyn gyfle i’r cwmni ddangos ei gynlluniau arloesol i gynhyrchu biomethan a hydrogen fel tanwydd, gan ddefnyddio slwtsh carthion fel deunydd sylfaen.

Mae gan y cwmni bedair canolfan trin slwtsh mawr – ac un o’r rhain yw’r unig system nwy i’r grid yng Nghymru. Mae’r gweithfeydd yn troi bionwy o garthion yn fio-hydrogen adnewyddadwy, gan helpu i ddatgarboneiddio gwres a chludiant trwy fuddsoddi mewn cyfleusterau nwy i’r grid ychwanegol.

Mae Dŵr Cymru, a gyhoeddodd ei fwriad i gyflawni ei darged net o sero erbyn 2040 yn gynharach eleni, yn awyddus i fachu ar bob cyfle i gynhyrchu ynni gwyrdd. Yn ei Weithfeydd Trin Dŵr Gwastraff yng Nghaerdydd, mae’r cwmni wrthi’n cyflawni gwaith asesu hyfywedd i gynhyrchu hyd at 2,000kg o fio-hydrogen y dydd ar y safle.

Byddai 2,000kg y dydd yn ddigon o gynnal fflyd o 100 o fysiau hydrogen. Mae’r cwmni, sy’n cydweithio’n agos â Wales & West Utilities, Costain a Chyngor Caerdydd ar y prosiect yma, yn credu y gall y cyfleuster arfaethedig fod yn hyfyw yn fasnachol.

Wrth drafod y cynlluniau uchelgeisiol, dywedodd Ben Burggraaf, Pennaeth Ynni Dŵr Cymru:

“Mae cynhyrchu bio-methan neu hyd yn oed bio-hydrogen yn gam pwysig tuag at gyflawni ein huchelgais i gyflawni net o sero erbyn 2040 a gwireddu gostyngiad o 90% mewn allyriannau erbyn 2030. Gallai defnyddio’r bionwy i gynhyrchu tanwydd adnewyddadwy gael effaith ddatgarboneiddio sydd hyd at 10 gwaith yn fwy nag y byddai o’i ddefnyddio i gynhyrchu trydan adnewyddadwy, yn enwedig o gyfuno hyn â’r dechnoleg Casglu, Defnyddio a Storio Carbon, er enghraifft wrth gynhyrchu CO2 graddfa fwyd”.

Dywedodd Matt Hindle, Pennaeth Sero Net a Chynaliadwyedd Wales & West Utilities: 

“Yn Wales & West Utilities, rydyn ni’n buddsoddi £400m rhwng 2021 a 2026 er mwyn paratoi’r rhwydwaith nwy ar gyfer y dyfodol, felly mae’n hyfryd clywed am ymrwymiad Dŵr Cymru at hydrogen a biomethan.

“Bydd nwy gwyrdd yn chwarae rôl allweddol wrth ddatgarboneiddio cartrefi, diwydiant trwm a chludiant, ac eisoes mae’r biomethan sy’n mynd i’r grid nwy o safle Dŵr Cymru yn y gogledd wedi datgarboneiddio gwres domestig yr hyn sy’n cyfateb â dros 4,500 o gartrefi a busnesau, gan gwtogi rhyw 10,000 o dunelli ar yr allyriannau carbon.

“Rhaid i’r blynyddoedd 2020 fod yn ddegawd o gyflawni, lle’r ydyn ni’n rhoi’r gwaith ymchwil a datblygu sydd wedi bod yn cael ei wneud ar nwy gwyrdd ar waith. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gael gweithio gyda Dŵr Cymru i gyflawni ein huchelgeisiau Net o Sero ni’n dau ar gyfer Cymru”

Wrth drafod y Sioe deithiol, dywedodd Chris Barron, cadeirydd DGA:

“Gall hydrogen – fel sawl nwy datgarboneiddedig arall – ein helpu ni i ddiwallu angen dybryd y DU am allyriannau net o sero i’r hinsawdd mewn ffordd sy’n ddiogel, â chost isel, heb fawr o drafferth, a hynny wrth greu miloedd o swyddi cynaliadwy ar draws y wlad.

“Mae gan hyn rôl arbennig o werthfawr i’w chwarae yn y sectorau sy’n anodd eu datgarboneiddio – fel cludiant, diwydiant a gwres. Fel cenedl, rydyn ni’n dibynnu’n drwm ar y diwydiannau hyn, ond maent i gyfrif am 40% o nwyon tŷ gwydr y DU. Nhw felly yw’r eliffant yn yr ystafell fel petai, os na fyddwn ni’n cydweithio i greu llwybr hyfyw i seilwaith ynni â net o sero.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.