6.1 C
Llanelli
Wednesday, February 4, 2026
Home Newyddion Lle Arddangosfa yn y ddinas yn dangos sut mae pobl ifanc am gael...

Arddangosfa yn y ddinas yn dangos sut mae pobl ifanc am gael eu gweld

0
388
vr1 scaled
vr1 scaled

Bydd arddangosfa unigryw a fydd yn cynnwys gwaith celf realiti rhithwir a grëwyd gan bobl ifanc i fynegi eu teimladau am eu hiechyd meddwl yn cael ei chynnal yn Abertawe y mis hwn.

Y digwyddiad yw cam diweddaraf prosiect Prifysgol Abertawe sy’n archwilio sut mae pobl ifanc yn cyhoeddi, yn rhannu ac yn gweld delweddau ar-lein i fynegi eu hanes a’u cyflwr meddwl.

Mae ymchwilwyr ac artistiaid yn gweithio gyda phobl ifanc o’r gymuned yn ogystal â rhai y mae’n anodd eu cyrraedd fel rheol – ffoaduriaid a cheiswyr lloches, pobl ifanc drawsryweddol, rhai sy’n derbyn gofal a rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl neu sy’n hunan-niweidio.

Bydd yr arddangosfa’n cael ei chynnal yn Theatr Volcano ar y Stryd Fawr fel rhan o brosiect o’r enw Be Seen, a ddaeth â phobl ifanc ynghyd â gweithwyr proffesiynol o feysydd y celfyddydau, iechyd meddwl, gwyddor data a meddygaeth.

Yr Athro Ann John, o Ysgol Feddygaeth y Brifysgol, sy’n arwain y prosiect a bydd hi a’r Llwyfan Data Iechyd Meddwl Arddegwyr yn cyflwyno’r digwyddiad gyda’r artist a’r cyd-arweinydd Karen Ingham.

Meddai’r Athro John: “Mae’r ffordd y mae pobl ifanc yn cyfathrebu wedi newid yn gyflym. Maent yn awyddus i rannu eu straeon ac maent yn gwneud hyn yn bennaf drwy ddelweddau – ffotograffau a fideos – bellach wrth i gyfryngau sy’n seiliedig ar ddelweddau ddisodli fforymau ac ati.

“Mae dulliau o gysylltu gwybodaeth o amrywiaeth eang o ffynonellau ar unwaith wedi arwain at obaith ar gyfer oes newydd o ymchwil i iechyd meddwl pobl ifanc.

“Ein gweledigaeth yw i leisiau pobl ifanc ‘gael eu gweld’ a chael dylanwad ar y defnydd o’u data a’r sgwrs gyhoeddus am eu defnydd o ddelweddau i fynegi iechyd meddwl.

“Yr arddangosfa hon yw canlyniad y weledigaeth honno, ac rydym yn edrych ymlaen at gael cyfle i rannu eu gwaith gyda chynulleidfa ehangach.”

Yn ystod y prosiect, cynhaliwyd gweithdai gyda phobl rhwng 16 a 24 oed yn Plymouth ac Abertawe a wnaeth ganolbwyntio ar iechyd meddwl a lles, y defnydd o ddata mawr ac adrodd straeon drwy ddelweddau gweledol megis ffotograffau, ffilmiau a realiti rhithwir.

Y syniad oedd helpu pobl ifanc i feithrin dealltwriaeth well o’r materion sy’n gysylltiedig â’r defnydd o ddelweddau i bortreadu iechyd meddwl a hunan-niwed, ac ystyried risgiau a manteision defnyddio delweddau at ddibenion hunanfynegiant yn y byd modern.

Dywedodd yr Athro John y bydd adborth o’r arddangosfa a’r fideo a fydd yn cyd-fynd â hi yn cael ei ddefnyddio i lywio ymchwil yn y dyfodol ac i ddylanwadu o bosib ar bolisïau sy’n ymwneud â rhannu delweddau o hunan-niwed ar-lein.

Ychwanegodd: “Rydym hefyd yn gobeithio creu pecyn cymorth ar-lein, ar y cyd â phobl ifanc, er mwyn helpu unigolion i ddefnyddio delweddau i adrodd eu straeon, ar sail canfyddiadau’r prosiect, yn ogystal â rhannu ein gwaith gyda rhanddeiliaid.”

Ariannwyd y prosiect Be Seen gan y Cyngor Ymchwil Feddygol, Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, a’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.

 

Bydd yr arddangosfa am ddim yn cael ei chynnal o ddydd Mawrth, 16 Tachwedd i ddydd Gwener, 19 Tachwedd.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.