4.4 C
Llanelli
Monday, February 2, 2026
Home Newyddion Lle Cyfarfodydd rhyngwladol i ddod ag arbenigwyr deallusrwydd artiffisial ynghyd i ddatblygu ymchwil

Cyfarfodydd rhyngwladol i ddod ag arbenigwyr deallusrwydd artiffisial ynghyd i ddatblygu ymchwil

0
495
ISS 12903 22739 scaled
ISS 12903 22739 scaled

Bydd arbenigwyr deallusrwydd artiffisial o Brifysgol Abertawe’n rhannu eu gwybodaeth gyda chymheiriaid rhyngwladol mewn cyfres o ddigwyddiadau arbennig, gan ddechrau y mis hwn.

Bydd y digwyddiad cyntaf – gweithdy ar y cyd rhwng y DU a Chorea o’r enw Deallusrwydd Artiffisial a Dysgu Peirianyddol ar gyfer Gwyddoniaeth Sylfaenol – yn cael ei gynnal ar ffurf rithwir o ddydd Llun, 15 Tachwedd i ddydd Mercher, 17 Tachwedd.

Mae’r digwyddiadau wedi cael eu trefnu gan Gyfarwyddwr Canolfan Hyfforddiant Doethurol UKRI mewn Deallusrwydd Artiffisial, Dysgu Peirianyddol ac Uwch-gyfrifiadura (AIMLAC), sef yr Athro Gert Aarts o Brifysgol Abertawe, a’r Athro Seyong Kim, o Brifysgol Sejong.

Meddai’r Athro Aarts: “Yn ystod y deng mlynedd diwethaf, mae’r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol yn benodol wedi arwain at gryn gynnydd ym meysydd ffiseg a seryddiaeth.

“Gan fod cwestiynau tebyg yn cael eu gofyn, mae dull trawsddisgyblaethol yn arwain at gysylltiadau annisgwyl rhwng disgyblaethau gwahanol.

“Er mwyn cynyddu gallu, pontio bylchau rhwng disgyblaethau a datblygu fframwaith cyffredin, rydym am ddod ag ymchwilwyr ynghyd yng Nghorea a’r DU drwy dri chyfarfod – yr un cyntaf ar ffurf rithwir, un arall yng Nghorea ac un yma yn y DU.”

Ariennir y digwyddiadau gan Sefydliad Ymchwil Cenedlaethol Corea, Llysgenhadaeth Prydain yn Seoul, a Rhwydwaith Gwyddoniaeth ac Arloesedd y DU (SIN).

Ychwanegodd yr Athro Aarts: “Rydym yn cadw’r testun yn eang yn fwriadol er mwyn ysgogi rhyngweithio trawsddisgyblaethol a chreu posibiliadau ar gyfer rhwydweithio. Ein nod yw datblygu prosiectau ymchwil cyffredin rhwng dwy wlad.”

Cynhelir y digwyddiad rhithwir cyntaf rhwng 9am ac 11am (amser y DU) bob diwrnod.

Ceir rhagor o wybodaeth ar y wefan


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.