16.6 C
Llanelli
Tuesday, September 15, 2026
Home Newyddion Lle “Bydd Rhaglen adnewyddedig i Ddileu TB yn adeiladu ar y cynnydd cadarnhaol...

“Bydd Rhaglen adnewyddedig i Ddileu TB yn adeiladu ar y cynnydd cadarnhaol a wnaed yng Nghymru” – Y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths

0
413
ImageCattle
ImageCattle
Welsh Government News

Bydd Rhaglen adnewyddedig i Ddileu TB yn adeiladu ar y cynnydd cadarnhaol a wnaed eisoes yng Nghymru sydd wedi arwain at ostyngiad o 48% mewn achosion newydd o TB ers 2009.

Dyma oedd neges y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wrth iddi lansio ymgynghoriad a fydd yn para 12 wythnos ar welliannau arfaethedig i’r rhaglen.

Mae’r Rhaglen Dileu TB yn nodi gweledigaeth hirdymor Llywodraeth Cymru i ddileu TB buchol yng Nghymru. Mae’r rhaglen yn seiliedig ar bedair brif egwyddor rheoli clefydau heintus: Ei gadw draw; Ei ganfod yn gyflym; Ei atal rhag lledaenu; Ei ddileu.

Lansiwyd dull rhanbarthol o ddileu TB yn 2017 gan greu Ardaloedd TB Isel, Canolradd ac Uchel. Rydym wedi parhau i fireinio’r polisïau, gan ymateb ar unwaith i’r sefyllfa newidiol o ran y clefyd ac i’r heriau penodol sydd wedi deillio o bandemig Covid-19.

Mae’r ymgynghoriad sy’n cael ei lansio heddiw yn cynnwys cynigion ar:

  • Y rhaglen profi TB yng Nghymru i helpu i leihau ymhellach y risg o ledaenu TB megis protocolau profi yn benodol, ar hyn o bryd, mewn perthynas â’r Prawf Cyn Symud.
  • Prynu Gwybodus a’i nod i annog ceidwaid i ddarparu gwybodaeth TB am y gwartheg y dymunant eu gwerthu ac i geidwaid wneud penderfyniadau prynu doeth.
  • Taliadau ar gyfer gwartheg sy’n cael eu lladd o ganlyniad i TB, er mwyn sicrhau bod y system yn deg ac yn gymesur, ac yn adlewyrchu’r adnoddau ariannol sydd ar gael.

Mae’r Gweinidog hefyd wedi cyhoeddi y bydd trapiau moch daear a gwaith profi buchesi ag achosion parhaus o TB yn dirwyn i ben yn raddol o eleni ymlaen gan fod maint cyfyngedig y sampl a’r cyfnod dilynol byr yn golygu mai prin yw’r canlyniadau ystyrlon a geir i fesur effaith ymyriadau ar TB gwartheg.

Bydd gwaith ar ffermydd sy’n bodoli eisoes yn cael ei gwblhau ond ni fydd rhai newydd yn cael eu recriwtio i’r broses. Bydd y cyllid a fydd yn cael ei arbed yn sgil dirwyn y gwaith hwn i ben yn raddol yn golygu y bydd £100,000 ychwanegol ar gael i ddechrau ar gyfer ehangu’r gwaith o frechu moch daear ledled Cymru.

Yn ogystal, cynhelir adolygiad ar opsiynau i ategu’r capasiti milfeddygol ar gyfer profion TB drwy ddefnyddio mwy o staff parabroffesiynol sydd wedi’u hyfforddi a’u goruchwylio’n briodol.

Bydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen newydd yn ystyried y ffyrdd gorau o gyfathrebu â cheidwaid gwartheg, i’w helpu i ddiogelu eu buchesi, a hefyd drwy gydol achosion o TB. Byddant yn ystyried y rôl bosibl i Hyrwyddwyr Atal TB yng Nghymru a gofynnwyd i sefydliadau ffermio a milfeddygol enwebu aelodau i fod yn rhan o’r Grŵp hwn.

Mae hefyd yn fwriad parhau ag Arolwg Cymru Gyfan o Foch Daear a Ganfuwyd yn Farw i feithrin mwy o wybodaeth am y clefyd mewn moch daear.

Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Mae TB mewn gwartheg yn cael effaith ddinistriol ar y diwydiant ffermio ac mae’n rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i ddiogelu ein buchesi rhag y clefyd hwn.

“Rydym wedi gweld cynnydd da ers sefydlu ein rhaglen, gyda gostyngiad hirdymor yn nifer yr achosion a nifer y buchesi dan gyfyngiadau. Mae’r gostyngiad o 48% mewn achosion newydd o TB ers 2009 yn dangos bod ein rhaglen yn gwneud gwahaniaeth go iawn i deuluoedd a busnesau sy’n ffermio.

“Un o nodau allweddol ein Rhaglen yw’r gallu i adnabod heintiau’n gyflym, yn gywir ac yn gynnar, ac rydym yn ymdrechu i wella diagnosteg TB, croesawu ymchwil newydd a bod yn agored i brofion newydd, ar ôl iddynt gael eu dilysu.

“Mae cydweithio a gweithio mewn partneriaeth, cymryd perchnogaeth a chydnabod bod gan bob un ohonom rôl i’w chwarae yn allweddol i lwyddiant ein Rhaglen.”

Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop: “Rydym yn parhau i fod yn gyson yn ein hymrwymiad a’n penderfynoldeb i waredu Cymru o glefyd sydd ag ôl-effeithiau pellgyrhaeddol ledled diwydiant ffermio Cymru.

“O flwyddyn i flwyddyn rydym wedi gwella ein rhaglen ac wedi cyflwyno llawer o bolisïau sylfaenol a newidiodd y dirwedd TB ledled Cymru ac wedi gosod sylfeini ar gyfer y dyfodol.

“Rydym yn parhau i gefnogi’r gwaith o ddatblygu brechlyn TB gwartheg y gellir ei ddefnyddio gyda phrawf i wahaniaethu rhwng anifeiliaid sydd wedi’u brechu erbyn 2025.

“Gall brechu gwartheg ddod yn arf pwerus yn y frwydr yn erbyn y clefyd a byddwn yn trafod gyda’r Ganolfan Ragoriaeth TB i gynllunio sut i’w wneud yn y ffordd fwyaf priodol yng Nghymru.”

Sefydlwyd Canolfan Ragoriaeth Sêr Cymru ar gyfer Twbercwlosis Buchol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2018 gan ddod ag arbenigedd rhyngwladol ynghyd gyda’r nod o ddarparu tystiolaeth wyddonol sylfaenol i helpu i ddileu’r clefyd.

Dywedodd yr Athro Glyn Hewinson, Pennaeth y Ganolfan ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Fe wnaethom gyfarfod â’r Gweinidog dros yr haf ac rydym wedi rhoi cyngor dros y misoedd diwethaf. Rwy’n falch o weld rhai o’n hargymhellion yn cael eu cynnwys yn natblygiad y rhaglen yn y dyfodol. Bydd y Ganolfan hon ym Mhrifysgol Aberystwyth yn parhau i ddarparu sylfaen wyddonol gref i Gymru ac yn ymgysylltu â’r holl randdeiliaid wrth i bob un ohonynt ymdrechu i ddod o hyd i ffyrdd newydd a gwell o fynd i’r afael â’r clefyd dinistriol hwn.”

Caiff unrhyw un sydd â diddordeb ei annog i ymateb i’r ymgynghoriad yma: https://llyw.cymru/rhaglen-ddiwygiedig-ar-gyfer-dileu-tb-2021 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.