10.3 C
Llanelli
Monday, March 2, 2026
Home Newyddion Lle Gwasanaethau trên yn parhau i gael eu heffeithio yn dilyn storm Storm...

Gwasanaethau trên yn parhau i gael eu heffeithio yn dilyn storm Storm Arwen

0
363
af87e553b28f49c19a7c13f5d7c2562b
af87e553b28f49c19a7c13f5d7c2562b
Transport For Wales News

Cafodd Storm Arwen effaith fawr ar ein gwasanaethau rheilffordd dros y penwythnos a bydd gwasanaethau yn parhau i gael eu heffeithio’r wythnos hon.

Roedd cyfyngiadau cyflymder ar waith ar draws llawer o’r rhwydwaith dros y penwythnos gyda chyflymder gwynt o hyd at 90mya mewn rhai rhannau o Gymru.

O ganlyniad i’r tywydd garw trwy gydol nos Wener ac yn gynnar fore Sadwrn, difrodwyd  offer llinell uwchben, cwympodd llawer o goed a malurion ar y trac gan greu perygl i drenau.

Gweithiodd Network Rail dros y penwythnos i geisio ailagor cymaint â phosibl o’r rhwydwaith erbyn bore Llun.  Fodd bynnag, o ran trenau TrC sydd wedi rhedeg dros falurion, mae angen eu dychwelyd i’r depo ar gyfer gwiriadau diogelwch ac i’w trwsio, a bydd hyn yn effeithio ar y gwasanaethau ar y rheilffordd yr wythnos hon.

Mae TrC yn annog pob cwsmer i wirio cyn teithio gan ddefnyddio travelcheck.com/tfwrail.

Dywedodd Jan Chaudhry-Van der Velde, Rheolwr Gyfarwyddwr TrC Rheilffordd:

“Cafodd Storm Arwen effaith fawr ar wasanaethau’r rheilffordd dros y penwythnos a llawer o linellau yn cael eu cau oherwydd coed yn cwympo a rhwystrau eraill.   O ganlyniad, difrodwyd nifer o’n trenau, ac mae ein peirianwyr fflyd wedi gweithio trwy’r penwythnos i drwsio’r difrod ac atgyweirio cerbydau yn ein depos. 

“Bydd yn cymryd peth amser i gwblhau’r holl atgyweiriadau, yn y cyfamser, bydd hyn yn cael effaith ar wasanaethau trên.  Rydym yn annog cwsmeriaid i wirio cyn teithio i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Dywedodd Rachel Heath, Rheolwr Gweithrediadau Network Rail Cymru a’r Gororau:

“Mae ein timau wedi bod yn gweithio ddydd a nos i glirio ar ôl Storm Arwen.  O ganlyniad i’w gwaith caled, mewn amodau heriol iawn, llwyddwyd i ailagor y mwyafrif o’r llinellau erbyn bore Llun.

“Unwaith eto, mae hyn yn ein hatgoffa o’r heriau rydyn ni’n eu hwynebu ar y rheilffordd yn ystod cyfnodau o dywydd eithafol.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.