9 C
Llanelli
Saturday, March 7, 2026
Home Newyddion Lle Lansio cronfa i fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd

Lansio cronfa i fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd

0
418
pexels givingtuesday 9826019 scaled
pexels givingtuesday 9826019 scaled
Welsh Government News

Bydd cronfa i fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yn helpu sefydliadau llawr gwlad i ddod â chymunedau ynghyd ar draws Cymru.

Bydd y Gronfa Unigrwydd ac Ynysigrwydd Cymdeithasol tair blynedd yn cefnogi sefydliadau rheng flaen, lleol, llawr gwlad, sy’n dod â phobl o bob oed ynghyd, gan eu helpu i greu cysylltiadau cymdeithasol mewn cymunedau ac ar draws cymunedau.

Mae £1.5 miliwn wedi’i rannu ar draws awdurdodau Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â Chynghorau Gwirfoddol Sirol, dros y tair blynedd nesaf ac a bydd yn helpu sefydliadau i gynnal gweithgareddau wyneb yn wyneb yn ddiogel neu i barhau i gynnal gweithgareddau ar-lein os yw’n anodd cael mynediad i leoliadau neu er mwyn cyrraedd pobl nad ydynt yn barod i ddod i ddigwyddiadau wyneb yn wyneb.

Roedd rhaid i bob ymgeisydd ddangos sut yr oedd eu cynnig yn bodloni un neu fwy o feysydd blaenoriaeth strategol unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

“Grwpiau cymunedol sy’n deall orau beth y mae eu cymunedau eu hangen a pha gymorth sydd ei angen i helpu pobl i ailgysylltu ac ailadeiladu cysylltiadau cymdeithasol. Bydd y cyllid sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn helpu sefydliadau bychan i gefnogi eu cymunedau drwy ddatblygu gweithgareddau presennol, hyrwyddo eu hunain yn ehangach a helpu i ariannu’r defnydd o leoliadau addas.

“Mae’r pandemig wedi achosi i lawer o bobl ar draws Cymru deimlo’n unig ac yn ynysig. Hyd yn oed ar ôl llacio cyfyngiadau, bydd rhai pobl yn bryderus neu’n betrusgar am adael eu cartrefi a dechrau ymwneud ag eraill unwaith eto. Rwy’n gobeithio y bydd y prosiectau a ariennir yn lliniaru rhai o’r pryderon hyn.”

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Prif Aelod Llesiant ac Annibyniaeth Cyngor Sir Ddinbych:

“Rydym wrth ein bodd bod Sir Ddinbych wedi llwyddo yn ei chais i Gronfa Unigrwydd ac Ynysigrwydd Cysylltu Cymunedau Llywodraeth Cymru. Mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych a Gwasanaethau Cymorth Cymunedol y Cyngor, Datblygu Cymunedol, Llyfrgelloedd a’r Siop Un Alwad eisoes wedi cael ceisiadau am gymorth ar gyfer amryw o weithgareddau ac ymyriadau a fydd yn helpu trigolion i ailgysylltu â chyfeillion, teuluoedd a’r rheini sy’n rhannu’r un diddordebau â nhw.

Mae llawer o bobl wedi bod yn dioddef unigrwydd ac ynysigrwydd sylweddol yn enwedig ers dechrau’r pandemig, a bydd y gronfa hon yn helpu i gefnogi’r rheini mewn angen.”

Dywedodd y Cynghorydd Lisa Dymock, aelod cabinet Cyngor Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am Gymunedau, Llesiant a Chyfiawnder Cymdeithasol:

“Bydd y gronfa hon yn sbarduno prosiectau cymunedol ac yn cefnogi cymunedau i droi syniadau’n realiti. Gwyddom fod unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yn broblemau difrifol yn ein sir ac y gallant effeithio ar unrhyw un waeth beth fo’u hoedran neu eu cefndir. Gwyddom mai’r ffordd orau o fynd i’r afael ag unigrwydd yw creu cymunedau cynhwysol sy’n ffynnu, a hynny o’r gwaelod i fyny; dyma ddiben craidd ein rhwydweithiau cymunedol lleol. Gan adeiladu ar y bartneriaeth gref rhwng GAVO, Cyngor Sir Fynwy a sefydliadau lleol pwysig eraill, mae rhwydweithiau cymunedol Sir Fynwy yn ffordd o helpu pobl sydd eisiau gweithredu a gwneud newidiadau cadarnhaol yn eu hardal i gysylltu ag eraill sydd â’r un dyhead. 

“Mae rhoi’r cyfle i gymunedau arwain prosiectau yn ganolog i bopeth a wnawn yn Sir Fynwy. Gwyddom fod grwpiau a thrigolion lleol yn llawn syniadau am sut i drawsnewid eu hardaloedd lleol a dod â phobl ynghyd. Bydd y gronfa hon yn gam pwysig arall ymlaen i’w cefnogi i wneud yn union hynny, a helpu ein trigolion i fod yn rhan lawn o’u cymunedau lleol.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.