18 C
Llanelli
Saturday, August 15, 2026
Home Newyddion Lle £1 filiwn i gefnogi 500 o bobl ddi-waith i ddechrau busnes

£1 filiwn i gefnogi 500 o bobl ddi-waith i ddechrau busnes

0
633
Yvette Clark at Fussy
Yvette Clark at Fussy
Welsh Government News

Mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn lansio cronfa gwerth £1 miliwn i gefnogi hyd at 500 o bobl ddi-waith a phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant i ddechrau eu busnes eu hunain.

Bydd y grant hwn a fydd yn cael ei roi yn ôl disgresiwn yn rhoi hyd at £2,000 o gymorth ariannol i 400 o unigolion sydd wedi wynebu rhwystrau wrth ddechrau busnes, ac i hyd at 100 o entrepreneuriaid ifanc.

Mae’r grant hwn yn rhan o becyn cymorth a fydd yn cynnwys cyngor personol a gweminarau i feithrin hyder mewn arferion busnes a datblygu cynlluniau ar gyfer dechrau busnes.

Mae’r gronfa ategu’r Grant Rhwystrau i Fusnes Newydd, a gefnogodd 382 o unigolion y mae pandemig Covid wedi effeithio’n anghymesur arnynt, drwy ddarparu buddsoddiad i ddechrau busnes yn 2020/21.

Roedd 60% o’r ymgeiswyr llwyddiannus yn fenywod, 12% yn bobl anabl, 13% yn ystyried eu hunain yn Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, tra bo 12% yn entrepreneuriaid ifanc.

Roedd Yvette Clark yn un o’r ymgeiswyr llwyddiannus a defnyddiodd y gefnogaeth a gafodd gan Busnes Cymru a’r Grant Rhwystrau i agor Fussy, siop pethau o’r oes a fu, yn Goodsheds yn y Barri.

Dywedodd:

“Rwyf bob amser wedi bod eisiau cael fy siop fy hun a bod yn fos arnaf i fy hun. Ni feddyliais erioed y byddai’n cymryd pandemig i hynny ddigwydd, ond dyma fi. Gwnaeth wynebu’r posibilrwydd o golli fy swydd fy sbarduno i ddilyn fy uchelgais oes o werthu dillad o’r oes a fu yn llawn amser.

“Fel rhan o’m pecyn dileu swydd, roeddwn yn gymwys i gael hyfforddiant ReAct. Ar ôl ychydig o gyrsiau, penderfynais lunio cynllun busnes ar gyfer fy siop fy hun a chysylltu â Busnes Cymru.

“Ar ôl mynychu’r weminar ‘Dechrau a Rhedeg eich Busnes eich hun’ am ddim, dechreuais roi fy nghynllun ar waith gyda chymorth cynghorydd â chyfoeth o brofiad a gwybodaeth yn y maes. Rhoddwyd cymorth amhrisiadwy i mi drwy gydol fy nhaith.”

Mae Busnes Cymru bellach wedi cynyddu’r cymorth cynghori sydd ar gael i helpu unigolion a gwneud cais am y grant. Bydd hyn ar gael o ddydd Llun 13 Rhagfyr 2021 tan ddiwedd mis Mawrth 2022.    

Gofynnir i bob ymgeisydd llwyddiannus ystyried y rôl y maent yn ei chwarae wrth fabwysiadu gwerthoedd cydraddoldeb a chynaliadwyedd.

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi:

“”Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n gadarn i sicrhau Cymru decach a gwyrddach, gyda ffyniant yn lledaenu’n fwy cyfartal. Mae canolbwyntio ar gefnogi mwy o fusnesau newydd, meithrin sector busnesau bach a chanolig  hyd yn oed yn fwy ffyniannus a blaenoriaethu mentrau sy’n cael eu hysgogi gan arloesedd yn allweddol i hyn. 

“Bydd y gronfa newydd yr wyf yn ei chyhoeddi heddiw yn adeiladu ar lwyddiant y grant blaenorol ac yn mynd i’r afael â’r heriau sy’n deillio o ddod â chynllun ffyrlo Llywodraeth y DU i ben. Bydd hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldeb a mynd i’r afael â thlodi drwy leihau diweithdra a dileu rhwystrau i’r farchnad lafur.

“Nod y cyllid newydd yw cefnogi dros 100 o entrepreneuriaid ifanc, a chynnig cyfleoedd i 400 o bobl eraill a fyddai fel arall yn wynebu mwy o heriau i fod yn hunangyflogedig.

“Bydd y cymorth a’r grant ychwanegol hwn yn darparu llwybr cadarnhaol i bobl ifanc, gan gyflawni’r cynnig o hunangyflogaeth yn ein Gwarant uchelgeisiol i Bobl Ifanc.”

I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael a’r meini prawf cymhwysedd llawn, ewch i wefan Busnes Cymru. Gwahoddir ymgeiswyr i lenwi dogfen mynegi diddordeb.

Os oes gennych gwestiynau ac yn dymuno siarad ag aelod o dîm Busnes Cymru, ffoniwch 03000 6 03000.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.