9.6 C
Llanelli
Thursday, March 5, 2026
Home Newyddion Lle Cymru’n serennu ar y sgrin yn 2022

Cymru’n serennu ar y sgrin yn 2022

0
565
7812a724033744618f583c3d1c75b7fa
7812a724033744618f583c3d1c75b7fa

Yn ystod 2021, cafodd Cymru un o’r cyfnodau prysuraf erioed o ran gweithgarwch ffilm a theledu, gyda mwy na 24 o gynyrchiadau yn cael eu ffilmio ledled y wlad rhwng mis Mai a mis Hydref – sy’n golygu y bydd llawer o gyfleoedd i weld ein gwlad hyfryd ar y sgrin yn 2022 

Yn ystod cyfnod y Nadolig, bydd dilynwyr Doctor Who yn cael gweld y cyntaf o dair rhaglen a fydd yn nodi perfformiad olaf Jodie Whittaker fel y Doctor. Bydd Russell T Davies, sy’n wreiddiol o Abertawe, yn dychwelyd fel rheolwr y rhaglen i ddathlu Pen-blwydd y gyfres yn 60 oed yn 2023, gyda BBC Studios yn cynhyrchu’r rhaglen mewn partneriaeth â Bad Wolf. Bydd trydedd gyfres ‘A Discovery of Witches’, a gynhyrchir gan Bad Wolf ac a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, ar gael ar Sky Max a NOW ar 7 Ionawr, a hon fydd y gyfres olaf.

Mae Cymru wedi cyflwyno cynyrchiadau mawr yn ystod y misoedd diwethaf, gan gynnwys ‘Havoc’ (Netflix) gyda Tom Hardy a Forest Whitaker, trydedd gyfres ‘His Dark Materials’ ar gyfer BBC One/HBO, a honno fydd yr un olaf, a chynhyrchiant Lucasfilm newydd sbon – cyfres deledu sy’n seiliedig ar y ffilm wreiddiol glasurol ‘Willow’, a gaiff ei dangos ar Disney+. Disgwylir i’r holl gynyrchiadau hyn – a gefnogir gan Cymru Greadigol – ymddangos ar ein sgrin yn 2022.

Drwy weithio law yn llaw â chynyrchiadau rhyngwladol mawr, mae Cymru Greadigol hefyd wedi cefnogi cynyrchiadau o Gymru gan gynnwys y ffilm hir ‘The Almond and Seahorse’ (Mad as Birds) gyda Rebel Wilson a chyfres ddrama chwe rhan ‘The Light / Y Golau’ gyda Joanna Scanlan, ac Alexandra Raoch ac Iwan Rheon sy’n wreiddiol o Gymru, a gynhyrchir ar y cyd gan Duchess Street Productions a Triongl mewn cydweithrediad ag APC Studios.

Mae Sgrin Cymru (sy’n rhan o Cymru Greadigol)  hefyd wedi helpu i gynhyrchu dwy gyfres ddrama newydd ar Channel 4 y disgwylir eu darlledu yn hwyrach yn 2022: ‘The Birth Of Daniel F Harris’ (Clerkenwell Films) a ‘The Undeclared War’ (Playground Entertainment) gyda Mark Rylance a Simon Pegg, gan gynnwys fersiwn hir newydd o ‘Lady Chatterley’s Lover’ a ffilmiwyd yn rhannol yng ngogledd Cymru.

Mae Cymru Greadigol hefyd yn parhau i gefnogi’r sector cynhyrchu annibynnol sy’n ffynnu yng Nghymru ac sy’n cynhyrchu cynnwys ffeithiol arloesol a phoblogaidd. Cafodd cyfres Avanti Media ar Channel 4 ‘The Perfect Pitch’ a chyd-gynhyrchiad rhyngwladol Cwmni Da, ‘Rain Stories’, y bwriedir eu cyflwyno y flwyddyn nesaf, gefnogaeth drwy gyllid Cymru Greadigol.

Mae’r cynnydd hwn o ran gweithgarwch cynyrchiadau wedi arwain at alw na welwyd ei debyg o’r blaen am weithlu medrus. Mae Cymru Greadigol wedi bod yn gweithio gyda’r sector er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r prinder sgiliau ar unwaith. Mae hyn yn sicrhau bod gan ein gweithlu’r sgiliau cywir ar gyfer y dyfodol i barhau i ddarparu criw o ansawdd uchel ar gyfer cynyrchiadau Cymru a’r rheiny sydd am ffilmio yma.

Mae cyllid Cymru Greadigol yn gwarantu ymrwymiad i gynnig cyfleoedd i hyfforddeion ar ffurf lleoliadau â thâl; ac mae mwy na 120 o hyfforddeion wedi cael budd o weithio ar gynyrchiadau a gefnogwyd gan Cymru Greadigol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Caiff y lleoliadau hyn eu monitro er mwyn helpu i lywio llwybrau gyrfaoedd i bob hyfforddai yn y dyfodol.

Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon:

Roedd cael blwyddyn gynhyrchiol yng nghanol pandemig – pan oedd galw enfawr am gynnwys newydd – wedi cyflwyno heriau a chyfleoedd. Rydym yn edrych ymlaen at weld Cymru’n cael ei harddangos yn amlwg ar ein sgriniau y flwyddyn nesaf mewn rhai cynyrchiadau mawr. Bydd hyn yn rhoi enw gwell fyth i ni’n fyd-eang fel lleoliad o’r radd flaenaf ar gyfer cynyrchiadau teledu a ffilm, gyda’r criw, y sgiliau, y gofod stiwdio a’r lleoliadau a all wasanaethu pob math o gynyrchiadau.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.