8.6 C
Llanelli
Monday, March 9, 2026
Home Local News Ceredigion News Aelwydydd yng Ngheredigion i dderbyn Llythyr Hysbysu cyn Etholiadau Lleol mis Mai...

Aelwydydd yng Ngheredigion i dderbyn Llythyr Hysbysu cyn Etholiadau Lleol mis Mai 2022

0
391
voting 1558686996
voting 1558686996

Dylai trigolion Ceredigion ddisgwyl gweld Llythyr Hysbysu Aelwydydd yn cyrraedd eu cyfeiriad cofrestredig o fewn y dyddiau nesaf.

Gofynnir i aelodau’r cartref wirio a yw’r bobl sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn eu cyfeiriad ar hyn o bryd yn gywir ac a oes unrhyw newidiadau yn yr aelwyd. Os yw’r wybodaeth yn gywir, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth. 

Os oes unrhyw wybodaeth yn anghywir, rhowch wybod i ni. Os nad yw rhai neu bob un o’r bobl a restrir yn y llythyr yn byw yn y cyfeiriad hwn mwyach, cysylltwch â ni er mwyn i ni ddiweddaru’r gofrestr etholiadol.

Os nad yw rhywun wedi’i gynnwys yn y llythyr ac yn gymwys i bleidleisio, dyma eu cyfle i gofrestru i bleidleisio. Cofiwch, dyma’r tro cyntaf y gall pobl ifanc 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor bleidleisio yn yr etholiadau Lleol ddydd Iau, 5 Mai 2022.

Gall preswylwyr gofrestru i bleidleisio drwy fynd i www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio neu drwy ffonio Gwasanaethau Etholiadol Ceredigion. Mae cofrestru i bleidleisio yn rhoi’r hawl i chi gymryd rhan mewn etholiadau, a gallai wella eich statws credyd.

Eifion Evans yw Swyddog Canlyniadau Cyngor Sir Ceredigion. Dywedodd: “Wrth baratoi ar gyfer Etholiadau’r Cyngor Sir a Chynghorau Tref a Chymuned ar 5 Mai eleni, rydym yn gofyn i drigolion Ceredigion wirio’r llythyr er mwyn sicrhau bod gan y Gwasanaeth Etholiadol y wybodaeth ddiweddaraf ar y gofrestr etholiadol. Bydd cymryd ychydig funudau i sicrhau bod y wybodaeth yn gywir yn sicrhau eich bod wedi cofrestru i bleidleisio ar 5 Mai.”

Gall preswylwyr sydd ag unrhyw gwestiynau gysylltu â Gwasanaethau Etholiadol Ceredigion ar 01545 572032 neu electoralservices@ceredigion.gov.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.