20.2 C
Llanelli
Friday, August 14, 2026
Home Newyddion Lle Tynged yr Iaith: Comisiynydd y Gymraeg yn rhybuddio rhag bod yn rhy...

Tynged yr Iaith: Comisiynydd y Gymraeg yn rhybuddio rhag bod yn rhy gyfforddus am sefyllfa’r Gymraeg heddiw

0
389
Gwenith Price
Gwenith Price

Mae angen gweithredu mwy uchelgeisiol i sicrhau y gall pobl fyw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg.

Ar ben blwydd darlith radio Saunders Lewis, Tynged yr Iaith, yn 60 oed, mae’r Comisiynydd yn cydnabod y cynnydd sydd wedi ei wneud o ran statws yr iaith dros y trigain mlynedd diwethaf. Mae’n rhybuddio, ar y llaw arall, bod rhwystrau yn parhau i atal pobl rhag medru byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, Gwenith Price: ‘Saesneg oedd unig iaith swyddogol sefydliadau cyhoeddus yn y 1960au, hyd yn oed mewn ardaloedd gyda chanrannau uchel iawn o siaradwyr Cymraeg. Mae’r ffaith fod hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg gyda sefydliadau cyhoeddus yn bodoli ym mhob rhan o Gymru erbyn hyn yn rhywbeth y gellid ei ddisgrifio, yng ngeiriau Saunders Lewis, fel dim llai na ‘chwyldro’. Mae’n annhebygol y byddai hyn wedi digwydd heb ei ysgogiad, ac ymdrechion cenedlaethau o ymgyrchwyr.

‘Un mlynedd ar ddeg yn ôl i’r wythnos hon, daeth Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn ddeddf gwlad. Yn sgil y ddeddf mae hawl defnyddio’r Gymraeg gyda dros 120 o sefydliadau cyhoeddus. Yn wahanol i’r ddeddf iaith flaenorol, arweiniodd Mesur y Gymraeg at orfodi sefydliadau i ystyried y Gymraeg yn fwy gofalus, gan sicrhau bod yr iaith yn ganolog wrth gynllunio gofal iechyd, er enghraifft. Rhoddodd y Mesur hefyd hawl i unigolion gwyno’n uniongyrchol i Gomisiynydd y Gymraeg. Gellir cwyno am ddiffyg gwasanaeth Cymraeg neu am ystyriaeth annigonol o’r iaith gan sefydliadau. Mae gan y Comisiynydd ystod o bwerau i ddelio â chwynion o’r fath ac atal profiadau tebyg rhag digwydd eto.

‘Ond rhaid inni beidio â bod yn rhy gyfforddus,’ meddai. ‘Mae gormod o lawer o rwystrau yn atal siaradwyr rhag defnyddio’r iaith o hyd. Er ein bod yn croesawu’r ymrwymiad a wnaed yn y cytundeb cydweithio rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru yn ddiweddar, does dim digon wedi ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf i symud y gwaith yn ei flaen, ac mae angen gosod dyletswyddau ar sectorau cyfan. Rhwystr arall yw na all y Comisiynydd orfodi’r defnydd o’r Gymraeg gan sefydliadau sy’n cael eu rhedeg gan Lywodraeth y DU, er enghraifft materion yn ymwneud â phasbortau, trwyddedau gyrru a’r wladwriaeth les.

‘Nid oes gofyn o gwbl chwaith ar y mwyafrif o fusnesau i ddefnyddio’r iaith, ac mae hyn yn cyfyngu ar allu pobl i fyw yn Gymraeg. Tan y bydd profiad siaradwyr Cymraeg yn gyfartal â’r Saesneg, nid yw’r frwydr wedi ei hennill.’

Meddai Gwenith Price: ‘Soniodd Saunders Lewis am yr angen am chwyldro ym maes gwasanaethau cyhoeddus. Heddiw, mae angen chwyldro yn y byd addysg. Heb weddnewid y sefyllfa yn llwyr, bydd y weledigaeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg yn methu. Does dim digon o athrawon all addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i greu cenhedlaeth newydd o siaradwyr. Mae angen gwneud llawer mwy i ddenu siaradwyr i’r proffesiwn, a datblygu sgiliau iaith Gymraeg yr athrawon hynny sy’n addysgu drwy gyfrwng y Saesneg.’

Fis Hydref diwethaf, cyhoeddodd y Comisiynydd adroddiad 5-mlynedd ar sefyllfa’r iaith. Ynddo, mae’n dadansoddi’n fanwl sefyllfa’r iaith heddiw. Mae angen gweithredu’n uchelgeisiol mewn meysydd fel addysg, datblygu economaidd, tai,  technoleg, a buddsoddi mewn rhwydweithiau cymunedol a chymdeithasol.

Gallwch ddarllen yr Adroddiad 5-mlynedd ar sefyllfa’r Gymraeg yma, neu wrando ar Gomisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, yn trafod y casgliadau mewn podlediad yma.

Am fwy o wybodaeth am waith y Comisiynydd ewch i comisiynyddygymraeg.cymru.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.