11.1 C
Llanelli
Wednesday, March 4, 2026
Home Local News Ceredigion News Ceredigion i elwa o brosiect a gyhoeddwyd i nodi Dydd Gŵyl Dewi

Ceredigion i elwa o brosiect a gyhoeddwyd i nodi Dydd Gŵyl Dewi

0
420
2021 jeremy miles
2021 jeremy miles

I nodi Dydd Gwŷl Dewi, mae Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, wedi cyhoeddi 11 o brosiectau cyfalaf newydd ar draws naw Awdurdod Lleol yng Nghymru i gefnogi twf yr iaith Gymraeg. Mae Ceredigion yn un o’r siroedd a fydd yn derbyn cyllid.

Mae £5.7m wedi cael ei ddyrannu i greu Canolfan Drochi Iaith Gymraeg a bloc o ystafelloedd dosbarth a fydd yn ychwanegu lle i 30 o ddisgyblion ychwanegol yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth.

Mae’r cyllid, sydd werth cyfanswm o dros £30 miliwn ar draws Cymru, wedi’i anelu at gynyddu capasiti mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, sefydlu darpariaeth cyfrwng Cymraeg newydd a chefnogi’r gwaith o drochi disgyblion yn yr iaith yn gynnar yn ogystal â helpu dysgwyr o bob oed i wella’u sgiliau a meithrin hyder yn y Gymraeg.

Bydd £1.2m ychwanegol hefyd yn cael ei roi i’r Urdd ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd, a hynny er mwyn cefnogi’r mudiad ieuenctid i barhau â’i weithgareddau ar ôl i Covid-19 amharu arnynt.

Y Cynghorydd Catrin Miles yw’r Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth. Dywedodd: “Mae cyhoeddiad heddiw yn newyddion gwych i ni yng Ngheredigion, a bydd yn helpu i roi hwb i’n gweledigaeth o gryfhau’r Gymraeg yn ein cymunedau. Dydd Gŵyl Dewi Hapus!”

I ddarllen y datganiad llawn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, ewch i: https://llyw.cymru/prosiectau-mawr-newydd-yn-cael-eu-cyhoeddi-i-helpu-twf-yr-iaith-gymraeg


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.