6.7 C
Llanelli
Tuesday, February 3, 2026
Home Mid and West Wales Fire and Rescue Service Yn Cydweithio i Ddiogelu ein Cefn Gwlad a’n Gwlad

Yn Cydweithio i Ddiogelu ein Cefn Gwlad a’n Gwlad

0
374
ThrownCigarette Facebook Post
ThrownCigarette Facebook Post
Mid & W Wales Fire News
Dawns Glaws logo
Dawns Glaws Hashtag

Mae Ymgyrch Dawns Glaw, sy’n dasglu amlasiantaethol o arbenigwyr o asiantaethau allweddol ledled Cymru, wedi ailffurfio i leihau, a lle bo hynny’n bosibl, i ddileu effaith tanau glaswellt ledled Cymru.

Bydd y tasglu, a sefydlwyd yn wreiddiol yn 2016 i fynd i’r afael ag achosion o gynnau tanau glaswellt yn fwriadol ledled Cymru, hefyd yn rhoi sylw i’r cynnydd mewn tanau damweiniol, a achosir yn aml o ganlyniad i’n hymddygiad diofal ein hunain pan fyddwn allan yn mwynhau yng nghefn gwlad.

Yn ystod 2021, deliodd y Gwasanaethau Tân ac Achub ledled Cymru â 2,089 o danau glaswellt. Er bod hyn yn gynnydd bach o’i gymharu â 2020, roedd nifer y tanau damweiniol yn ystod 2021 wedi cynyddu 24%.

Bob blwyddyn, mae tanau yn gyfrifol am ddinistrio miloedd o hectarau o ardaloedd cefn gwlad, mannau agored a chynefinoedd bywyd gwyllt.  Rydym am weithio gyda’n cymunedau i adeiladu cefn gwlad iachach a mwy gwydn ac i ddatblygu cefn gwlad mwy bioamrywiol ar gyfer ein dyfodol. Mae gweithio gyda’n cymunedau a rhannu ein gwybodaeth yn rhoi gwell dealltwriaeth i ni o’r hyn y gallwn ei wneud i leihau’r difrod y mae tanau damweiniol yn ei achosi i’n hamgylchedd.

Dywedodd Peter Greenslade, Pennaeth Atal ac Amddiffyn Corfforaethol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, a Chadeirydd Ymgyrch Dawns Glaw:

“Rydym yn lansio ein hymgyrch eto eleni ar Ddydd Gŵyl Dewi, a hynny gyda phle gwladgarol ein bod i gyd yn parhau i gydweithio i adeiladu tirwedd Gymreig iachach a mwy gwydn trwy ddatblygu cefn gwlad mwy bioamrywiol ar gyfer ein dyfodol. Rydym am barhau i amddiffyn ein tirweddau, ein glaswelltir a’n cefn gwlad y mae pob un ohonom mor ffodus eu bod gennym ar garreg ein drws.

“Rydym am weithio gyda’n cymunedau, ein ffermwyr a’n tirfeddianwyr i rannu ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth o’r effaith y mae tanau bwriadol a thanau damweiniol yn ei chael ar ein cymunedau. Rydym yn deall y gall llosgi rheoledig gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd, gan greu bioamrywiaeth ac ecosystem gynaliadwy, ac rydym ar gael i roi cyngor am ddim ar sut i fynd ati i wneud hyn yn ddiogel.

“Hoffwn achub ar y cyfle hefyd i atgyfnerthu ein neges: er y gall damweiniau ddigwydd, mae yna rai yn ein cymunedau sy’n rhoi ein cefn gwlad ar dân yn fwriadol – nid yn unig y mae hyn yn drosedd y byddant yn cael eu herlyn amdani, ond mae hefyd yn gosod pwysau diangen ar wasanaethau rheng flaen ac yn peryglu ein cymunedau. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth yn ymwneud â throseddau o’r fath i ffonio 101, neu i gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.” 

Mae’r Ymgyrch hefyd yn parhau â’i gwaith gyda ffermwyr a thirfeddianwyr ledled Cymru, gan eu hatgoffa, er y gallant losgi grug, glaswellt, rhedyn ac eithin hyd at 15 Mawrth (hyd at 31 Mawrth mewn ardaloedd tir uchel), mae’n rhaid bod ganddynt Gynllun Llosgi ar waith i sicrhau eu bod yn llosgi’n ddiogel. Mae’n anghyfreithlon llosgi y tu allan i’r tymor llosgi, a gall arwain at gosbau o hyd at £1000.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am #DawnsGlaw 2022 trwy wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru www.mawwfire.gov.uk/DawnsGlaw lle gallwch hefyd gael hyd i awgrymiadau diogelwch syml a lawrlwytho negeseuon diogelwch yr ymgyrch i’w defnyddio ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol eich hun. Gyda’n gilydd gallwn atal tanau glaswellt a diogelu ein cefn gwlad a’n gwlad.

Cofiwch – Os ydych allan yn mwynhau yng nghefn gwlad ac yn dod ar draws unrhyw weithgarwch amheus, cysylltwch â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111, neu ffoniwch 101. Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.