8.6 C
Llanelli
Saturday, February 28, 2026
Home Newyddion Lle Ehangu’r Cynnig Gofal Plant gan roi rhagor o gyllid i ddarparwyr.

Ehangu’r Cynnig Gofal Plant gan roi rhagor o gyllid i ddarparwyr.

0
381
MicrosoftTeams image 1 scaled
MicrosoftTeams image 1 scaled
Welsh Government

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y caiff y Cynnig Gofal Plant ei ehangu i gynnwys rhieni sy’n ymgymryd ag addysg a hyfforddiant a rhieni sy’n cymryd absenoldeb mabwysiadu.

O fis Medi ymlaen, bydd rhieni sy’n ymgymryd ag addysg a hyfforddiant a rhieni sy’n cymryd absenoldeb mabwysiadu, os bydd hynny’n unol â Chynllun Cymorth Mabwysiadu’r plentyn, yn gymwys i gael hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth i blant tair a phedair oed.

Ar hyn o bryd, nid yw aelwydydd lle nad yw neb yn gweithio yn gymwys i gael gofal plant a ariennir gan y llywodraeth, ar ben yr hawl i addysg gynnar sydd eisoes ganddynt.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

“Roedd ein Rhaglen Lywodraethu yn nodi ein haddewid i ddarparu rhagor o ofal plant i rieni sy’n ymgymryd ag addysg a hyfforddiant, ac rydyn ni’n benderfynol o helpu teuluoedd sy’n gweithio gyda chostau gofal plant. Mae’n wych ein bod yn gallu parhau i ehangu’r Cynnig Gofal Plant i sicrhau y bydd mwy o deuluoedd yn gallu manteisio ar y cynnig.”

“Drwy gynnig rhagor o gymorth gyda chostau gofal plant i rieni sy’n ymgymryd ag addysg a hyfforddiant, daw yn amlwg pa mor bwysig inni yw cefnogi pobl i sicrhau eu bod yn fwy cyflogadwy drwy ennill cymwysterau, ailhyfforddi neu newid eu llwybr gyrfa.”

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi £6 miliwn yn ychwanegol bob blwyddyn i godi’r gyfradd fesul awr a delir i ddarparwyr gofal plant o £4.50 i £5 yr awr o fis Ebrill ymlaen. Bydd y cynnydd o 11% hwn yn helpu i sicrhau bod y sector gofal plant yng Nghymru yn fwy cynaliadwy. Mae Gweinidogion wedi ymrwymo i adolygu’r gyfradd hon o leiaf bob tair blynedd. Bydd yr uchafswm y gall lleoliadau ei godi ar gyfer bwyd hefyd yn codi o £7.50 i £9 y dydd, gan adlewyrchu’r cynnydd mewn prisiau bwyd a chyfleustodau, gan gynnwys prisiau ynni.

At hynny, caiff £3.5 miliwn yn ychwanegol ei fuddsoddi mewn gofal plant Dechrau’n Deg, a defnyddir £1.5 miliwn i gefnogi’r gwaith parhaus o gysoni’r cyfraddau cyllido ar gyfer darpariaeth feithrin y Cyfnod Sylfaen a gofal plant o dan y Cynnig Gofal Plant.

Dywedodd Ms Morgan:

“Rydyn ni am sicrhau bod Cymru yn lle gwych i dyfu i fyny ynddo, ac mae rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant wrth wraidd yr uchelgais hwn. Byddwn ni’n parhau i adolygu’r cynllun a’r gyfradd a delir i ddarparwyr er mwyn sicrhau bod rhieni yn gallu manteisio ar y Cynnig Gofal Plant o hyd, a bod gofal ac addysg o ansawdd uchel ar gael i blant ledled Cymru.”

Dywedodd Claire Protheroe, Rheolwr Cenedlaethol Cymru y Gymdeithas Broffesiynol ar gyfer Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar (PACEY Cymru):

“Mae PACEY Cymru yn croesawu’r cyhoeddiad hwn ar y cynnydd yn y gyfradd a delir i ddarparwyr Cynnig Gofal Plant Cymru. Mae’r cyhoeddiad hwn yn dilyn gwaith ymgynghori a gynhaliwyd i gasglu barn y sector, ac mae’n gadarnhaol gweld bod y farn hon yn cael ei hystyried a’i gwerthfawrogi. Mae’r heriau y mae’r sector wedi bod yn eu hwynebu yn parhau: mae COVID-19 a’r cynnydd mewn costau byw wedi effeithio ar hyder y sector o ran pa mor hyfyw y bydd yn y dyfodol. Mae PACEY Cymru yn arbennig o bryderus ynghylch y ffaith bod nifer y gwarchodwyr plant cofrestredig yng Nghymru yn parhau i ostwng, a gwyddom fod y sector mewn cyflwr bregus. Mae’r cyhoeddiad hwn yn gam cadarnhaol tuag at helpu i sicrhau cynaliadwyedd ariannol ehangach i bob lleoliad yng Nghymru ac o ran cydnabod y costau uwch o ddarparu gwasanaethau gofal plant a chwarae o ansawdd.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.