7.4 C
Llanelli
Sunday, February 1, 2026
Home Local News Ceredigion News Cymuned Cyn-filwyr Ceredigion a chefnogaeth i Wcráin   

Cymuned Cyn-filwyr Ceredigion a chefnogaeth i Wcráin   

0
327
CCC crest
CCC crest

Mae trigolion Ceredigion, ynghyd â gweddill y DU, yn dangos cymorth a chefnogaeth i bobl Wcráin wrth i’r gwrthdaro â Rwsia barhau i ysgwyd y wlad. Yn dilyn adroddiadau bod aelodau o’r gymuned gyn-filwyr ledled y DU yn ceisio teithio i Wcráin i ymladd, mae Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion ac Eiriolwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Paul Hinge, yn tynnu sylw at y ffaith bod ffyrdd eraill y gall y gymuned gyn-filwyr yng Ngheredigion helpu.

Dywedodd y Cynghorydd Hinge: “Ceisiwch ddarbwyllo unrhyw un sy’n ystyried mynd i Wcráin i ymladd i beidio â gwneud hynny, mae’n risg ddifrifol i roi eu hunain yn y sefyllfa beryglus hon.”

Safbwynt Llywodraeth y DU o hyd yw y gallai teithio i Wcráin i ymladd, neu gynorthwyo eraill sy’n ymwneud â’r gwrthdaro, fod yn droseddau yn erbyn deddfwriaeth y DU a gallai arwain at erlyniad.

Aeth y Cynghorydd Hinge yn ei flaen: “Cyn bo hir, bydd angen i bobl gydlynu cymorth lleol i ffoaduriaid o Wcráin sy’n cyrraedd yma yng Ngheredigion. Bydd angen cymorth ariannol arnynt drwy roddion elusennol. Mae angen arian ar Wcráin, yn hytrach na gwirfoddolwyr a fydd, er bod ganddynt fwriadau da, yn rhoi mwy o bwysau ar adnoddau sydd eisoes o dan bwysau.

“Mae elusennau a chymdeithasau gwasanaeth yn darparu sianel o gefnogaeth a chyfeillgarwch i’n cyn-filwyr. Drwy eich rhwydweithiau, gallwch wneud gwahaniaeth cadarnhaol drwy sianelu eich egni a’ch brwdfrydedd yn y ffordd gywir; Bydd pobl o Wcráin sydd angen noddfa yn cyrraedd yn fuan a bydd angen cymorth ar eu cyfer yma.”

Dylid hefyd atgoffa Personél sy’n gwasanaethu nad ydych chi fel aelodau o Luoedd Arfog Prydain, p’un a ydych yn filwr rheolaidd neu’n filwr wrth gefn, wedi eich awdurdodi i deithio i Wcráin i gefnogi’r gwrthdaro parhaus yn erbyn Rwsia mewn unrhyw ffordd, p’un a ydych ar seibiant ai peidio.

Mae gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut y gallwch helpu a chefnogi pobl Wcráin ar gael yma: https://gov.wales/supporting-people-ukraine


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.