8.6 C
Llanelli
Monday, March 9, 2026
Home Other areas Carmarthenshire County Council Sir Gaerfyrddin yn paratoi i groesawu a chefnogi ffoaduriaid o Wcráin 

Sir Gaerfyrddin yn paratoi i groesawu a chefnogi ffoaduriaid o Wcráin 

0
356
newsroom ukraine
newsroom ukraine

MAE Cyngor Sir Caerfyrddin yn dweud y bydd yn cynnig ystod lawn o gymorth i deuluoedd o Wcráin a phobl leol sy’n cynnig croesawu ffoaduriaid i’w cartrefi.

Mae swyddogion yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac eisoes yn cael sgyrsiau gyda phartneriaid allanol allweddol, gan gynnwys landlordiaid preifat a chymdeithasau tai lleol, sefydliadau gwirfoddol ac elusennol a’r bobl sydd eisoes wedi cynnig i gynnig llety i deuluoedd neu roi cymorth mewn ffyrdd eraill.

Dywedwyd y bydd ffoaduriaid sy’n dianc rhag y gwrthdaro yn Wcráin yn cael cymorth i ddod o hyd i dai addas, cyflogaeth ac addysg, yn ogystal â chymorth emosiynol a diogelu.

Mae’r cyngor wedi lansio ffurflen ar-lein ar ei wefan i gasglu gwybodaeth gan bobl Sir Gaerfyrddin am y math o gymorth y gallant ei gynnig hefyd.

Er bod pobl yn cael eu hannog yn gyntaf i roi arian drwy’r Pwyllgor Argyfyngau i roi cymorth i ddinasyddion yn Wcráin a’r gwledydd cyfagos, mae’r cyngor wedi awgrymu ffyrdd ymarferol y gallai pobl helpu.

Mae hyn yn cynnwys croesawu teulu o Wcráin i’w cartref am ychydig wythnosau neu fisoedd, hyd nes y gellir dod o hyd i gartref parhaol, neu sicrhau bod cartref ar gael i’w rentu.

Gallai pobl wirfoddoli i helpu i baratoi cartrefi yn barod i deuluoedd symud iddynt, neu helpu gyda thrafnidiaeth ar gyfer teuluoedd sydd newydd gyrraedd.

Gofynnir i’r rhai sy’n gallu siarad Wcreineg neu Rwsieg gynorthwyo gyda chyfieithu a chyfieithu ar y pryd, helpu plant Wcráin gyda’u gwaith cartref a defnyddio sgiliau a gwybodaeth arbenigol eraill i helpu teuluoedd sy’n ffoaduriaid.

Dywedodd y cyngor y bydd yn defnyddio’r wybodaeth a gesglir yn lleol i drefnu cymorth wedi’i dargedu yn ôl yr angen, ond nad yw’n glir eto pryd na sut y gallai fod angen y cymorth – bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhannu cyn gynted ag y bydd ar gael.

Mae Cymru wedi ymrwymo i gefnogi 1,000 o bobl i ddechrau yng ngham cyntaf y cynllun. Nid yw’r awdurdod yn gwybod eto faint o deuluoedd fydd yn ymgartrefu yn Sir Gaerfyrddin.

I gael rhagor o wybodaeth, neu i gofrestru eich diddordeb i gynnig cymorth, ewch i www.sirgar.llyw.cymru neu galw 01267 234567.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.