17.5 C
Llanelli
Friday, July 3, 2026
Home Dwr Cymru Gweithdai Addysg Dŵr Cymru’n ysbrydoli cyw-wyddonwyr y dyfodol

Gweithdai Addysg Dŵr Cymru’n ysbrydoli cyw-wyddonwyr y dyfodol

0
465
Science week
Science week
Dwr Cymru Welsh Water News
  • Cafodd cannoedd o ddisgyblion ar draws Cymru weithdai yn eu hysgolion yr wythnos ddiwethaf, gan gynnig golwg iddynt ar y swyddi mae gweithwyr Dŵr Cymru’n eu gwneud.
  • Digwyddiadau i ddathlu Wythnos Gwyddoniaeth Prydain – sef dathliad deg diwrnod o wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg – oedd y rhain.

I ddathlu Wythnos Gwyddoniaeth Prydain 2022, mae tîm addysg Dŵr Cymru – y cwmni cyfleustod cyntaf yng Nghymru a Lloegr a’r unig un hyd heddiw – wedi bod ar daith i ysbrydoli cannoedd o ddisgyblion ar draws ardal weithredol y cwmni. Am fod y pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) mor bwysig i’r diwydiant, mae’r cwmni’n gosod ysbrydoli’r holl ddisgyblion i fwynhau a chysylltu â’r maes yma wrth galon ei strategaeth addysg. 

Aeth athrawon Dŵr Cymru, sy’n cael eu secondio i’r busnes yn flynyddol, i ymweld â 12 o ysgolion yn ystod yr wythnos – gan weithio gyda dros 1,200 o ddisgyblion ar bynciau STEM. Roedd y sesiynau’n cyd-fynd â phedwar pwrpas sydd wrth galon y Cwricwlwm Cenedlaethol, gan ganolbwyntio’n benodol ar annog pobl ifanc i fod yn fentrus ac yn uchelgeisiol. Trwy gyfres o gyflwyniadau a gweithdai difyr, rhyngddynt cafodd disgyblion dros 38 awr o addysg gan y cwmni, a bu’n gyfle gwerthfawr i’r disgyblion ddysgu mewn cyd-destun ymarferol.

Bu’r disgyblion yn gweithio mewn grwpiau gan ddefnyddio’u sgiliau llythrennedd a rhifedd i ymateb i’r her o gynllunio, adeiladu a phrofi rhwydwaith graddfa fechan o bibellau cyflenwi dŵr  gan ddefnyddio set bwrpasol o offer.

Mae gan Ddŵr Cymru enw da hirsefydlog am ei ddarpariaeth addysg o safon uchel – ar ôl gweithio gyda bron i 600,000 o ddisgyblion ers sefydlu ei strategaeth addysg. Mae’r ymweliadau a gyflawnwyd yn ystod wythnos Gwyddoniaeth a Pheirianneg ymhlith y nifer o weithgareddau y mae’r cwmni’n eu cyflawni’n rheolaidd trwy ei ymrwymiad i addysgu, hysbysu ac ysbrydoli cenedlaethau iau am werth dŵr.  Mae dull gweithredu’r cwmni wrth secondio athrawon i gyflwyno ei raglen addysg yn unigryw yn y diwydiant, ac mae’n ffordd arall y gall y cwmni ychwanegu gwerth at ysgolion, sydd wrth galon pob cymuned.

Dywedodd Pennaeth Cysylltiadau Cymunedol Dŵr Cymru, Claire Roberts: “Mae ymateb yr ysgolion a’r disgyblion i’r sesiynau hyn wedi bod yn gadarnhaol dros ben. Fel cwmni, mae cyfrifoldeb arnom i gynorthwyo ysgolion i ddarparu addysg. Yn ogystal â helpu cwsmeriaid y dyfodol i ddeall sut y gallant helpu i chwarae eu rhan wrth gadw ein gwasanaethau hanfodol i fynd, mae hi’n cynnig golwg gwerthfawr iddynt ar yr amrywiaeth o ddewisiadau gyrfaol sydd ar gael o fewn y diwydiant.”

Dywedodd un o athrawon Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Magwyr ger Cil-y-coed: “Un o’r gweithdai gorau i mi ei weld mewn dros 20 mlynedd o addysgu!”, a dywedodd athro arall o Ysgol Gynradd Plasmarl yn Abertawe: “Gweithdy rhagorol.  Roedd y tôn yn berffaith ac roedd y plant wrth eu boddau!”

I gael rhagor o wybodaeth am raglen addysg Dŵr Cymru, ewch i www.dwrcymru.com/addysg 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.