9.4 C
Llanelli
Thursday, March 5, 2026
Home Education Cwis Dim Clem y Mentrau Iaith yn denu’r nifer uchaf o gystadleuwyr...

Cwis Dim Clem y Mentrau Iaith yn denu’r nifer uchaf o gystadleuwyr eto! 

0
457
Cwis
Cwis

Mae 188 o ysgolion ar draws Cymru gyfan wedi cystadlu yn Cwis Dim Clem y Mentrau Iaith eleni, a dros 3,500 o blant wedi bod yn ateb cwestiynau heriol a hwyliog mewn sawl rownd cyn gallu ennill lle yn y rownd derfynol gynhaliwyd heddiw [28.03.22].

Mae Cwis Dim Clem yn gwis Cymraeg i blant blynyddoedd 6 ysgolion cynradd Cymru sydd fel rheol yn digwydd wyneb yn wyneb, ond am yr ail dro wedi gorfod cynnal yn rhithiol eleni. Mae’r Mentrau Iaith wedi bod yn cynnal y Cwis o fewn eu hardaloedd ers cyn y Nadolig, a phawb yn ymgeisio am gyfle i gystadlu yn y rownd genedlaethol. Cwis feistri y rownd derfynol genedlaethol oedd Mari Lovgreen, cyflwynwraig boblogaidd ar S4C, ac Owain Williams, cyflwynydd egnïol Stwnsh Sadwrn. Dywed Mari: 

Quiz masters– Owain Williams and Mari Lovgreen

“Roedd hi mor hyfryd gallu cynnal y Cwis hwn eleni a chael gweld y plant yn eu timoedd ar y sgrin. Roedd egni y plant bron i’w deimlo, a’u brwdfrydedd yn cymryd rhan yn amlwg iawn. Roedd ‘na sawl cwestiwn ro’n i’n cael trafferth eu hateb, ond ro’dd y plant fel petai wedi cael hwyl dda iawn arni!” 

Daeth 6 ysgol ynghyd i gystadlu yn erbyn ei gilydd dros dechnoleg Teams ar fore’r 28ain o Fawrth – gyda dwy ysgol yn cynrychioli rhanbarth gogledd Cymru o Lanfairpwll ar Ynys Môn ac o Drefeglwys yn Maldwyn; dwy ysgol o’r de orllewin sef Teilo Sant, Llandeilo ac ysgol gynradd Aberaeron; ac yna dwy ysgol o’r de ddwyrain – y pencampwyr cyfredol o Ysgol Pen Cae, Caerdydd a Cynwyd Sant o Faesteg. 

Announcing winners – all on screen

Roeddynt i gyd ar dân eisiau curo a phrofi eu hunain fel y tîm mwyaf peniog yng Nghymru, a’r tîm lwyddodd i gael y mwyaf o bwyntiau oedd Ysgol Gynradd Aberaeron, Ceredigion. Meddai un aelod o’r tîm:  

“Fe wnaethon ni fwynhau sialens y cwis yn fawr iawn. Ro’dd hi’n grêt gweld pawb ar y sgrîn a gallu sgwrsio gyda Mari ac Owain. Mae’r holl brofiad wedi bod yn wych”. 

Ysgol Dyffryn Trannon, Trefeglwys [concentrating in blue]

Dywed Steffan Rees, Swyddog Datblygu Cered, Menter Iaith Ceredigion: 

“Dyma’r tro cyntaf i Ysgol Aberaeron gyrraedd mor bell yn y gystadleuaeth, ac mae ei hennill mewn cystadleuaeth oedd mor agos yn hufen ar y gacen. Dwi’n hynod o falch dros y plant sydd wedi bod mor frwd dros y cyfnod cystadlu”.  

Dywed Heledd ap Gwynfor, Cydlynydd Cyfathrebu Mentrau Iaith Cymru:

“Mae Cwis Dim Clem yn gyfle gwych i blant gael mwynhau’r iaith Gymraeg a theimlo cyffro cystadleuaeth mewn ffordd ysgafn fel hyn. Ry’n ni’n awyddus bod plant blynyddoedd 6 yn magu perthynas gadarnhaol â’r Gymraeg wrth iddynt ddod i adnabod ffrindiau a chyfoedion newydd eu hysgolion uwchradd, gan roi’r hyder iddynt barhau i siarad yr iaith ar iard yr ‘ysgol fowr’ fis Medi.” 

Cynhaliwyd rownd genedlaethol y Cwis am y tro cyntaf erioed ar Kahoot – system interactif o ateb cwestiynau, ac mae’r Cwis ar gael i bawb – o bob oed – gael tro ar ateb y cwestiynau drwy ddilyn y ddolen: https://kahoot.it/challenge/0632346?challenge-id=13a6b68c-8568-4302-a6c6-797bcb4cfa53_1648472592539 

Game PIN: 0632346 

Ysgol Llanfairpwll

Yr ysgolion yn y rownd derfynol oedd: 

·         Ysgol Pen Cae, Caerdydd 

·         Ysgol Cynwyd Sant, Maesteg 

·         Ysgol Aberaeron 

·         Ysgol Teilo Sant, Llandeilo 

·         Ysgol Llanfairpwll 

·         Ysgol Dyffryn Trannon, Trefeglwys 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.