20.4 C
Llanelli
Tuesday, September 29, 2026
Home Newyddion Lle PLAID CYMRU YN GALW AM DRETH FFAWDELW AR GWMNÏAU YNNI

PLAID CYMRU YN GALW AM DRETH FFAWDELW AR GWMNÏAU YNNI

0
440
download 2021 06 16T160903.616
download 2021 06 16T160903.616

“Os nad yw San Steffan am wneud hynny drosom, yna rhowch y pwerau inni fel y gallwn ei wneud ein hunain” – Luke Fletcher, AS

Mae Plaid Cymru wedi galw o’r newydd am dreth ffawdelw (windfall tax) ar gwmnïau ynni, sydd wedi adrodd am elw yn y biliynau, gan fod prisiau ynni’n codi’n arswydus yn y DU.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Luke Fletcher AS, y dylai pŵer i drethu a rheoleiddio’r sector ynni berthyn i Gymru.

Daw’r galwadau wrth i’r cap ar brisiau ynni godi 54% yn y DU.

Mae’r Prif Weinidog wedi cyfaddef o’r blaen mai dyma polisi’r blaid Lafur, ond mae wedi bod yn amharod i gytuno i’r pwerau hyn ddod i Gymru, gan ddweud “mae’n fater syml bod arnom angen Llywodraeth yn San Steffan sy’n barod i wneud y peth iawn.”

Dywedodd Mr Fletcher na all Cymru aros am San Steffan pan fo’n fater mor frys, a dywed fod yn rhaid i Gymru sefyll dros ei phobl a mynnu’r pwerau i drethu a rheoleiddio’r sector ynni, i bennu treth ffawdelw (windfall tax), i dorri TAW (VAT), i bennu cap ar brisiau, ac, os oes angen, i adfer perchnogaeth gyhoeddus.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Luke Fletcher AS,

“O holl wledydd y DU, bydd yr argyfwng costau byw yn effeithio fwyaf ar bobl Cymru, gan mai gennym ni mae’r lefel uchaf o dlodi incwm cymharol. Bydd unrhyw gynnydd mewn costau byw yn cael effaith sylweddol, felly gallai cynnydd o 54% yn y cap ar brisiau ynni fod yn drychinebus i gymaint o aelwydydd yng Nghymru.

“Dros y gaeaf, helpodd Llywodraeth Cymru gyda chynllun cymorth tanwydd gaeaf, ond mae’r cynnydd mewn prisiau yn digwydd nawr, yn y gwanwyn – ni all y cymorth ddod i ben nawr. I deuluoedd yng Nghymru, gallai ychydig gannoedd o bunnoedd wneud gwahaniaeth, ac eto gwyddom fod cwmnïau ynni’n eistedd ar werth biliynau o bunnoedd o elw.

“Ni allwn aros mwyach i San Steffan wneud y peth iawn dros  Gymru – mae angen y pwerau arnom i drethu a rheoleiddio’r sector ynni, yma yng Nghymru. Mae hyn yn dechrau gyda gosod treth ffawdelw un tro ar gwmnïau ynni. Os nad ydyn nhw eisiau ei wneud drosom  ni, yna rhowch y pwerau i ni fel y gallwn ni ei wneud ein hunain!

“Rydym eisoes wedi sôn am y dewis oedd gan lawer o deuluoedd rhwng bwyta a gwresogi’r tŷ dros y gaeaf. Mae’n fy nychryn i y gallai teuluoedd fod mewn sefyllfa waeth, lle na allant fforddio gwresogi eu bwyd mwyach, tra bod cwmnïau ynni‘n eistedd ar elw yn y biliynau. Rhaid symud y cydbwysedd, a rhaid i Lywodraeth Cymru wneud popeth o fewn eu gallu i fynd i’r afael â hyn.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.