17 C
Llanelli
Saturday, September 19, 2026
Home Mid and West Wales Fire and Rescue Service Mae Awdurdod Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru Wedi Cyhoeddi Cynllun...

Mae Awdurdod Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru Wedi Cyhoeddi Cynllun Strategol 2022-2027 a Chynllun Gwella Busnes Blynddol 2022-2023.

0
380
Article Image 01
Article Image 01

Mae’r Cynllun Strategol yn nodi gweledigaeth, cenhadaeth a gwerthoedd yr Awdurdod. Cyflawnir yr ymrwymiadau a amlygir yn y Cynllun Strategol trwy ddarparu Cynllun Gwella Busnes Blynyddol, a fydd yn tynnu sylw at yr hyn y byddwn yn ei wneud yn y flwyddyn fusnes nesaf er mwyn cyflawni yn unol â’n Hymrwymiadau ar gyfer y pum mlynedd nesaf.

Mae ein Cynllun Gwella Busnes Blynyddol yn nodi ein Hamcanion Gwella a Llesiant ar gyfer 2022-2023, sy’n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’n Hymrwymiadau. Mae’r Cynllun Gwella Busnes Blynyddol yn canolbwyntio ar ein busnes a’r gwelliannau yr ydym am eu gwneud i sicrhau ein bod yn parhau i fod yn addas i’r diben.

Mae Nodau Strategol ac Amcanion Gwella a Llesiant yr Awdurdod wedi cael eu pennu yng nghyd-destun yr heriau sylweddol sy’n wynebu gwasanaethau cyhoeddus, ond maent hefyd yn adlewyrchu’r awydd i groesawu syniadau arloesol a ffyrdd newydd o weithio. Yn ogystal â hyn, maent yn coleddu’r saith Nod Llesiant, ac yn adlewyrchu dyletswyddau ac ymrwymiad yr Awdurdod o ran Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Dywedodd y Cynghorydd Elwyn Williams, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru:

“Rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi yn ein pobl ac i wneud y defnydd gorau o’n hasedau a’n hadnoddau, gan ofalu bod ein staff yn y sefyllfa orau i ddelio ag argyfyngau ac i sicrhau gwell diogelwch ar eu cyfer eu hunain a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

“Wrth i ni barhau i ymateb i’r heriau ariannol sydd o’n blaenau, byddwn hefyd yn ceisio datblygu datrysiadau arloesol er mwyn sicrhau ein bod yn cyflenwi gwasanaethau costeffeithiol o ansawdd uchel”.

Dywedodd y Prif Swyddog Tân, Roger Thomas:

Rydym yn falch iawn o gyflwyno Cynllun Strategol 2022-2027 a Chynllun Gwella Busnes Blynyddol 2022-2023. Mae Cynllun Strategol 2022-2027 yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, sef “bod yn arweinydd byd o ran Ymateb i Argyfyngau a Diogelwch Cymunedol”. Rydym yn hyderus y bydd ein Hymrwymiadau yn ein galluogi i gyflawni ein dyletswyddau statudol a chyfrannu at ofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Rydym yn credu ein bod yn cynnig gwerth da iawn am arian; fodd bynnag, heb os nac oni bai bydd yr hinsawdd ariannol sydd ohoni yn parhau i roi pwysau ychwanegol ar lefelau’r gwasanaeth a ddarparwn wrth i ni ymestyn ein hadnoddau ymhellach fyth. Byddwn felly’n parhau i chwarae ein rhan trwy geisio cyfleoedd i nodi atebion costeffeithiol, a hynny trwy drafodaethau parhaus ac agored â staff a’r cyhoedd ynghylch y modd y gallwn barhau i wneud gwelliannau a sicrhau arbedion effeithlonrwydd yn y dyfodol.”

Cliciwch yma i weld Cynllun Strategol 2022-2027 Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Chynllun Gwella Busnes Blynyddol 2022-2023. 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.