Ein Cytundeb Lleol gyda Chymru 

0
245
Neil McEvoy AM

Rydym yn falch o gyflwyno Cytundeb Propel ar gyfer etholiadau’r Cyngor ar y 5ed o Fai: ein Cytundeb Lleol gyda Chymru 2022.

Mae ein cymunedau, fwy nag erioed angen arweiniad rhagweithiol yn seiliedig ar synnwyr cyffredin, gyda mwy o dryloywder ac atebolrwydd mewn llywodraeth leol.

Ar ôl dwy flynedd anodd, mae cymunedau Cymru yn symud allan o gyfyngiadau’r pandemig, ac yn wynebu newidiadau mawr a chyfnod o ansicrwydd.

Mae codiadau sylweddol yng nghostau tanwydd, cynnydd yn y Dreth Gyngor a chwyddiant yn golygu bod llawer bellach yn ei chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd.

Mae heriau amlwg yn wynebu ein cymunedau. Mae ymateb yn uniongyrchol i’r sialensiau hynny wrth galon ein Cytundeb Lleol Gyda Chymru 2022.

Rheolaeth Gyffredinol Cynghorau

  • Bydd unrhyw Gynghorau a gefnogir gan Propel yn cynnal adolygiad gwraidd a bôn annibynnol a chwbl ddiduedd i
    ailstrwythuro rheolaeth y Cynghorau hynny. Bydd yr arbedion a wneir yn cael eu dargyfeirio i wasanaethau rheng flaen.
  • Mae Propel yn addo diystyru unrhyw gynnydd mewn termau go iawn yn y Dreth Gyngor, heb wneud toriadau i wasanaethau hanfodol.

Cynghorau yn cynhyrchu incwm

Yn ogystal â gwario arian, dylai Cynghorau gynhyrchu arian:

Mae Propel yn cynnig:

  • Canolfannau cyswllt plant sy’n eiddo i’r Cyngor i gynhyrchu refeniw gwerthfawr yn ogystal â sicrhau gwell rheolaeth ar y gwasanaeth.
  • Datblygu partneriaethau cyhoeddus/preifat lleol i adeiladu distyllfeydd wisgi, gan greu swyddi, incwm a refeniw o allforion. Rhoi gwybod i bartneriaid corfforaethol posibl am y fenter hon.
  • Datblygu partneriaethau cyhoeddus/preifat lleol i fanteisio ar gronfeydd nwy Cymru heb ffracio. Ar hyn o bryd mae Cymru yn mewnforio nwy o Norwy,
    Ewrop, Qatar a Rwsia. Byddai manteisio ar gronfeydd methan wrth gefn Cymru yn gostwng biliau, yn creu swyddi ac yn lleihau ôl troed carbon Cymru.

Tai

Mae Propel yn cynnig:

  • Adeiladu tai Cyngor gwirioneddol fforddiadwy, gan ddefnyddio cyfalaf o gronfeydd pensiwn llywodraeth leol. Byddai hwn yn fuddsoddiad diogel, gyda chronfeydd pensiwn yn ennill incwm cynaliadwy ar unwaith, ynghyd ag asedau yn cynyddu mewn gwerth. Adeiladu tai newydd yn bennaf ar safleoedd tir llwyd, gan ddefnyddio gofod manwerthu a swyddfeydd gwag hefyd.
  • Troi tai gwag yn gartrefi hyfyw, gan gynnig benthyciadau i landlordiaid eu hadnewyddu, neu, fel dewis olaf, pryniant gorfodol.
  • Creu cwmnïau preifat hyd braich i adeiladu/prynu tai, gyda golwg ar alluogi pobl i brynu eu cartref cyntaf.
  • Mynd i’r afael â’r sgandal cladin. Bydd datblygwyr sy’n gwrthod ysgwyddo cyfrifoldeb yn cael eu heithrio o bartneriaeth ag awdurdodau lleol. Bydd cronfa ymladd gyfreithiol yn cael ei sefydlu gan unrhyw Gyngor a gefnogir gan Propel.
  • Polisi Tai yn Gyntaf. Nid elusennau bob amser yw’r partneriaid gorau i ddarparu tai â chymorth, byddai Propel yn ailgyfeirio cyllid o elusennau i awdurdod lleol ddarparu tai â chymorth ar raddfa fach.
  • Gweithio i gadw hunaniaeth leol, Gymreig, trwy gynyddu’n sylweddol y gost o newid enwau tai Cymraeg i enwau di-gymraeg.
  • Hyrwyddo cydraddoldeb ar gyfer rhieni preswyl sydd â dyletswyddau gofal am lai o amser na’r prif riant preswyl, ac sy’n byw mewn darpariaeth tai, fel eu bod yn gallu gwneud cais am lety un ystafell wely, gydag addasiadau Treth Ystafell Wely.
  • Gweithredu Cod Canllawiau 2012 Llywodraeth Cymru fel bod cyn-filwyr yn cael eu blaenoriaethu mewn cynlluniau dyrannu tai, a hefyd yn gallu cael cymorth yn hawdd gydag unrhyw faterion, fel PTSD, a achoswyd o ganlyniad i’w hamser yn y fyddin.

Gwasanaethau Plant ac Oedolion

Mae gwasanaethau Plant ac Oedolion yn gwneud tro gwael â theuluoedd ar hyn o bryd. Mae cymorth yn aml ar ffurf ymyriadau llym, a gwneir penderfyniadau gyda chanlyniadau pellgyrhaeddol, yn aml gan weithwyr proffesiynol dibrofiad, sydd weithiau’n brin o ddealltwriaeth neu empathi am y materion a wynebir gan y teuluoedd y maent yn gweithio gyda nhw.

Mae Propel yn cynnig:

  • Rhoi’r gorau i fabwysiadu er elw a chreu asiantaethau Cadw Teuluoedd Gyda’i Gilydd, gyda phwyslais ar ddarparu cymorth cyfannol i deuluoedd, yn lle asiantaethau mabwysiadu.
  • Creu cynlluniau Mentora lleol, cynnig cyrsiau magu plant estynedig, cymorth yn y cartref, a hyd yn oed tai â chymorth, i rieni sy’n gwrthwynebu mabwysiadu.
  • Creu Cynllun Nawdd, i ganiátau gweithwyr proffesiynol profiadol o feysydd eraill i rannu eu harbenigedd gydag ymarferwyr gwaith cymdeithasol, er mwyn cynnig safbwyntiau ehangach. Lansio adolygiad cenedlaethol ac ymchwiliad fforensig i Wasanaethau Plant yng Nghymru ym mhob Cyngor Sir.
  • Cynghorau i dalu’r gost o newid statws y Dreth ystafell wely, pan fydd plant yn cael eu tynnu oddi wrth eu rhieni. Gwella lles meddyliol a chorfforol defnyddwyr gofal cymdeithasol i oedolion, trwy greu lleoliadau gweithgaredd.

Cymuned

  • Mae mannau gwyrdd yn hanfodol ar gyfer y blaned, ar gyfer bioamrywiaeth, ac yn chwarae rhan werthfawr o ran lles meddwl ein cymunedau.

Mae Propel yn addo:

  • Gwarchod ardaloedd gwyrdd mewn cymunedau, ac annog defnydd y gymuned o fannau gwyrdd lleol.
  • Gwneud Cymru’n wlad sy’n Gyfeillgar i Wenyn, fesul sir. Mae gwenyn a phryfed peillio yn hanfodol ar gyfer tyfu cnydau, ond maent yn cael eu bygwth gan newid yn yr hinsawdd, afiechyd, colli cynefin a’r defnydd o bryfleiddiaid pwerus gan amaethyddiaeth. Rhaid i hyn newid.
  • Ymrwymo i hyrwyddo mentrau diogelwch ffyrdd, yn enwedig mewn ardaloedd cyfagos i ysgolion.
  • Byddai unigolion i oruchwylio croesfannau cerddwyr yn cael eu darparu ar gyfer pob ysgol gynradd, a byddai mesurau diogelwch ffyrdd ychwanegol yn cael eu harchwilio hefyd.
  • Ymrwymo i drosglwyddo asedau cymunedol, lle mae budd amlwg i’r gymuned leol.
  • Gwneud y broses gladdu yn fwy effeithlon, er mwyn cydymffurfio â gofynion crefyddau nad ydynt yn Gristnogion.
  • Lansio hybiau a chydweithfeydd gwella cartrefi a chymunedol heb arian – i hwyluso’r broses o gyfnewid deunyddiau, sgiliau a llafur yn ein cymunedau.

Amgylchedd a Chynllunio

Mae Propel yn cynnig:

  • Ailddosbarthu tir ar gyfer tai yn dir amaethyddol i ddiogelu caeau gwyrdd.
  • Diddymu cynlluniau datblygu lleol amhoblogaidd.
  • Seilwaith gwyrdd, trwy dyfu planhigion addas ar seilwaith cyhoeddus i gynorthwyo gyda chreu gwell bioamrywiaeth ac aer glanach.
  • Dyblu darpariaeth rhandiroedd ym mhob awdurdod lleol: Mae Propel wedi ymrwymo i wneud Cymru yn wlad gwbl hunangynhaliol o ran cynhyrchu bwyd.

Addysg

Mae Propel yn cynnig:

  • Sicrhau bod staff cyflenwi yn cael cyflog teg.
  • Darparu adnoddau canolog i rieni sy’n dewis addysgu gartref.
  • Gwrthdroi camau Llafur i breifateiddio hyfforddiant / addysg y tu allan i oriau ysgol fesul sir.
  • Gwneud ysgolion yn ganolfannau cymunedol, i ddarparu gwasanaethau datganoledig ychwanegol megis prydau cymunedol, canolfannau ieuenctid a mannau cyfarfod i bobl trydedd oed.
  • Cyflwyno rhaglen gyfnewid athrawon pwnc gwirfoddol rhwng ysgolion a cholegau mewn gwahanol rannau o Gymru.
  • Hysbysebu a buddsoddi mewn addysg drochi Cymraeg er mwyn hwyluso’r broses o drosglwyddo i’r sector cyfrwng Cymraeg.
  • Parchu gwahaniaethau diwylliannol mewn diet ym mhob sefydliad addysgol. Rhaid darparu o leiaf un dewis bwyd addas ar gyfer pobl sy’n dilyn diet Halal, Kosher neu lysieuol lle bo galw.
  • Darparu ar gyfer dysgu Ieithoedd Treftadaeth (Wrdw, Bengali, Gujrati, Somalïaidd, Arabeg) i lefel TGAU mewn ysgolion Uwchradd lle mae nifer sylweddol o blant â threftadaeth gymysg a lle gellir dangos galw.
  • Ymgorffori siarter Iaith Arwyddion Prydain yn y system addysg yng Nghaerdydd, a chefnogi pob plentyn byddar i gyflawni ei lawn botensial.

Strategaeth Adfer ar ôl Covid

Mae Propel yn cynnig:

  • Creu cydweithfeydd tyfu bwyd ar gyfer marchnadoedd ffermwyr lleol newydd.
  • Cronfa Symudedd Cymdeithasol i noddi’r myfyrwyr disgleiriaf sy’n astudio Safon Uwch a thu hwnt.
  • Cynllun cyfraniadau i gynghorau lleol dalu am weithredu gwirfoddol.
  • Datganoli ailgylchu, gan greu mentrau cymunedol dielw.
  • Adfywio canol ein trefi drwy sicrhau bod eiddo sy’n wag ers amser maith yn cael eu defnyddio unwaith eto. Byddai hyn yn cael ei wneud drwy negodi neu brynu gorfodol lle bo angen.
  • Polisi o brynu’n lleol fesul sir.
  • Cytuno ar gynlluniau lle mae cyflogwyr mawr yn dangos cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol trwy gyfrannu’n gadarnhaol at y gymuned.
  • Ceisio deddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru i roi’r pŵer i Gynghorau weithredu ardoll gwely mewn gwestai.
  • Denu’r graddedigion gorau o brifysgolion Cymru trwy gynllun graddedigion wedi’i weinyddu gan Gynghorau.
  • Teithio am ddim ar fysiau yng Nghymru

Yn gywir

Neil McEvoy

Arweinydd Propel


http://www.propel.wales/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle