17.8 C
Llanelli
Sunday, September 13, 2026
Home Newyddion Lle Darnau’r jig-so yn disgyn i’w lle i Jonathan o Gasllwchwr

Darnau’r jig-so yn disgyn i’w lle i Jonathan o Gasllwchwr

0
519
jonathan
jonathan

Ac yntau yn wreiddiol o Gasllwchwr ger Abertawe, ond bellach yn byw yn Llundain, mae Jonathan Davies wedi’i synnu gyda faint o Gymraeg mae’n ei gofio o’i ddyddiau ysgol, ers iddo ail-afael yn yr iaith fel oedolyn.

Ail-gydiodd Jonathan yn ei Gymraeg yn 2020, gan ddechrau gydag ap Duolingo, cyn symud ymlaen i gael gwersi mewn dosbarth rhithiol gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Abertawe ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Meddai Jonathan, “Mae’n rhyfedd – hyd yma, dw i ddim yn teimlo mod i’n dysgu ond yn hytrach dw i’n llwyddo gwneud cysylltiad rhwng geiriau dw i’n eu gwybod yn barod.  Roedd y geiriau i gyd yna o’r ysgol, ond nawr dw i’n gallu eu cysylltu er mwyn creu brawddegau a siarad. Mae llawer ohono yn gyfarwydd i mi ac mae’r darnau’r jig-so yn disgyn i’w lle.”

Mae Jonathan bellach yn dysgu ar lefel Uwch, ar gyfer dysgwyr profiadol, ar ôl dechrau gyda chwrs Mynediad dwys ar gyfer dechreuwyr yn Ionawr 2021.  

Ychwanegodd, “Dw i nawr wedi cyrraedd lefel ble dw i’n dysgu pethau newydd, na wnaethom ni yn yr ysgol. Dw i’n mwynhau lot a dyw e ddim yn teimlo fel gwaith caled.

“Dw i’n manteisio ar bob cyfle i ddefnyddio fy Nghymraeg ac mae digon o gyfleoedd i ni.  Gwnes i fynd i amryw o foreau coffi ar-lein ar ddechrau’r cyfnod clo, a dw i’n rhan o’r cynllun ‘Siarad’ a’r cynllun ‘Cyfeillio’ sy’n rhoi cyfle i mi ymarfer siarad rhwng gwersi.

“Dw i’n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg o ogledd Cymru ar y cynllun ‘Siarad’, sy’n paru dysgwyr a siaradwyr Cymraeg ar gyfer sgwrsio anffurfiol. Ac yna yn y cynllun ‘Cyfeillio’, dw i’n sgwrsio gyda dysgwraig o Glydach sydd newydd ddechrau dysgu Cymraeg, ac mae’n gyfle i ni helpu ein gilydd i weithio pethau allan gyda’r iaith.”

Mae cariad Jonathan ac un o’i ffrindiau gorau yn gallu siarad Cymraeg, a dyna un o’r rhesymau pam yr aeth ati i ddysgu’r iaith.  Meddai, “Ro’n i eisiau dysgu iaith newydd ac ro’n i wedi rhoi cynnig ar ddysgu Almaeneg sawl gwaith ond yn cael dim hwyl arni.

“Yna, ro’n i’n eistedd yn y dafarn un noson gyda’m ffrind gorau a’m cariad, oedd yn siarad Cymraeg gyda’i gilydd.  Ac ro’n i eisiau gallu ymuno yn y sgwrs a deall beth roedden nhw yn ei ddweud.

“Felly, gwnes i adduned blwyddyn newydd i ddysgu Cymraeg a dw i heb edrych yn ôl ers hynny.”

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae Jonathan yn gallu cynnal sgwrs yn ddi-drafferth yn Gymraeg ac mae’n annog pobl ifanc eraill sy awydd dysgu’r iaith i fynd amdani. 

Ychwanegodd, “Mae gallu siarad Cymraeg yn cŵl iawn.  Dw i’n teimlo nawr fod gen i fwy o gyswllt gyda’r gymdeithas a’r diwylliant Cymraeg.  Dw i hefyd yn gwybod lot mwy am fy niwylliant na beth wnes i erioed o’r blaen!

“Dw i’n edrych ymlaen yn ofnadwy at dreulio wythnos yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron a chael mwynhau siarad Cymraeg am wythnos gyfan.”

Ym mis Medi 2022, bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cynnig cyrsiau Cymraeg am ddim i bobl ifanc 18-25 oed. 

Am fwy o fanylion ac i gofrestru eich diddordeb, cliciwch yma.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.