10.1 C
Llanelli
Sunday, March 1, 2026
Home Farming Gweithdy newydd Cyswllt Ffermio i helpu ffermwyr i wella cynhyrchiant buchod sugno

Gweithdy newydd Cyswllt Ffermio i helpu ffermwyr i wella cynhyrchiant buchod sugno

0
454
Guy Tomlinson Milfeddyg Daleside Vets scaled
Guy Tomlinson Milfeddyg Daleside Vets scaled

Mae Cyswllt Ffermio wedi ychwanegu modiwl ychwanegol at ei weithdy hyfforddi Iechyd a Lles Anifeiliaid a ariennir yn llawn.

Bydd ‘Cynyddu cynhyrchiant gwartheg sugno i’r eithaf’ yn cael ei gyflwyno o ddechrau mis Ebrill, gan ddod â chyfanswm y pynciau sydd ar gael ar hyn o bryd i 16.

Datblygwyd holl gynnwys cwrs Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyswllt Ffermio ar y cyd â NADIS (y Gwasanaeth Gwybodaeth Cenedlaethol am Glefydau Anifeiliaid) a’i gyflwyno gan bractisau milfeddygol sy’n cymryd rhan ledled Cymru. Bydd y gweithdai rhyngweithiol ar gael naill ai mewn gweithdai grŵp wyneb yn wyneb rhanbarthol (a fydd yn para hyd at dair awr) neu ar-lein.

Mae Guy Tomlinson, o gwmni milfeddygol Daleside yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, yn un o’r milfeddygon a fydd yn darparu’r hyfforddiant. Esboniodd Mr Tomlinson mai nod y modiwl newydd hwn yw helpu ffermwyr i ddeall economeg sylfaenol cynhyrchu gwartheg sugno fel y gallant nodi meysydd lle gellir gwella cynhyrchiant:

“Bydd ffermwyr yn dysgu sut i ddiffinio buwch sugno gynhyrchiol, y ffordd orau i gyflawni neu wella cynhyrchiant, a sut i osod targedau realistig.

“Y nod yw cael buwch sy’n dod yn gyflo’n hawdd, yn lloia’n rhwydd, yn magu llo iach ac yna’n beichiogi eto, gan gadw’n iach ac yn rhydd o afiechyd.

“Bydd pwyslais cryf yn cael ei roi ar ymwybyddiaeth o glefydau a’u hatal, yn ogystal â phwysigrwydd cadw cofnodion ar gyfer data ffrwythlondeb a lloia, fel bod gan ffermwyr y wybodaeth sydd ei hangen arnynt, a fydd yn ei dro yn cynorthwyo gyda phenderfyniadau cynhyrchu a rheoli,” meddai Mr Tomlinson.

Mae llawer o ffactorau’n effeithio ar allu buwch i gynhyrchu llo yn flynyddol. Nod y gweithdy hwn yw sicrhau bod ffermwyr yn deall effaith penderfyniadau bridio o fewn y fuches lawndwf, ac addasrwydd mathau a bridiau anifeiliaid ar gyfer eu system gynhyrchu eu hunain, yn ogystal â ffactorau eraill a all effeithio ar ffrwythlondeb.

Ystyrir pwysigrwydd dewis teirw a’u hiechyd, yn ogystal â chanllawiau ar ddewis heffrod cyfnewid, eu hiechyd cyffredinol a rheoli bridio.

I ddarganfod pa bractisau milfeddygol fydd yn cyflwyno’r modiwlau hyfforddi gwartheg sugno Iechyd a Lles Anifeiliaid hyn, ac am leoliadau a dyddiadau, ewch i’r adran sgiliau a hyfforddiant ar www.llyw.cymru/cyswlltffermio neu ffoniwch eich swyddog datblygu lleol.

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru ac mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gw


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.