9.6 C
Llanelli
Monday, March 16, 2026
Home Newyddion Lle Buddsoddiad o £1.1 miliwn i sicrhau bod Cymru yn wlad o blaid...

Buddsoddiad o £1.1 miliwn i sicrhau bod Cymru yn wlad o blaid pobl hŷn 

0
401
ageing image scaled
ageing image scaled
Welsh Government News

Mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi’r camau gweithredu y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hybu pobl hŷn a herio’r ffordd rydym yn meddwl am heneiddio.

Cafodd y cynllun cyflawni ei lunio mewn partneriaeth â phobl hŷn a’u cynrychiolwyr, ac mae’n amlinellu’r camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wireddu’r weledigaeth a nodir yn Cymru o blaid pobl hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy’n heneiddio.

Mae £1.1 miliwn ar gael i awdurdodau lleol er mwyn cefnogi eu gwaith o blaid pobl hŷn a sicrhau bod pobl hŷn yn rhan o’r gwaith o ddylunio a chynllunio gwasanaethau lleol.

Nod y camau yn y cynllun cyflawni yw codi ymwybyddiaeth o hawliau pobl hŷn, mynd i’r afael â thlodi sy’n gysylltiedig ag oedran, gwella gwasanaethau a mannau cyhoeddus, a lleihau unigrwydd drwy hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli fel ffordd o annog mwy o bobl i ymgysylltu â’u cymunedau. Mae camau penodol yn cynnwys:

  • cefnogi pobl hŷn i fod yn hyderus yn ddigidol
  • parhau â’r Rhaglen Prentisiaethau Bob Oed
  • cefnogi busnesau i fod yn fwy cynhwysol o ran oedran ac i gadw, ail-hyfforddi a recriwtio gweithwyr hŷn
  • ariannu gwelliannau i seilwaith gwasanaethau bysiau er mwyn sicrhau bod mwy o safleoedd bysiau a chyfnewidfeydd allweddol yn gwbl hygyrch i bawb
  • mynd i’r afael â thlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni
  • cynyddu nifer y bobl sy’n hawlio’r credyd pensiwn

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

“Rydym am greu Cymru lle mae pawb yn edrych ymlaen at fynd yn hŷn a lle caiff oedran ei ddathlu. Ein Gweledigaeth yw cael Cymru o blaid pobl hŷn sy’n cefnogi pawb o bob oed i fyw a heneiddio’n dda. Yn rhy aml, mae heneiddio’n cael ei gysylltu â salwch a dirywiad ac mae cyfraniadau pobl hŷn i gymdeithas yn cael eu hanwybyddu.  

“O sicrhau bod tai yn cefnogi pobl i heneiddio’n dda, i greu cyfleoedd i aros yn iach ac yn egnïol, mae’r cynllun hwn yn amlinellu sut y byddwn yn gweithio ar draws y Llywodraeth a gyda phartneriaid allweddol, gan gynnwys y Comisiynydd Pobl Hŷn, i wrthsefyll rhagfarn ar sail oedran a gwireddu ein gweledigaeth i greu Cymru o blaid pobl hŷn.”

Dywedodd prif weithredwr Age Cymru, Victoria Lloyd:

“Mae heriau na welwyd eu tebyg yn wynebu pobl hŷn ar hyn o bryd. Mae llawer ohonynt wedi bod yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd ers sawl blwyddyn, ond mae’r broblem wedi gwaethygu’n aruthrol eleni oherwydd y cynnydd mewn biliau tanwydd a chostau byw. 

“Daw hyn ar ben yr heriau o ran gorbryder, unigedd ac iechyd emosiynol y mae llawer o bobl hŷn wedi’u hwynebu dros y ddwy flynedd ddiwethaf drwy’r pandemig a’r cyfyngiadau symud a ddaeth yn ei sgil. 

“Mae llawer i’w wneud i greu Cymru sy’n ystyriol o oedran, ac mae’n briodol felly bod y cynllun yn un eang ei gwmpas. Ymysg y blaenoriaethau mae camau i fynd i’r afael â thlodi a’r effaith andwyol y mae’n ei chael ar fywydau pobl hŷn, a mesurau i wella ymwybyddiaeth pob un ohonom o hawliau dynol fel y gall pobl hŷn fyw eu bywydau ag urddas ac yn unol â’u dewis.

“Rydym yn awyddus i weithio gyda Llywodraeth Cymru i wireddu eu huchelgais ar gyfer Cymru sydd o blaid pobl hŷn.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.