17.8 C
Llanelli
Sunday, September 13, 2026
Home Newyddion Lle Gwaith ar wahardd therapi trosi yn symud ymlaen yng Nghymru

Gwaith ar wahardd therapi trosi yn symud ymlaen yng Nghymru

0
463
LGBTQ flag scaled
LGBTQ flag scaled
Welsh Government News

Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, yn amlinellu gwaith Llywodraeth Cymru ar hyrwyddo cydraddoldeb LHDT yng Nghymru. 

Heddiw, mae Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, wedi amlinellu’r camau nesaf y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn perthynas â gwahardd yr arfer o therapi trosi ledled Cymru. Cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog hefyd fod GIG Cymru wedi ymrwymo i Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth i wahardd therapi trosi yng Nghymru, er mwyn  gweithio tuag at gyflawni ein huchelgais i fod y genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop.

Dywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol:

“Fel llywodraeth, rydyn ni wedi ymrwymo i gyflawni ein huchelgais i fod y genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop, fel nad oes neb yn cael ei adael allan na’i adael ar ôl.

Heddiw, rwy’n cyhoeddi sawl cam pellach y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod therapi trosi yn arferiad sy’n perthyn i’r oes o’r blaen.

Yn ogystal â cheisio cyngor cyfreithiol ar y camau y gallwn ni eu cymryd yng Nghymru i roi terfyn ar yr arfer o therapi trosi yn unochrog; byddwn yn addysgu ac yn codi ymwybyddiaeth o erchyllterau ac aneffeithiolrwydd arferion therapi trosi drwy sefydlu ymgyrch bwrpasol yng Nghymru.

Ochr yn ochr â hyn, bydd gwaith yn cael ei wneud i ddeall yn well yr effaith y mae ‘therapi’ trosi wedi’i chael ar oroeswyr, er mwyn gallu gwella gwasanaethau cymorth. Byddwn ni hefyd yn sefydlu gweithgor o arbenigwyr, a fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o gymunedau ffydd, y sector iechyd a gofal cymdeithasol, a chynrychiolwyr sy’n blant ac yn bobl ifanc, ar y cyd â phobl LHDTC+ i helpu gyda’r gwaith hwn. A bydd y gweithgor hwnnw’n cynghori ar elfennau allweddol wrth i’r gwaith ar wahardd yr arfer fynd rhagddo.”

Cyhoeddodd y Gweinidog hefyd fod Llywodraeth Cymru a GIG Cymru wedi ymrwymo i ‘Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth’ gyda’r Glymblaid yn erbyn Therapi Trosi. Bydd y sefydliadau hynny sy’n llofnodi’r Memorandwm ac yn gweithio i ddarparu neu gomisiynu iechyd meddwl neu seicolegol, megis y GIG, yn ymrwymo i sicrhau nad ydynt yn comisiynu nac yn darparu therapi trosi yng Nghymru.

Dywedodd Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru a Judith Paget, Prif Weithredwr GIG Cymru:

“Mae Llywodraeth Cymru a GIG Cymru yn llwyr gefnogi gwahardd therapi trosi LHDTC+ – a dangoswyd hynny drwy’r ffaith ein bod ni wedi llofnodi’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda’r Glymblaid yn erbyn Therapi Trosi.

Rydyn ni’n sefyll yn unedig yn ein hymrwymiad i wneud yr arfer erchyll hwn yn anghyfreithlon. Rydyn ni o’r farn y bydd y gwaith hwn yn cynnig cyfle pwysig i gefnogi’r rhai sydd mewn perygl o gael therapi trosi, yn ogystal â’r rhai sydd wedi’i ddioddef a’i oroesi.”

Yn olaf, dywedodd y Dirprwy Weinidog:

“Drwy’r mesurau rwy wedi’u cyhoeddi, a thrwy meithrin cysylltiadau â phartneriaid ar draws sectorau hanfodol, rwy’n hyderus y gallwn ni, gyda’n gilydd, ymateb i’r her o wneud Cymru’r genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop – lle mae pob cwr o’n gwlad yn rywle diogel i bobl LHDTC+ fyw’n agored ac yn driw i’w hunain.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.