21 C
Llanelli
Saturday, August 15, 2026
Home Newyddion Lle Cynllun uchelgeisiol i gael gwared ar amseroedd aros hir a thrawsnewid gofal...

Cynllun uchelgeisiol i gael gwared ar amseroedd aros hir a thrawsnewid gofal a gynlluniwyd

0
498
EM MHSS scaled
EM MHSS scaled
Welsh Government News

Heddiw (dydd Mawrth 26 Ebrill), bydd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, yn cyhoeddi cynllun uchelgeisiol i drawsnewid gofal a gynlluniwyd a lleihau amseroedd aros yng Nghymru yn ystod y pedair blynedd nesaf.

Bydd y cynllun yn cael ei ategu gan £60m o arian ychwanegol i’r byrddau iechyd, sef £15m y flwyddyn dros y pedair blynedd nesaf. Bellach mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo mwy nag £1 biliwn yn ystod tymor y Senedd hon i helpu’r GIG i adfer wedi’r pandemig. 

Mae’r cynllun, a fydd yn cael ei gyhoeddi am 12.00 heddiw, wedi’i lunio i helpu’r GIG i reoli’r apwyntiadau a’r triniaethau sydd wedi cronni yn ystod y pandemig, ac i leihau amseroedd aros i bobl â chyflyrau iechyd nad ydynt yn rhai brys.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd mai nod y cynllun yw sicrhau na fydd unrhyw un yn aros mwy na blwyddyn am driniaeth yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn Gwanwyn 2025.

Bydd cyfres o dargedau ymestynnol ar gyfer y byrddau iechyd yn cael eu datgan yn y cynllun. Mae’r pandemig wedi effeithio’n fawr ar amseroedd aros a rhestrau aros ar gyfer gofal a gynlluniwyd – sef atgyfeiriadau arferol a gofal nad yw’n ofal brys – ar draws y Deyrnas Unedig. 

Ar ddechrau’r pandemig, gohiriwyd y rhan fwyaf o apwyntiadau a thriniaethau er mwyn galluogi’r GIG i ganolbwyntio ar ofalu am y nifer fawr o bobl oedd â Covid-19. Mae’r tonnau dilynol o heintiadau coronafeirws hefyd wedi effeithio ar lefelau gweithgarwch yn y GIG.

Mae’r mesurau trwyadl ond angenrheidiol i reoli heintiau yn y GIG, yn enwedig mewn ysbytai, wedi achosi newid mawr yn y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu ac wedi lleihau nifer yr apwyntiadau a’r llawdriniaethau y gellir eu cynnal.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

“Mae angen ymdrech ddwys i sicrhau bod pobl sy’n aros am apwyntiadau a thriniaeth yn cael eu gweld cyn gynted â phosibl ac yn nhrefn blaenoriaeth glinigol. Rydym yn ymrwymo £1 biliwn yn ystod tymor y Sendd hon i helpu’r GIG i adfer wedi’r pandemig ac i drin pobl cyn gynted â phosibl.

“Bydd lleihau amseroedd aros yn gofyn am atebion newydd, mwy o gyfarpar, cyfleusterau newydd a mwy o staff i helpu i roi diagnosis cyflym i bobl fel rhan o wasanaeth gofal a gynlluniwyd sy’n effeithiol ac yn effeithlon. Mae’r cynllun hwn yn nodi sut y byddwn yn trawsnewid gofal a gynlluniwyd fel bod yr achosion â’r mwyaf o frys yn cael blaenoriaeth. 

“Yn anffodus, mae amseroedd aros a rhestrau aros wedi tyfu yn ystod y pandemig. Er y bydd yn cymryd amser hir a llawer o waith caled, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’n Gwasanaeth Iechyd ardderchog i sicrhau na fydd neb yn aros am fwy na blwyddyn am driniaeth yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn gwanwyn 2025.

“Yn ogystal â lleihau amseroedd aros, rydyn ni hefyd eisiau helpu pobl i ddeall a rheoli eu cyflyrau ac i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi wrth iddynt aros am driniaeth.

“Mae hon yn dasg fawr – ond dyna ein ffocws am weddill y tymor hwn.”

Wrth i Gymru symud y tu hwnt i’r ymateb brys i’r pandemig, mae’r ffordd y mae’r GIG yn darparu rhai mathau o ofal wedi newid – ni fydd angen i bobl fynd i’r ysbyty oni bai bod angen gofal, cyngor neu wasanaethau arnynt na ellir eu darparu mor agos i’w cartref â phosibl.

Mae’r cynllun yn adeiladu ar y newidiadau hyn ac yn gosod y nod o sicrhau bod 35% o’r holl apwyntiadau newydd a 50% o’r apwyntiadau dilynol yn cael eu cynnal yn rhithwir yn y dyfodol. Bydd hyn yn helpu i ryddhau amser clinigwyr fel y gallant weld a thrin mwy o gleifion.

Elfen allweddol arall o’r cynllun yw darparu mwy o brofion diagnostig y tu allan i ysbytai ac yn agosach at gartrefi pobl, mewn lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol. Bydd hyn yn arbed amser. Bydd cynlluniau ar gyfer dwy ganolfan ddiagnostig gymunedol yn cael eu datblygu eleni, gyda rhagor i ddilyn erbyn diwedd tymor y Senedd hon.

Bydd gwefan yn cael ei chreu i roi gwybodaeth a chefnogaeth i gleifion i’w galluogi i reoli eu cyflyrau eu hunain. Bydd hyn yn helpu pobl i reoli eu hiechyd eu hunain ac yn golygu na fydd angen i gymaint ohonynt fynd yn ôl i’r ysbyty i gael triniaeth.

Dyma enghreifftiau o’r ffordd y mae’r cyllid hwn wedi’i ddefnyddio eisoes i leihau amseroedd aros:

  • £19,937m ar gyfer dwy theatr lawdriniaeth barhaol newydd yn Ysbyty’r Tywysog Philip, yn Llanelli, a fydd yn trin 4,600 yn rhagor o bobl bob blwyddyn;
  • £2.2m i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar gyfer Uned Llawdriniaeth Ddydd Singleton, a fydd yn trin 3,000 yn rhagor o o gleifion cataract bob blwyddyn;
  • £1.034m ar gyfer trawma ac orthopedeg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, i drin 3,650 yn rhagor o bobl;
  • £827,000 ar gyfer unedau endosgopi symudol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i drin 4200-5400 yn rhagor o gleifion;
  • £1.389m ar gyfer dwy theatr symudol arloesol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a fydd yn gweld rhwng 3,900 a 4,500 o bobl y flwyddyn.

[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.