9.2 C
Llanelli
Wednesday, March 18, 2026
Home Newyddion Lle Prif Weinidog Cymru yn dathlu 10 mlynedd o Lwybr Arfordir Cymru

Prif Weinidog Cymru yn dathlu 10 mlynedd o Lwybr Arfordir Cymru

0
460
wales coast path amroth to pendine scaled
wales coast path amroth to pendine scaled
Welsh Government News

Bydd y Prif Weinidog yn dathlu 10fed pen-blwydd Llwybr Arfordir Cymru gydag ymweliad i gwrdd â gwirfoddolwyr a cherddwyr yn Sir Fynwy heddiw.

Cynhelir rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau blwyddyn o hyd sy’n dathlu Llwybr Arfordir Cymru drwy gydol 2022, gan gynnwys gwyliau cerdded, heriau rhithwir a gosodiadau celf.

Ers ei agor yn 2012, mae Llwybr Arfordir Cymru wedi sefydlu ei hun fel esiampl o harddwch naturiol ein cenedl.

Mae’r llwybr 870 milltir yn tywys cerddwyr ar hyd arfordir prydferth Cymru, gan fynd heibio cant o draethau ac un ar bymtheg o gestyll.

Meddai’r Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Mae llwybr yr arfordir yn un o ogoniannau Cymru ac yn un o lwyddiannau mwyaf datganoli.

“Hoffwn ddiolch i bawb sy’n ymwneud â rheoli’r llwybr. Yn enwedig y staff a’r gwirfoddolwyr, sydd allan ym mhob tywydd, yn gweithio’n galed i gynnal y llwybr i safonau mor uchel.

“Pe bai’n rhaid i mi ddewis fy hoff ddarn o’r llwybr, byddai’r gyfran rhwng Pentywyn ac Amroth yn dod yn agos: gan ddechrau yn fy sir enedigol, sir Gaerfyrddin, a dod i ben yn Sir Benfro. Efallai nad dyma’r rhan fwyaf adnabyddus o’r llwybr, ond mae’n cynnig amrywiaeth enfawr: rhai dringfeydd heriol, amrywiaeth eithriadol o flodau, cilfachau cudd a digon o ddiddordeb hanesyddol”.

Bydd Llywodraeth Cymru yn adeiladu ar lwyddiannau’r deng mlynedd cyntaf fel y gall mwy o bobl fwynhau’r llwybr, o fwy o gefndiroedd, yn haws, a chyda mwy o fanteision i gymunedau lleol, busnesau a’r amgylchedd.

Gofynnodd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, Lee Waters AS, i Huw Irranca-Davies, AS Ogwr, gynnal adolygiad o Lwybr Arfordir Cymru.

Sefydlwyd grŵp bach, o’r byd academaidd a’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, i gynnal yr adolygiad.

Myfyriodd y Grŵp ar y llwyddiannau allweddol dros y ddegawd ddiwethaf a nododd sut i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd ar gyfer y dyfodol.

Mae eu hadroddiad wedi’i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru heddiw (11 Mai).

Mae’r adolygiad yn cydnabod gwerth a heriau posibl Llwybr Arfordir Cymru.  Mae’n cynnwys 19 o argymhellion i Lywodraeth Cymru eu hystyried wrth ddatblygu ei dull strategol o ymdrin â’r llwybr yn y dyfodol.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.