6.1 C
Llanelli
Wednesday, February 4, 2026
Home Local News Cardiff News Parc Maendy (Gelligaer Street) yn ailagor ar ôl cynnal gwelliannau mawr

Parc Maendy (Gelligaer Street) yn ailagor ar ôl cynnal gwelliannau mawr

0
559
IMG 1853 1 scaled
IMG 1853 1 scaled

Mae trigolion Cathays yng Nghaerdydd wedi gallu mwynhau eu parc lleol ar ei newydd wedd y penwythnos hwn wrth i Barc Maendy (Gelligaer Street) ailagor i’r cyhoedd ar ôl cynnal gwelliannau mawr.

Mae’r gwaith, a gafodd ei gynllunio ar ôl ymgynghori â thrigolion, yn rhan o raglen barhaus i adnewyddu parciau ac ardaloedd chwarae ledled y ddinas, ac mae’n cynnwys:

  • Gosod ardal chwarae newydd, gan gynnwys offer chwarae newydd ac adnewyddu ac adleoli offer presennol.
  • Ardal chwarae naturiol ar wahân.
  • Llwybrau newydd.
  • Byrddau tennis bwrdd a teqball newydd. Gêm yw teqball sy’n cael ei chwarae ar fwrdd crwm ac sy’n cyfuno elfennau o bêl-droed a thennis bwrdd.
  • Byrddau picnic, rhai â gemau bwrdd yn rhan ohonynt.
  • Seddau newydd a biniau mewn lleoliad newydd.
  • Coed, llwyni a ac ardaloedd glaswelltog newydd.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: “Mae creu mannau diogel i chwarae yn rhan bwysig iawn o’n gwaith i wneud Caerdydd yn Ddinas sy’n Dda i Blant ond mae hyn wedi bod yn drawsnewidiad a fydd, gobeithio, o fudd i’r gymuned gyfan, gan greu lle y gall pawb ei fwynhau.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.