19 C
Llanelli
Sunday, September 20, 2026
Home Other areas Carmarthenshire County Council Angen contractwyr arbenigol lleol ar gyfer gwaith cefn gwlad 

Angen contractwyr arbenigol lleol ar gyfer gwaith cefn gwlad 

0
416
download 12
download 12

 Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn chwilio am gontractwyr cefn gwlad arbenigol lleol ar gyfer gwaith ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus a safleoedd cadwraeth ledled y sir.

Anogir busnesau yn Sir Gaerfyrddin i dendro ar gyfer y fframwaith sirol, sy’n para dwy flynedd, gan ddechrau ym mis Medi gydag opsiwn i’w ymestyn am ddwy flynedd arall.

Bydd y gwaith yn cynnwys rheoli gwarchodfeydd natur, camau lliniaru ar gyfer datblygu, a phrosiectau cynefin a ariennir gan y llywodraeth ar safleoedd sydd ag amodau heriol, cyfyngiadau ecolegol, tir gwlyb a mynediad anodd.

Mae enghreifftiau o’r gwaith yn cynnwys cynnal a chadw llwybrau, celfi cefn gwlad (camfeydd a gatiau), torri caeau sydd wedi gordyfu, gwaith llif gadwyn a strimio, gwaith cloddio, rheoli coetiroedd, ffensio a phlannu coed.

Mae profiad llwyddiannus a dealltwriaeth dda o weithio yn yr amgylchedd gwledig a naturiol a gwybodaeth am gadwraeth yn hanfodol, yn ogystal â dealltwriaeth o’r ffordd mae’r tir yn newid mewn tywydd heriol.

Bydd angen i ymgeiswyr sicrhau bod y canlynol ar gael: dogfennau arolygu cerbydau a chofnodion cynnal a chadw, tystysgrifau cymhwysedd gweithredwyr (ar gyfer llogi peiriannau gyda gweithredwyr), polisi iechyd a diogelwch a dogfennau yswiriant perthnasol.

Mae angen i unrhyw gyflenwyr sydd â diddordeb mewn tendro am y gwaith hwn fod wedi’u cofrestru ar wefan Porth Caffael Cenedlaethol GwerthwchiGymru, lle gallant fynegi eu diddordeb a derbyn rhagor o wybodaeth.

Mae hwn yn wasanaeth ar-lein am ddim ac yn galluogi busnesau i hyrwyddo eu sefydliad nid yn unig i’r Cyngor ond i gyrff eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae hefyd yn eu galluogi i gael hysbysiadau am gyfleoedd contract sy’n addas i’w maes gwaith.

Mae’r cyngor hefyd yn annog busnesau i gofrestru ar Gyfeiriadur Busnesau Busnes Cymru – adnodd am ddim lle gall busnesau hysbysebu eu gwasanaethau.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.