18 C
Llanelli
Sunday, September 20, 2026
Home Local News Ceredigion News Prydau Ysgol am Ddim i Ddosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2...

Prydau Ysgol am Ddim i Ddosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 o fis Medi 2022 ymlaen

0
485
CCC Logo
CCC Logo

O dymor yr Hydref ymlaen, bydd Cyngor Sir Ceredigion yn cynnig Prydau Ysgol am Ddim i bob plentyn Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2.

Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru i gynnig Prydau Ysgol am Ddim i ddisgyblion ysgolion cynradd ledled Cymru, gan ddechrau gyda dosbarthiadau Derbyn o fis Medi 2022.

Mewn ymateb i’r cynnydd diweddar mewn costau byw, mae hwn yn gam positif ymlaen o ran sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn mynd yn llwglyd tra yn yr ysgol ac yn mynd i’r afael â thlodi yn ein Sir.

O ddydd Llun 5 Medi 2022 ymlaen, bydd pob Plentyn Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 yn ysgolion Ceredigion yn cael cynnig Prydau Ysgol am Ddim, gan ymestyn y cynnig y tu hwnt i’r hyn sydd angen ei wneud erbyn Medi.

Mae Chyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithredu’r cynllun hwn yn gyflym a byddem yn gofyn am eich amynedd wrth i ni feithrin y gallu i sicrhau gweithrediad graddol llwyddiannus a gweithio tuag at gyflwyno’r ysgol gyfan yn raddol dros y tair blynedd nesaf.

Mae’r Cyngor yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu proses i chi allu gofyn am bryd o fwyd am ddim i’ch plentyn/plant yn y Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 o fis Medi ymlaen gan geisio osgoi unrhyw faich diangen i chi.

Os yw eich plentyn yn cael prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd a/neu fudd-daliadau cysylltiedig eraill, na fydd hyn yn effeithio arnynt.

Wyn Thomas, yw’r Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Dywedodd: “Nod y Llywodraeth yw bod Awdurdodau Lleol Cymru yn darparu pryd ysgol am ddim i ddisgyblion dosbarth Derbyn ym mis Medi 2022. Mae’r Cyngor wedi manteisio ar hyblygrwydd y cynllun ac felly bydd mwy o ddisgyblion yng Ngheredigion yn elwa o’r cynnig o bryd bwyd am ddim i ddisgyblion dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 ym Medi 2022 yn ysgolion y Sir.”

Bydd rhagor o wybodaeth yn dilyn erbyn diwedd y tymor. 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.