17.3 C
Llanelli
Thursday, July 23, 2026
Home Local News Swansea news Y Ganolfan Eifftaidd ar y rhestr fer ar gyfer gwobr nodedig i...

Y Ganolfan Eifftaidd ar y rhestr fer ar gyfer gwobr nodedig i amgueddfeydd

0
695
Education 3 edit
Education 3 edit

Cyhoeddwyd heddiw fod Canolfan Eifftaidd Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Kids in Museums i Amgueddfeydd sy’n Croesawu Teuluoedd.

Mae’r elusen Kids in Museums wedi cyflwyno gwobr flynyddol uchel ei bri ers 16 o flynyddoedd, gan gydnabod y safleoedd treftadaeth mwyaf croesawgar i deuluoedd yn y DU. Dyma’r unig wobr i amgueddfeydd a ddyfernir gan deuluoedd.

O ddiwedd mis Mawrth i ddechrau mis Mehefin, pleidleisiodd teuluoedd ledled y DU dros eu hoff atyniad treftadaeth ar wefan Kids in Museums. Yna, o blith cannoedd o enwebiadau, gwnaeth panel o arbenigwyr lunio rhestr fer o 16 o atyniadau treftadaeth.

Mae’r Ganolfan Eifftaidd yn cystadlu ag amgueddfeydd eraill yng nghategori’r Amgueddfa Fach Orau.

Meddai Dr Ken Griffin, y curadur: “Rydyn ni wrth ein boddau i gael ein henwebu. Ers i’r amgueddfa agor ei drysau i’r cyhoedd ym 1998, rydyn ni wedi rhoi pwyslais cryf ar deuluoedd a phobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau i’r teulu megis mymïo ein mymi ffug, trin henebion Eifftaidd go iawn, a chwarae’r gêm fwrdd hynafol Senet.

“Mae cyrraedd rhestr fer y wobr hon yn cydnabod yr holl waith caled y mae ein staff a’n gwirfoddolwyr gwych yn ei wneud!ׅ”

Y Ganolfan Eifftaidd yw’r unig amgueddfa yng Nghymru sy’n ymroddedig i henebion Eifftaidd ac mae ei chasgliad yn cynnwys oddeutu 6,000 o wrthrychau. Gyda thîm bach o staff a mwy na 100 o wirfoddolwyr brwdfrydig, gan gynnwys gwirfoddolwyr ifanc sy’n rheoli’r amgueddfa bob dydd Sadwrn, mae’n cynnal rhaglen boblogaidd i ysgolion ac amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys gweithdai, sgyrsiau a gweithgareddau i’r teulu.

Dros wyliau’r haf, bydd beirniaid teulu cudd yn ymweld â’r amgueddfa. Byddant yn asesu’r amgueddfeydd ar y rhestr fer yn ôl maniffesto Kids in Museums. Bydd eu profiadau’n penderfynu ar enillydd ym mhob categori ac enillydd cyffredinol y Wobr i Amgueddfa sy’n Croesawu Teuluoedd ar gyfer 2022. Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo ym mis Hydref.

Darllenwch fwy am y Wobr i Amgueddfeydd sy’n Croesawu Teuluoedd, a hwylusir gan gyllid gan Gyngor Celfyddydau Lloegr


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.