17 C
Llanelli
Saturday, September 19, 2026
Home Local News Ceredigion News Rory McLeod yn dod â dylanwadau cerddorol o bedwar ban byd i...

Rory McLeod yn dod â dylanwadau cerddorol o bedwar ban byd i Amgueddfa Ceredigion

0
457
CCC Logo
CCC Logo

Ar ddydd Mercher 6 Gorffennaf 2022, bydd Rory McLeod ynghyd â’i gerddor lleol Catrin O’Neill yn perfformio yn Amgueddfa Ceredigion.

Cerddor sydd wedi ei ddysgu ei hun yw Rory, cyn lyncwr tân a chlown mewn syrcas. Mae Rory wedi teithio’r byd am wahanol resymau ar wahanol adegau, o Asia i’r Dwyrain Canol, o Gambia i Giwba, America Ganol, Awstralia, Gogledd America, Canada Ewrop a llefydd eraill ym mhob cornel o’r byd. Mae Rory wedi bysgio yn nhalaith Yunnan yn Tsieina ac wedi dawnsio gyda cherddorion a chantorion o lwythi lleol, wedi chwerthin a chyfnewid cerddoriaeth a dawnsfeydd mewn parciau ac wedi denu cynulleidfaoedd niferus o bobl chwilfrydig. 

Mae Catrin O’Neill, sy’n edmygydd o waith Rory wrth ei bodd yn ei gefnogi. Mae Catrin wedi bod yn perfformio ar lwyfan er pan oedd yn ferch fach ac mae hi yn ei helfen o flaen cynulleidfa, gan greu awyrgylch wahanol wrth fynd o un gân i’r llall. Caneuon am y llawenydd neu’r tor calon a ddaw yn sgil cariad, hanesion am antur neu drasiedi neu gân yfed draddodiadol a swnllyd, mae gan Catrin bob math o ganeuon yn ei rhaglen. Dywedodd: “Yng nghwmni fy Nain, wrth eistedd wrth yr aga y dysgais lawer o’r caneuon rwy’n eu perfformio ar lwyfan heddiw.”

Mae Sarah Morton, trefnydd y digwyddiad yn esbonio: “Ei hiwmor a’i gallu i adrodd hanes, gan dywys y gynulleidfa i lefydd yn y gorffennol a’r presennol, dyna sy’n ei gwneud hi’n wahanol i gantorion gwerin eraill.”

Mae caneuon Rory McLeod yn gofiadwy, yn llawn teimlad, yn foliannus, yn sylwgar, yn dreiddgar, yn ddoniol ac yn angerddol. Maent am bob math o bobl – cymeriadau lliwgar, ffrindiau ysgol, teulu ac mae’r caneuon yn trafod gwahanu, teithio, cariad, anobaith a gwleidyddiaeth. Dywedodd gohebydd y papur newydd St. Louis Post-Dispatch, fod Rory McLeod yn “huawdl wrth fynegi syniadau a osodwyd i gerddoriaeth soniarus a deinamig gyda rhythmau llawn asbri, cytganau bachog ac alawon campus” a nododd gohebydd y Toronto Star ei fod yn “cael ei ddylanwadu gan gerddoriaeth o bob math – Lladin, Klezmer, cerddoriaeth werin a cherddoriaeth ‘roots’. Mae ei gerddoriaeth yn arbennig o rythmig a thelynegol.”  

Mae Rory yn esbonio: “Rwyf wedi teithio i edrych am waith, i ddod o hyd i gysur yn dilyn tor calon, i fod gyda rhywun yr oeddwn yn hiraethu amdani. Roeddwn yn teithio i ymweld â ffrindiau ac ar y ffordd roeddwn yn gwneud ffrindiau newydd. Roeddwn yn crwydro oherwydd fy mod yn llawn cywreinrwydd ac am weld beth oedd y tu hwnt i’r tro nesaf ar y ffordd. Weithiau roeddwn yn teithio er mwyn dod o hyd i well tywydd a chwilio am fwy o wres yr haul a mudo …. fel yr adar a’r morfilod a’r pysgod. Rwyf am i’m caneuon gadw atgofion yn fyw. Rwy’n ceisio adodd hanes o safbwynt y dosbarth gweithiol.”

Dywedodd Sarah Morton, trefnydd y digwyddiad: “Yn ei alawon gallwch glywed elfennau o bob math o gerddoriaeth – mae yma rhythmau fflamenco, rhumba, blues, cerddoriaeth Geltaidd a chalypso, Waltz a cherddoriaeth Polka hyd yn oed. Mae pob cân yn wahanol iawn i’r gân nesaf, ond mae ei arddull unigryw ef hefyd i’w glywed ym mhob cân.” 

Bydd Rory a Catrin O’Neill yn perfformio yn Amgueddfa Ceredigion ddydd Mercher 6 Gorffennaf 2022 am 7:30pm. Mae tocynnau i weld y sioe yn £12 am rhai cynnar neu £13.50 wrth y drws a gellir eu prynu drwy ffonio Amgueddfa Ceredigion ar 01970 633 088 neu ar- lein yma: amgueddfaceredigion.cloudtickets.online/category/1002/2022-01-01/to/2022-12-31

Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei ariannu gan gynllun Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.