20.7 C
Llanelli
Thursday, July 30, 2026
Home Newyddion Lle Lansio Gwerthu Cymunedol Ffres Sir Benfro

Lansio Gwerthu Cymunedol Ffres Sir Benfro

0
463
Abi and Rich New Team Pic scaled
Abi and Rich New Team Pic scaled

Mae PLANED, y sefydliad elusennol blaenllaw ar gyfer datblygu cymunedau, wedi’i leoli yng Ngorllewin Cymru, wedi llwyddo i sicrhau cyllid ac wedi cael caniatâd gan Lywodraeth Cymru i ddarparu Menter Gwerthu Cymunedol Ffres Sir Benfro.

Dywedodd Abi Marriott, Cydlynydd y Prosiect, “Mae hwn yn brosiect dechreuol gwych fydd yn rhedeg gyfochr â Phrosiect cyfredol Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru o fewn PLANED. Bydd hefyd yn gweithredu model dosbarthu hyblyg, cynhwysol, cynaliadwy yn amgylcheddol ac yn economaidd, gan uno grwpiau cymunedol, cynhyrchwyr bwyd a chyflenwyr yng Nghymru sy’n ysgogi cadwyni bwyd.”

O dan arweiniad PLANED, mae’r prosiect wedi derbyn cyllid drwy Raglen Datblygiad Cymunedau Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei ariannu gan y Gronfa Amaethyddiaeth Ewropeaidd ar gyfer Datblygiad Gwledig (EAFRD), Llywodraeth Cymru, a bydd y prosiect hwn yn ymateb i adferiad Covid 19 a galluogi cymunedau ar draws Sir Benfro i gyrchu bwyd wedi’i gynhyrchu’n lleol.

Dywedodd y Prif Weithredwr, Iwan Thomas: “Fel y gwelsom yn ystod y cyfnodau clo diweddar, mae cadwyni cyflenwi lleol a tharddiad lleol y cynnyrch, wedi dod yn gynyddol bwysig, ac mae’r prosiect hwn gan PLANED nid yn unig yn cefnogi hynny, ond mae hefyd yn awyddus i ychwanegu gwerth at ein heconomïau lleol a llesiant ehangach o fewn y cymunedau hynny.”

Os hoffech ddysgu mwy am y prosiect, cysylltwch yn gyntaf ag abi.marriott@planed.org.uk. 

Dysgwch fwy ar y wefan isod https://www.communityfood.wales/cy/pfcv


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.