9.1 C
Llanelli
Wednesday, February 11, 2026
Home Dwr Cymru Dŵr Cymru’n annog cwsmeriaid i ymuno yn ei ymdrechion i gadw’r dŵr...

Dŵr Cymru’n annog cwsmeriaid i ymuno yn ei ymdrechion i gadw’r dŵr yn llifo yn y tywydd crasboeth

0
466
Llandegfedd reservoir July 22
Llandegfedd reservoir July 22
  • Mae tywydd poeth yn gosod galw ychwanegol ar y rhwydwaith dŵr, sy’n gallu taro cyflenwadau cwsmeriaid
  • Mae Dŵr Cymru’n galw ar gwsmeriaid i helpu trwy ddefnyddio dŵr yn ddoeth heb wastraffu dim
  • Mae ardaloedd sy’n boblogaidd gyda thwristiaid, fel Sir Benfro, yn arbennig o fregus
  • Mae’r ardal wedi gweld glawiad isel dros y misoedd diwethaf, â chwta 60% o’r glawiad cyfartalog tymor hir rhwng Mawrth a Mai

Gyda’r rhybudd tywydd ambr estynedig am dywydd crasboeth ar draws y rhan fwyaf o Gymru, mae Dŵr Cymru’n gofyn am gymorth ei gwsmeriaid i gadw’r dŵr yn llifo trwy feddwl am faint maent yn ei ddefnyddio.

Yn ystod y tywydd poeth diweddar, mae’r cwmni wedi gweld y galw am ddŵr yn cynyddu’n agos at y record.  Mae’r galw ychwanegol yma’n ei gwneud hi’n sialens cael digon o ddŵr trwy’r pibellau’n ddigon cyflym, ac yn draenio’r dŵr o’r cronfeydd a’r afonydd sy’n cyflenwi’r dŵr yn gynt.  Mae hyn yn arbennig o bwysig eleni, oherwydd rhwng Mawrth ac Ebrill, bu’r glawiad ar draws Cymru gwta 50% o’r cyfartaledd tymor hir, a dim ond 60% o’r cyfartaledd rhwng Mawrth a Mai.

Mae Dŵr Cymru’n trin ac yn cyflenwi tua 800 miliwn litr o ddŵr glân y dydd i’w dair miliwn o gwsmeriaid – tua’r un faint yn fras ag sydd ei angen i lenwi 320 o byllau nofio maint Olympaidd. Dros y diwrnodau diwethaf, bu cynnydd o 25% yn y galw am ddŵr oedd yn golygu bod angen cyflenwi 198 miliwn litr yn rhagor o ddŵr y dydd.

Mewn ardaloedd sy’n boblogaidd gyda thwristiaid fel Sir Benfro, mae’r galw am ddŵr yn cael ei ddwysáu gan nifer y bobl sy’n ymweld â’r ardal.  Mae Cymru eisoes yn le poblogaidd am wyliau, ond gyda llawer o bobl yn dal i ddewis treulio’u gwyliau yn y DU, disgwylir i nifer y bobl sy’n ymweld â ni fod yn uchel eto eleni.

Mewn ymateb i’r tywydd poeth, mae’r cwmni wedi cynyddu cynhyrchiant yn ei weithfeydd trin dŵr.  Mae hi wedi rhoi’r fflyd gyfan o danceri dŵr ar waith hefyd er mwyn symud dŵr o gwmpas y system i geisio cadw’r lefelau i fyny lle mae’r galw ar ei uchaf.

Mae’r cwmni’n gwneud popeth y gall e i atal colledion o’r system, ac mae ganddo dimau’n gweithio ar draws y wlad yn canfod ac yn trwsio gollyngiadau cyn gynted ag y gallan nhw.  Ar hyn o bryd, mae’r timau’n trwsiorhwng 500 a 600 o ollyngiadau’r wythnos.  Gall cwsmeriaid helpu hefyd trwy roi gwybod i’r cwmni ar unwaith os ydyn nhw’n gweld dŵr yn gollwng.

Er mwyn helpu cwsmeriaid i chwarae eu rhan a dod o hyd i ffyrdd syml o arbed dŵr yn y cartref a’r ardd, mae’r cwmni’n cynnig tips hwylus.  Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Cau’r tap wrth olchi dwylo neu frwsio dannedd
  • Cael cawod yn lle bath
  • Llenwi’r peiriant golchi a’r peiriant golchi llestri â llwyth llawn cyn eu cynnau
  • Peidio â llenwi’r pwll padlo i’r top – ac ar ôl gorffen â’r dŵr, ei ddefnyddio i ddyfrio planhigion yr ardd
  • Peidio â defnyddio taenellwr i gadw’r lawnt yn wyrdd – daw’r lliw nôl pan ddaw’r glaw.
  • Defnyddio ein teclyn digidol ‘Get Water Fit’ i’w helpu i ddod o hyd ffyrdd o arbed dŵr ac arian – ac mae cynnyrch arbed dŵr am ddim ar gael wrth gofrestru hefyd.

Gofynnir hefyd i fusnesau wneud ymdrech arbennig i beidio â gwastraffu dŵr, ac yn arbennig parciau carafanau, cyrsiau golff a ffermydd. Gall cwtogi ychydig bach ar ddefnydd busnes o ddŵr wneud gwahaniaeth mawr wrth helpu Dŵr Cymru i gadw’r dŵr yn llifo dros yr haf, ac mae yna’r fantais ychwanegol hefyd o leihau biliau dŵr y busnes, a’i gynorthwyo i amddiffyn yr amgylchedd.

Ian Christie, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr, Cynllunio Asedau a Chyflawni Cyfalaf:

“Mae disgwyl i’r tymheredd ar draws ein hardal dorri’r record dros y dyddiau nesaf, felly rydyn ni’n gweithio rownd y cloc i sicrhau ein bod ni’n gwneud popeth y gallwn ni i gael gymaint o ddŵr wedi ei drin â phosibl i mewn i’r system.  Ond weithiau mae’r galw’n gallu achosi problemau ar y rhwydwaith, a dyna pam fod angen i ni ofyn am gymorth ein cwsmeriaid i sicrhau bod y dŵr yn cyrraedd pawb.  Mae hi’n hanfodol hefyd fel y gallwn helpu i gynnal y cyflenwadau yn ein cronfeydd a’n hafonydd ar ôl gwanwyn a haf cynnar sych.

“Mae ein cyngor i gwsmeriaid yn syml, defnyddiwch y dŵr sydd ei angen arnoch, ond plîs peidiwch â’i wastraffu.”

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

“Cofiwch fod yn arbennig o ystyriol o’r dŵr rydych yn ei ddefnyddio yn ystod y tywydd poeth yma. Cofiwch gau’r tap wrth frwsio dannedd, cael cawod yn lle bath ac ailystyried eich defnydd o daenellwyr a phyllau padlo yn yr ardd. Mae ein dŵr yfed yma yng Nghymru gyda’r gorau yn y byd, felly er ein bod ni’n gofyn i chi arbed dŵr, cofiwch yfed digon er mwyn cadw’n iach yn y gwres chwilboeth yma.”

Aeth y Gweinidog Newid Hinsawdd ymlaen i ddweud: “Mesurau bychain yw’r rhain, ond bydd pob cam a gymerwn yn helpu i gadw ein dŵr yn llifo ac yn lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd”.

Dywedodd Rhodri Williams, Cadeirydd Cyngor y Defnyddwyr Dŵr (CCW) yng Nghymru:

“Gyda’r tymheredd yn codi, mae ein galw am ddŵr yn cynyddu hefyd, ac mae hynny’n gallu rhoi mwy o straen ar y rhwydwaith. Dyna pam ei bod hi mor bwysig ein bod ni i gyd yn defnyddio dŵr mor ddoeth ag y gallwn ni.”

“Yn ôl ein gwaith ymchwil, nid yw dau o bob tri ohonom wedi gwneud ymdrech i ddefnyddio llai o ddŵr dros y chwe mis diwethaf, ond mae yna lawer o ffyrdd syml o arbed dŵr – boed hynny trwy dreulio cwpwl o funudau yn llai yn y gawod, neu ddewis defnyddio can dyfrio yn hytrach na phibell chwistrellu. Gall y newidiadau syml yma leddfu’r pwysau ar yr amgylchedd ac arbed arian i ni hefyd.”

Mae rhagor o wybodaeth am ffyrdd o arbed dŵr, a manylion sut i gael gafael ar ddyfeisiau arbed dŵr ar gael trwy fynd i dwrcymru.com/arbed-dwr


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.