5.4 C
Llanelli
Tuesday, February 3, 2026
Home Business Prosiect HELIX yn rhoi hwb o £235 miliwn i ddiwydiant bwyd a...

Prosiect HELIX yn rhoi hwb o £235 miliwn i ddiwydiant bwyd a diod Cymru

0
375
Project HELIX boost
Project HELIX boost

Mae allbynnau diweddaraf Prosiect HELIX, menter a ddatblygwyd i hybu arloesedd ac effeithlonrwydd yn niwydiant bwyd a diod Cymru, yn dangos ei fod wedi cyflawni dros £235 miliwn o effaith, ers ei lansio yn 2016.

Mae Prosiect HELIX a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r UE yn fenter strategol Cymru gyfan, a ddarperir gan Arloesi Bwyd Cymru, sy’n bartneriaeth o dair canolfan fwyd yng ngogledd, canolbarth/gorllewin a de Cymru.

Mae gan gwmnïau cymwys fynediad at ystod o arbenigedd i’w helpu i dyfu a llwyddo trwy ddatblygu cynhyrchion newydd arloesol, cynyddu eu heffeithlonrwydd a mabwysiadu agwedd strategol at fusnes.

Hyd yma mae Prosiect HELIX wedi sicrhau manteision clir i ddiwydiant bwyd a diod Cymru gan gynnwys:

• £235 miliwn o effaith

• Creu 529 swydd a diogelu 2755 arall

• Cefnogi 996 unigolyn a 628 busnes

• Ymgymryd â 1039 diwrnod hyfforddi

• Cynorthwyo 394 busnes newydd

• Cyrchu 905 marchnad newydd, a

• Datblygu 1587 cynnyrch bwyd a diod newydd

Wrth sôn am y llwyddiant, dywedodd Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths, “Mae’r ffigurau hyn yn dangos yr effaith gadarnhaol mae Prosiect HELIX wedi’i chael ar ein diwydiant bwyd a diod ac yn tanlinellu pwysigrwydd helpu busnesau i dyfu, arloesi, cystadlu a chyrraedd marchnadoedd newydd.

“Hwb o £235 miliwn, creu swyddi newydd a diogelu rhai eraill, datblygu cynhyrchion newydd, lansio busnesau newydd, gweithlu mwy medrus – mae hyn i gyd yn helpu i wella enw da Cymru a’r diwydiant bwyd a diod rhyngwladol ymhellach. Byddwn yn annog cynhyrchwyr a gweithgynhyrchwyr i archwilio pa gymorth sydd ar gael trwy Brosiect HELIX a sut y gall ei arbenigedd a’i gyfleusterau technegol uwch fod o fudd iddynt.”

Ymhlith y cwmnïau sydd wedi derbyn cymorth gan Brosiect HELIX mae Puffin Produce. Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr, Huw Thomas, “O ganlyniad i’r wybodaeth a’r arbenigedd gan Arloesi Bwyd Cymru, rydyn ni wedi gallu addasu a chryfhau ein systemau rheoli ansawdd yn Puffin Produce; gan arwain at gynnal ein hardystiad BRCGS a’r Tractor Coch. Mae’r gefnogaeth a gawson ni gan Brosiect HELIX wedi bod yn amhrisiadwy ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda nhw.”

Ychwanegodd Alana Spencer, o Ridiculously Rich, “Roedd y cymorth sydd ar gael gan Arloesi Bwyd Cymru yn anhygoel ac ni fydden ni wedi gallu ei wneud hebddynt. Roedden nhw yno bob cam o’r ffordd, cyn i ni hyd yn oed adeiladu’r becws! Gwnaethon nhw ein helpu gydag unrhyw gwestiwn, boed yn fawr neu’n fach, a daethon nhw allan i ymweld â ni ar y safle ar sawl achlysur hyd yn oed i’n harwain yn y ffordd orau i gael ein cymeradwyo gan SALSA. Mae’r cyllid sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru yn hynod ddefnyddiol, byddai’r broses wedi cymryd llawer mwy o amser pe na baen ni wedi cael y cymorth hwn ac efallai y byddai wedi gohirio twf y busnes yn sylweddol.”

Yn y cyfamser, i Emma Morris, Rheolwr Datblygu Busnes Trailhead Fine Foods, “Mae’r cyngor a chymorth mae’r Ganolfan Technoleg Bwyd wedi’u rhoi i ni wedi bod yn amhrisiadwy. Gyda’u cymorth nhw rydyn ni wedi gallu cadw ein hardystiad SALSA. Heb ardystiad o’r fath mae’n anodd i fusnesau bwyd dyfu ac mae wedi cynnig cyfleoedd gwych i ni ennill cwsmeriaid newydd ac ehangu i farchnadoedd newydd.

“Nid yn unig mae’r ganolfan wedi ein helpu ond mae’r ddogfennaeth berthnasol wedi ein hysbrydoli i gymryd perchnogaeth o’r broses fel y gallwn ddysgu a datblygu. Mae tîm cyfan y Ganolfan Technoleg Bwyd wedi bod yn gefnogol a chymwynasgar. Maen nhw wedi bod yno drwy’r amser, gan roi sicrwydd inni ein bod yn dilyn y llwybr cywir.”

Mynegodd yr Athro David Lloyd, ar ran Arloesi Bwyd Cymru, ei falchder gyda’r ffigurau diweddaraf, “Trwy Brosiect HELIX rydyn ni wedi gallu cefnogi busnesau bwyd a diod yng Nghymru drwy uwchsgilio’r gweithlu, cefnogi busnesau newydd, creu a diogelu swyddi a helpu busnesau i dyfu a ffynnu.

“Mae’r sector bwyd a diod yn hanfodol i economi Cymru a thrwy weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, y byd academaidd a diwydiant bwyd Cymru rydyn ni wedi gosod targedau uchelgeisiol ar gyfer arloesi, creu swyddi a thwf economaidd o fewn y sector bwyd a diod.”

I gael rhagor o wybodaeth am gymorth a ariennir gan Brosiect HELIX, ewch i https://foodinnovation.wales/cefnogaeth-wedii-hariannu/?lang=cy


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.