18.3 C
Llanelli
Wednesday, September 30, 2026
Home Newyddion Lle “AMHEUAETH O DDIFRIF AM GRAFFU CYMREIG” YMCHWILIAD COVID Y DU WEDI CYHOEDDI

“AMHEUAETH O DDIFRIF AM GRAFFU CYMREIG” YMCHWILIAD COVID Y DU WEDI CYHOEDDI

0
568
Rhun ap Iorwerth
Rhun ap Iorwerth

“Dydi Cymru ddim yn cael ei chraffu’n llawn – rhowch ymchwiliad Cofid penodol i ni fel y gwnaethoch ei addo” – Rhun ap Iorwerth AS yn ysgrifennu at Prif Weinidog

Yn dilyn lansiad swyddogol yr Ymchwiliad Covid-19 y DU ar 21 Gorffennaf 2022, mae llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn mynegi’r “nifer o glychau larwm” yn dilyn datganiad agoriadol y Cadeirydd.

Mae Mr ap Iorwerth wedi mynegi pryder ynghylch diffyg persbectif penodol i Gymru i fodiwlau 1 a 3, a’r “oedi” i’r elfen Gymreig o Fodiwl 2.

Ddydd Iau diwethaf, cyhoeddodd Ymchwiliad Covid-19 y DU dri modiwl o’r ymchwiliad, fydd yn archwilio:

·       Modiwl 1: gwytnwch a pharodrwydd y DU;

·       Modiwl 2: llywodraethu gwleidyddol a gweinyddol craidd a gwneud penderfyniadau (DU):

o   Modiwl 2A: Yr Alban

o   Modiwl 2B: Cymru

o   Modiwl 2C: Gogledd Iwerddon

·       Modiwl 3: effaith Covid-19 ar systemau gofal iechyd, cleifion, staff ac ysbytai.

Yn y gorffennol mae’r Prif Weinidog wedi datgan ei ddisgwyliad i’r ymchwiliad roi’r darlun “gorau y gall o brofiad teuluoedd, cleifion, staff yma yng Nghymru yn ystod y pandemig”. Ond does gan fodiwl 3, sy’n archwilio’r effaith i gleifion a staff ddim elfen benodol Gymreig iddo.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros iechyd a gofal, Rhun ap Iorwerth AS,

“Fe wnaeth y datganiad agoriadol gan Gadeirydd Ymchwiliad y DU achosi cryn dipyn o gonsyrn ac rwy’n gofyn am eglurhad gan y Prif Weinidog ar ddau bwynt pwysig.

“Rwyf am wybod pam nad oes safbwynt Cymreig penodol i bob un o’r tri modiwl ymchwiliad a pham ei bod yn ymddangos bod oedi cyn codi cwestiynau penodol ynglŷn â Chymru mewn perthynas â‘r ail fodiwl.

“Dylid craffu ar benderfyniadau sydd wedi’u gwneud yng Nghymru yng Nghymru, ond o ystyried y cwmpas cul a amlinellir yn natganiad agoriadol Cadeirydd y DU – pan mai dim ond un modiwl allan o dri fydd â ffocws Cymreig – mae amheuaeth o ddifrif am hyn.

“Mae Prif Weinidog Cymru eisoes wedi mynnu os na fydd Cymru’n cael ei harchwilio’n llawn, yna bydd angen i ni gael ymchwiliad penodol i Gymru. Byddwn i a’r miloedd o deuluoedd mewn profedigaeth yng Nghymru sydd am gael atebion yn fawr at ei ymateb.  Ac mae’n rhaid i ni gael atebion.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.