8.4 C
Llanelli
Sunday, March 8, 2026
Home Dwr Cymru Gwaharddiad Defnydd Dros Dro (gwaharddiad pibau dyfrhau) i amddiffyn cyflenwadau dŵr ac...

Gwaharddiad Defnydd Dros Dro (gwaharddiad pibau dyfrhau) i amddiffyn cyflenwadau dŵr ac amgylchedd Sir Benfro

0
468
four min
four min

Yn dilyn y flwyddyn sychaf ers 1976, tymereddau uchaf erioed a chynnydd yn y galw am ddŵr, mae adnoddau dŵr (neu gronfeydd dŵr) ar gyfer ardal Sir Benfro yn agosáu at lefelau sychder. Er nad yw hyn yn peri risg uniongyrchol i gyflenwadau dŵr ar gyfer yr ardal, mae’n rhaid i Dŵr Cymru gymryd camau i sicrhau bod digon o ddŵr yn parhau i gyflenwi cwsmeriaid a diogelu’r amgylchedd lleol dros y misoedd nesaf.

O 08.00am ar 19 Awst, mae’r cwmni wedi cyhoeddi y bydd Gwaharddiad Defnydd Dros Dro, neu waharddiad pibau dyfrhau i roi ei enw cyffredin, yn dod i rym ar gyfer cwsmeriaid yn Sir Benfro. Bydd hyn yn golygu na fydd cwsmeriaid yn cael defnyddio piben ddyfrhau i gyflawni gweithgareddau yn eu heiddo nac o’i amgylch fel dyfrio planhigion neu lenwi pyllai padlo neu dwbâu twym.

Dim ond 60% o’r glawiad disgwyliedig y mae Sir Benfro wedi’i weld rhwng mis Mawrth a Gorffennaf ac ers bod yn ymwybodol o’r glawiad is nag arfer, mae’r cwmni wedi cynnal nifer o weithgareddau i helpu gyda chadwraeth dwr yn yr ardal. Mae hyn wedi cynnwys cynnydd mewn canfod ac atgyweirio gollyngiadau, a defnyddio tanceri dŵr i ymateb i gyfnodau brig yn y galw mewn rhai rhannau o’r Sir.

Dywedodd Ian Christie, Rheolwr-Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr ar gyfer Dŵr Cymru: “Nid ydym wedi gweld cyfnodau mor estynedig o amodau sych yn Sir Benfro ers 1976. Nid yw’r penderfyniad i gyflwyno gwaharddiad pibau dyfrhau yn un rydym wedi’i wneud yn ddi-hid, ond os ydym am sicrhau bod digon o ddŵr i’n cyflenwi am weddill yr haf ac i’r hydref, mae angen i ni weithredu nawr i geisio atal rhagor o gyfyngiadau nes ymlaen. Bydd y gwaharddiad yn berthnasol i ychydig mwy na 2% o’r boblogaeth o dair miliwn yr ydym yn ei gwasanaethu yng Nghymru. Yn fras, nid ydym yn bwriadu cyflwyno gwaharddiadau yn ehangach ar draws ein hardal weithredu.

“Rydym wedi gwneud llawer o waith i gyfathrebu â chwsmeriaid yn yr ardal dros y misoedd diwethaf am bwysigrwydd peidio â gwastraffu dŵr ac rydym yn gwerthfawrogi’n wirioneddol y camau y mae pobl wedi’u cymryd eisoes. Rydym bellach yn annog pawb ledled Sir Benfro i barchu’r gwaharddiad a pheidio â defnyddio piben ddyfrhau. Mae eithriadau, yn arbennig i ddeiliaid Bathodyn Glas neu sydd ar ein Cofrestr Gwasanaeth Blaenoriaeth. Mae rhestr lawn o’r hyn nad yw pobl yn cael ei wneud o dan y gwaharddiad a’r eithriadau ar gael ar ein gwefan – www.dwrcymru.com/drought. Byddwn hefyd yn ysgrifennu at yr holl gwsmeriaid dan sylw ac yn cyhoeddi’r gwaharddiad yn ehangach yn yr ardal.”

Cyn gweithredu’r gwaharddiad, bydd y cwmni’n cynnal cyfnod ymgynghori o saith diwrnod rhwng 10 a 17 Awst. Os hoffai unrhyw un gyflwyno sylw i’r cwmni i’w ystyried i gael esemptiad nad yw wedi’i amlinellu yn y gwaharddiad eisoes, dylen nhw wneud hynny yn ystod y cyfnod hwn.

Ychwanegodd Mr Christie: “Tra bydd y gwaharddiad ar waith, byddwn yn parhau i wneud pob ymdrech o ran cadwraeth dŵr. Bydd ein timau allan drwy’r dydd a’r nos yn canfod gollyngiadau a’u hatgyweirio cyn gynted â phosibl. Hoffem ddiolch i’r cwsmeriaid am eu cydweithrediad yn y mater hwn a gobeithio, trwy weithio gyda’n gilydd, y gallwn ddiogelu cyflenwadau dŵr yfed ac atal rhagor o gyfyngiadau yn y dyfodol agos”.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.