Mae 14,000 o ddisgyblion ar draws Gorllewin Cymru wedi elwa o raglen addysg Dwr Cymru mewn un flwyddyn, gan nodi blwyddyn record.

0
229
Dwr Cymru December 2022-Education Centre LOWRE

Mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi nodi blwyddyn flaengar ar gyfer ei Raglen Addysg, gan gefnogi 14,000 o ddysgwyr yng Ngorllewin Cymru rhwng Medi 2023 a Gorffennaf 2024.

Mae’r rhaglen addysg, sydd wedi tyfu ers lansio’r strategaeth yn 1998, yn cynnig ystod eang o gyfleoedd dysgu ymarferol ac am ddim o fewn ystafelloedd dosbarth. O dan arweiniad y Cwricwlwm Cenedlaethol i Gymru ac yn trafod nifer o bynciau, mae’r cwmni nid-er-elw wedi ehangu ei ddarpariaeth ar draws ysgolion yn ei ardal – gan ddarparu mynediad eang i adnoddau addysgu a dysgu.

Mae’r ddarpariaeth, sy’n targedu lleoliadau addysg ffurfiol, yn annog cenedlaethau’r dyfodol i ystyried faint o ddŵr maen nhw’n ei ddefnyddio, yn adeiladu ymwybyddiaeth o rôl Dŵr Cymru yn y gylchred ddŵr, ac yn tynnu sylw at effaith gwaredu eitemau fel ffonau cotwm, cadachau gwlyb a braster i’r carthffosydd. Mae hefyd yn ysbrydoli diddordeb cynnar mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM), diddordeb yn y diwydiant dŵr ac yn dangos yr ystod eang o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael.

Mae’r Tîm Addysg yn Dŵr Cymru wedi treulio 1,350 awr i addysgu disgyblion yng Nghymru trwy bron i 600 o ymweliadau ysgol, gan ddefnyddio dull unigryw i’r diwydiant o secondio athrawon yn flynyddol i gyfle datblygiad proffesiynol gyda’r cwmni am flwyddyn. Mae’r rhaglen wedi parhau i dderbyn adborth hynod gadarnhaol gan ysgolion, sydd wedi canmol yr ymdrechion i ehangu profiadau, gwybodaeth a sgiliau disgyblion. Mae’r holl sesiynau’n cyd-fynd â’r pedwar pwrpas y Cwricwlwm Cenedlaethol i Gymru ac maent ar gael yn rhad ac am ddim, gan sicrhau profiad addysgol gwerthfawr a hygyrch.

Dywedodd Templeton C.P. School, am eu hymweliad ym mis Mawrth:

“Gweithdy gwych, roedd y plant wedi ymgysylltu drwyddi draw. Cyflwyniad ffantastig a gweithgareddau ymarferol rhagorol, gan ganiatáu i’r plant ddatrys y broblem yn annibynnol ac yn annog gwaith tîm.”

Dywedodd Ysgol Croesgoch, am eu hymweliad ym mis Mawrth:

“Diddorol ac addysgiadol. Defnydd gwych o sgiliau rhifedd. Gweithdy hwyliog, rhyngweithiol a ddangosodd wir faint o ddŵr rydym yn ei ddefnyddio mewn diwrnod.”

Dywedodd Claire Roberts, Pennaeth Ymgysylltu Cymunedol:

“Rydyn ni’n falch iawn o weld cyrhaeddiad rhyfeddol ein Rhaglen Addysg eleni. Mae ymgysylltu â dros 90,000 o ddysgwyr yn dyst i’n hymrwymiad i addysgu’r genhedlaeth iau am effeithlonrwydd dŵr a’r amgylchedd. Mae ein dull arloesol, gan gynnwys secondio athrawon, wedi bod yn allweddol wrth ddarparu profiad addysgol cyfoethog sy’n taro deuddeg gyda disgyblion ac athrawon.”

Mae ymrwymiad Dŵr Cymru i addysgu’r genhedlaeth iau am werth dŵr wedi arwain at enw da hirhoedlog o fewn ysgolion ar draws Cymru a Henffordd. Ers lansio ei strategaeth addysg, mae’r cwmni wedi gweithio gyda 800,000 o ddisgyblion. Mae’r rhaglen addysg yn parhau i gyrraedd degau o filoedd o ddisgyblion bob blwyddyn, gan sicrhau bod y genhedlaeth nesaf wedi’i harfogi’n dda â’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i warchod ein hadnodd mwyaf gwerthfawr.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here