17.7 C
Llanelli
Sunday, September 20, 2026
Home Newyddion Lle Cwrs newydd yn darparu llwybr uniongyrchol i yrfa yn gofalu am gleifion...

Cwrs newydd yn darparu llwybr uniongyrchol i yrfa yn gofalu am gleifion llawfeddygol

0
1062
OPD edited pic
OPD edited pic

Os ydych chi erioed wedi ystyried gweithio mewn theatr llawdriniaeth, wrth galon gofal iechyd ysbyty, gallai cwrs newydd eich rhoi ar y llwybr gyrfa perffaith.

Am y tro cyntaf mae Prifysgol Abertawe yn cynnig BSc (Anrh) mewn Ymarfer yr Adran Llawdriniaethau, ychwanegiad cyffrous at yr ystod o gyrsiau a gynigir yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd.

Yn rôl gymharol newydd i ofal iechyd y DU a Chymru, nid meddygon meddygol yw Ymarferwyr Adrannau Llawdriniaeth ond yn hytrach maent yn rhan o’r tîm clinigol perthynol sy’n gofalu am gleifion llawfeddygol.

Mae ODP yn bresennol ac yn ymwneud â phob cam gweithredu. Mae eu rôl yn hollbwysig i rediad esmwyth adran lawdriniaeth, gan gynnal diogelwch, cysur a hyder cleifion o ddechrau i ddiwedd y broses. Mae’n cynnig gyrfa werth chweil iawn i rywun sydd â diddordeb mewn gofal cleifion sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm.

Addysgir myfyrwyr gan ODPs cymwys, nyrsys, meddygon, a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd sy’n darparu cyfuniad o drylwyredd damcaniaethol a mewnwelediad proffesiynol ochr yn ochr â phrofiad ymarferol.

Yn ogystal, mae cwrs Abertawe newydd gael ei gymeradwyo gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC), y corff sy’n goruchwylio ac yn gosod y safonau ar gyfer addysg a hyfforddiant gofal iechyd.

Dywedodd Arweinydd y Cwrs, yr Athro Cyswllt Pete Brown: “Rwyf wrth fy modd bod y rhaglen BSc (Anrh) Ymarfer Adran Llawdriniaeth (ODP) wedi derbyn cymeradwyaeth yr HCPC a bydd yn ymuno â’r ystod o raglenni gofal iechyd a gynigir eisoes gan Brifysgol Abertawe.

“Ar hyn o bryd rydym yn gwahodd myfyrwyr i ymuno â’r rhaglen fesul clirio i ddechrau eu taith ar y llwybr gyrfa anhygoel hwn. Mae ODPs yn gweithio mewn theatrau llawdriniaethau yn y GIG a’r sectorau preifat, yn darparu gofal arbenigol i gleifion sy’n cael llawdriniaeth ac yn gweithio ochr yn ochr ag anesthetyddion, llawfeddygon, nyrsys, cynorthwywyr gofal iechyd ac ystod o staff clinigol aml-sgil. Mae hwn yn llwybr gyrfa cyffrous a gwerth chweil sy’n cynnig rhagolygon gyrfa rhagorol.”

Mae Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnig ystafelloedd clinigol realistig – gan gynnwys theatr llawdriniaethau efelychiadol – sy’n galluogi myfyrwyr i ddysgu sgiliau ymarferol mewn amgylchedd diogel dan oruchwyliaeth. Maen nhw hefyd yn cael profiad yn y gweithle ar

draws byrddau iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bae Abertawe.

Hefyd, os gallwch ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd wedi i chi raddio, gallech gael eich ffioedd dysgu wedi’u talu’n llawn fesul Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru, yn ogystal â chyllid cynhaliaeth a benthyciad cyfradd is gan Gyllid Myfyrwyr.

Dewch i ddarganfod mwy am y cwrs a chofiwch, mae ar gael trwy glirio felly gallwch ffonio 0808 175 3071 am arweiniad uniongyrchol.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.